Manylion y penderfyniad

Draft Housing Revenue Account (HRA) Budget 2018/19 & 30 Year Business Plan

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To present for consideration the draft Housing Revenue Account (HRA) Budget for 2018/19, and the summary HRA 30 year Business Plan.

Penderfyniadau:

Bu i’r Cynghorydd Attridge gyflwyno Cyllideb Cyfrir Refeniw Tai (HRA) Drafft 2018/19 a Chynllun Busnes 30 Mlynedd.

 

            Roedd y blaenoriaethau strategol ar gyfer y flwyddyn, a’r cynllun busnes yn cynnwys:

·         Cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) erbyn 2020 a darparu buddsoddiad parhaus digonol er mwyn cynnal lefelau WHQS;

·         Ar ôl dadgyfuno rhenti, symudiad parhaus tuag at gostau gwasanaeth effeithlon ac adennill costau yn llawn;

·         Parhau i bontio rhenti er mwyn cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru (LlC);

·         Pennu cyllideb gytbwys gydag o leiaf 3% o warged refeniw ar wariant;

·         Gwneud y mwyaf o effeithlonrwydd refeniw er mwyn lleihau’r benthyciadau fydd eu hangen i gyrraedd WHQS erbyn 2020; a

·         Darparu tai Cyngor newydd.

 

Roedd polisi LlC yn caniatáu hyblygrwydd i bob landlord i bennu’r band rhent ar nal ai rent targed, 5% yn is neu 5% yn uwch.  Roedd y Cyngor wedi cytuno i bennu rhenti Sir y Fflint yn achos y stoc presennol ar y lefel targed er mwyn cynorthwyo fforddiadwyedd tenantiaid.  Mae rhenti ar gyfer tai newydd wedi cael eu pennu ar 5% yn uwch na’r targed.  Roedd y mynegeion chwyddiant a ddefnyddiwyd ar gyfer codi rhenti bob  blwyddyn yn seiliedig ar Fynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) yn ystod y mis Medi blaenorol, a gwir gynnydd o 1.5%   Roedd CPI ar gyfer Medi 2017 yn 3%, plws 1.5%, oedd yn rhoi chwyddiant rhent o 4.5% ar gyfer 2018/19.  Roedd yna bryder am fforddiadwyedd cynnydd sylweddol, ac ar ôl ystyried yr opsiynau eraill a gwrando ar safbwyntiau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a’r Ffederasiwn Tenantiaid, argymhellodd y Cynghorydd Attridge y dylai’r cynnydd mewn rent fod yn 3% a hyd at £2 ar gyfer 2018/19.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) y byddai’r gostyngiad mewn incwm i’r Cyngor, o ganlyniad i bennu’r incwm is a argymhellwyd, yn £300,000 yn 2018/19.  Nid oedd hynny’n effeithio’n negyddol ar allu’r Cyngor i gyrraedd WHQS erbyn 2020, nac i gyflawni rhwymedigaethau ei raglen tai newydd.  Ychwanegodd bod trafodaethau yn mynd yn eu blaenau gyda LlC ynghylch a ellid cynyddu’r cap ar fenthyca.

 

Bu i’r Cynghorydd Thomas groesawu’r adroddiad a bu iddo ganmol buddsoddiad y Cyngor mewn stoc tai.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at y cynnydd mewn ôl-ddyledion rhent yn achos y tenantiaid hynny oedd yn derbyn Credyd Cynhwysol, a gofynnodd sut y byddai hynny yn cael ei reoli.  Dywedodd bod nifer y taliadau tai dewisol wedi dyblu yn ystod y tri mis diwethaf, oedd yn arwydd o’r problemau yn y sector preifat, a phwysleisiodd bwysigrwydd rhaglen tai newydd y Cyngor fyddai’n arwain at y rhenti isaf yn y sir i denantiaid.  Eglurodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) bod yr ôl-ddyledion rhent yn £200k yn fwy na’r flwyddyn flaenorol, a hynny cyn cyflwyno Credyd Cynhwysol.  Roedd swyddogion yn gweithio â chwsmeriaid er mwyn sefydlu rhaglenni ad-dalu er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw ôl-ddyledion.  

 

PENDERFYNWYD:

           

(a)   Dylai’r Cyngor gymeradwyo ac argymell cyllideb Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer

2018/19 a’r Cynllun Busnes;

 

(b) Dylid cymeradwyo’r opsiwn o bennu cynnydd rhent ar gyfer 2018/19, ac y dylid argymell hynny i’r Cyngor, ar 3% (plws neu namyn £2), gyda rhenti targed yn cael eu cymhwyso ar gyfer tenantiaethau newydd, fel cynnydd mwy fforddiadwy na fformiwla Polisi rhent Llywodraeth Cymru fyddai’n pennu cynnydd o 4.5% (plws neu namyn £2);

 

(c) Dylid cymeradwyo ac argymell i’r Cyngor gynnydd mewn rhent garej o £1 yr wythnos a chynnydd mewn rhent plot garej o £0.20c yr wythnos; a

 

(d)   Dylid cymeradwyo’r Rhaglen Cyfalaf Cyfrif Refeniw Tai 2018/19 arfaethedig a’i hargymell i’r Cyngor.

Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine

Dyddiad cyhoeddi: 09/04/2018

Dyddiad y penderfyniad: 20/02/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/02/2018 - Cabinet

Yn effeithiol o: 01/03/2018

Accompanying Documents: