Manylion y penderfyniad

Quarter 3 Council Plan 2017/18 Monitoring Report

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To review the levels of progress in the achievement of activities, performance levels and current risk levels as identified in the Council Plan 2017/18

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Adroddiad Monitro Cynllun Chwarter 3 y Cyngor 2017/18.Darparodd wybodaeth gefndirol a chynghorodd bod yr adroddiad monitro ar gyfer Cynllun y Cyngor 2017/18 yn adroddiad cadarnhaol gydag 81% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad, a 69% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd. Roedd y dangosyddion perfformiad yn dangos cynnydd da gydag 84% yn cyfarfod neu bron a chyfarfod targed y cyfnod.Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (67%) neu’n fân risgiau (10%).

 

            Adroddodd y Prif Weithredwr ar y dangosydd perfformiad a oedd yn dangos statws coch ar gyfer y perfformiad presennol yn erbyn targed a'r risgiau mawr i'r Pwyllgor fel y manylir yn yr adroddiad.

Blaenoriaeth:Cyngor sy’n Gwasanaethu – graddfa’r her ariannol

 

Blaenoriaeth:Cyngor Cefnogol – argaeledd cyllid digonol i ddarparu blaenoriaethau allweddol.

 

Atgoffodd y Prif Weithredwr y Pwyllgor y byddai, fel Pwyllgor Trosolwg a Chraffu arweiniol ar gyfer monitro perfformiad, yn derbyn pob arolwg chwarterol yn y dyfodol, yn hytrach na dim ond y rheiny’n ymwneud â materion o fewn cylch gwaith y pwyllgor.

 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai gweithdy ‘Deall Adroddiadau Perfformiad' yn cael ei gynnal i’r holl Aelodau ar ddiwedd mis Mehefin / ar ddechrau mis Gorffennaf, i gysylltu ag adroddiad alldro Cynllun y Cyngor i’r Cyngor ar 19 Mehefin.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Arnold Wooley a fyddai modd i adroddiadau yn y dyfodol gynnwys meysydd o danberfformiad hefyd a dywedodd y byddai hyn wedi cynorthwyo â deall y ffigyrau a gyflwynwyd ym mharagraff 1.04 yr adroddiad. Cyfeiriodd hefyd at y ffigyrau a gyflwynwyd ym mharagraff 1.06 yr adroddiad, yn ymwneud â dadansoddiad y perfformiad presennol, a dywedodd nad oedd y ffigyrau hyn yn cysoni â’r ffigyrau ym mharagraff 1.04. Rhoddodd y Prif Weithredwr eglurhad a dywedodd y byddai’n darparu mwy o wybodaeth i aelodau ar y dadansoddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiad Monitro Cynllun Chwarter 3 y Cyngor 2017/18; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor, fel pwyllgor arweiniol ar gyfer materion perfformiad, yn ail gadarnhau ei gais i dderbyn holl wybodaeth chwarterol Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19 ac wedi hynny.

 

Awdur yr adroddiad: Robert Robins

Dyddiad cyhoeddi: 05/06/2018

Dyddiad y penderfyniad: 15/03/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/03/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: