Manylion y penderfyniad
Induction and training for the Standards Committee
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i ystyried anghenion hyfforddiant a datblygu aelodau’r Pwyllgor, yr oedd rhai ohonynt wedi ymuno yn ystod blwyddyn bresennol y Cyngor.
Awgrymodd Mrs. Julia Hughes hyfforddiant ar God Ymddygiad Aelodau. Cyfeiriodd at gylch gwaith y Pwyllgor a gofynnodd sut gallai aelodau fod yn sicr o’r hyfforddiant a roddir i gynrychiolwyr eglwys a rhieni-lywodraethwyr ar gynnal y safonau. Byddai’r Swyddog Monitro yn ceisio cadarnhad ar y cymorth hwn oedd yn cael ei ddarparu gan y portffolio Addysg ac Ieuenctid. Awgrymodd Ms. Hughes bod y Pwyllgor yn ystyried manylion rhaglenni hyfforddiant a lefelau presenoldeb, yn arbennig o ystyried y pryderon am ystadegau presenoldeb hyfforddi cynrychiolwyr cynghorau tref a chymuned. Cyfeiriodd ar yr arfer yng Nghyngor Sir Ddinbych i aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau fynychu cynghorau tref a chymuned yn eu tro. Hyrwyddwyd hyn fel peirianwaith cefnogaeth i arsylwi ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor am y canfyddiadau, ac i amlygu gwaith y ddwy ochr.
Siaradodd Mr. Rob Dewey o blaid mabwysiadu trefniadau tebyg yn Sir y Fflint, fel y gwnaeth y Cynghorydd Paul Johnson a ddywedodd y byddai angen hyfforddiant er mwyn galluogi aelodau’r Pwyllgor i gyflawni’r rôl hon.
Awgrymodd Arnold Woolley y dylid ymgynghori a chynghorau tref a chymuned yn y man cyntaf. Dywedodd y dylid sefydlu'r rheswm dros ddiffyg mynychu sesiynau hyfforddi er mwyn canfod ffordd ymlaen.
Wedi trafodaeth, cytunodd y Swyddog Monitro i ysgrifennu at gynghorau tref a chymuned er mwyn ceisio barn ar (i) ymagwedd gyson ar gyfer yr ymweliadau a (ii) rhesymau posib dros ddiffyg presenoldeb mewn sesiynau hyfforddi. Byddai’r ymatebion yn cael eu hadrodd yn ôl i gyfarfod yn y dyfodol.
O safbwynt Cod Ymddygiad Aelodau, eglurodd y Swyddog Monitro y gellid gwahanu hyfforddiant ar amrywiol agweddau ar draws gwahanol gyfarfodydd, gan gynnwys safon Sir y Fflint a’r gwahaniaethau lleol i’r model cenedlaethol.
Cytunwyd y byddai’n well rhoi hyfforddiant at Gynllun Indemniad y Cyngor ar adeg pan oedd fwyaf o’i angen, oherwydd y nifer isel o wrandawiadau. Awgrymodd y Swyddog Monitro sesiwn hyfforddi i ddarparu trosolwg o egwyddorion cyfiawnder cenedlaethol..
PENDERFYNWYD:
(a) Darparu hyfforddiant ar draws cyfarfodydd yn y dyfodol i gynnwys elfennau o God Ymddygiad Aelodau: Safonau Sir y Fflint a gwahaniaethau lleol i'r model cenedlaethol, yn ogystal â throsolwg o egwyddorion cyfiawnder cenedlaethol;
(b) Rhannu gwybodaeth ar hyfforddiant a chanllawiau Cod Ymddygiad gyda chynrychiolwyr eglwys a rhieni-lywodraethwyr Addysg ac Ieuenctid er mwyn rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor; a
(c) Bod y Swyddog Monitro i ysgrifennu at gynghorau tref a chymuned er mwyn ceisio barn ar (i) ymagwedd gyson ar gyfer yr ymweliadau a (ii) rhesymau posib dros ddiffyg presenoldeb mewn sesiynau hyfforddi. Byddai’r ymatebion yn cael eu hadrodd yn ôl i gyfarfod yn y dyfodol.
Awdur yr adroddiad: Gareth Owens
Dyddiad cyhoeddi: 14/02/2018
Dyddiad y penderfyniad: 08/01/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/01/2018 - Pwyllgor Safonau
Accompanying Documents: