Manylion y penderfyniad
Social Media Protocol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i ystyried a ddylai’r Cyngor fabwysiadu protocol cyfryngau cymdeithasol, yn dilyn trafodaethau. Er nad yw’r polisi presennol yn cynnwys unrhyw gyfyngiad, mae’n darparu canllawiau i swyddogion ar sut i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn ofalus, canllawiau y gellid eu defnyddio gan Aelodau hefyd.
Mae canllawiau ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol – a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) – wedi eu rhannu gyda’r Pwyllgor. Dywedwyd y gall y Pwyllgor gyflwyno sylwadau i gyfrannu at adolygiad o’r canllawiau gan CLlLC.
Siaradodd Mrs Phillipa Earlam o blaid hyn ac awgrymu y dylid cynnal trafodaeth ehangach yn Fforwm Safonau Gogledd Cymru. Dywedodd hefyd y gellid gofyn am farn y Swyddog Monitro, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, y Tîm Cyfathrebu a’r Rheolwr TGCh, sydd wedi eu nodi fel ffynonellau cyngor yng nghanllawiau CLlLC.
Cytunodd Mr Ken Molyneux y dylid diweddaru canllawiau CLlLC.
Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at gylch gwaith y Pwyllgor ac awgrymodd y dylai’r adborth ganolbwyntio ar atal achosion o dorri’r Cod Ymddygiad.
Dywedodd y Cynghorydd Johnson y dylid cynnwys barn Cynghorwyr Tref a Chymuned wrth gyflwyno sylwadau i CLlLC.
Holodd Mrs Julia Hughes a yw aelodau newydd yn derbyn canllawiau CLlLC. Dywedodd y Swyddog Monitro bod hyn yn rhan o’r sesiynau ‘Diogelwch yn Gyntaf’ ar gyfer aelodau newydd. Dywedodd Mrs Hughes y dylid diweddaru’r canllawiau i adlewyrchu'r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ehangach sydd bellach ar gael ac i amlygu’r peryglon posibl.
Crynhodd y Cadeirydd y pwyntiau a godwyd a chytunwyd arnynt gan y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn dal yn dibynnu ar ganllawiau CLlLC o ran y cyfryngau cymdeithasol;
(b) Gofyn i’r canlynol gyflwyno awgrymiadau ar gyfer diweddaru neu wella’r canllawiau i CLlLC:
· Fforwm Safonau Gogledd Cymru
· Swyddog Monitro, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, y Tîm Cyfathrebu a Rheolwr TGCh y Cyngor; a
(c) Bod y Pwyllgor yn cyflwyno sylwadau i CLlLC ar yr angen i ddiweddaru’r canllawiau i adlewyrchu'r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ehangach i amlygu’r peryglon posibl i ddefnyddwyr.
Awdur yr adroddiad: Democracy & Governance Manager (Tracey Cunnew)
Dyddiad cyhoeddi: 28/03/2018
Dyddiad y penderfyniad: 05/02/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/02/2018 - Pwyllgor Safonau
Accompanying Documents: