Manylion y penderfyniad

School Organisation - Area Review, Brynford and Lixwm

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To provide a way forward for primary school organisation in Brynford and Lixwm

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad Adolygiad Ardal Trefniadaeth Ysgolion Brynffordd a Licswm, oedd yn amlinellu’r cynnydd a wnaed ers y Cabinet ym mis Medi, pan gymeradwywyd seibiant byr i alluogi swyddogion i weithio gyda Chyrff Llywodraethu Ysgolion Cynradd Brynffordd a Licswm. Darparodd yr adroddiad hefyd wybodaeth bellach ac opsiynau i’w hystyried er mwyn dod i benderfyniad ar y ffordd ymlaen yn yr ardal.

 

                        Er fod yr adroddiad yn argymell symud ymlaen at ymgynghoriad statudol, pwysleisiodd y Cynghorydd Roberts nad oedd hyn yn golygu cau ysgolion o reidrwydd, a rhoddodd enghreifftiau o ysgolion eraill a symudodd ymlaen at ymgynghoriad statudol ac a oedd wedi ffedereiddio yn hytrach na chau.

 

Os cafwyd cynigion ar gyfer ffedereiddio oedd yn ymarferol, gallai hyn fod yn opsiwn y byddai’r Cyngor yn ei gefnogi. Byddai barn y gymuned leol yn cael ei cheisio fel rhan o’r broses ymgynghori ffurfiol fel yr amlinellwyd yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion. 

 

                        Gofynnodd y Cynghorydd Shotton tybed a ellid amlinellu beth oedd yn sbarduno’r cynigion, er budd y galeri cyhoeddus. Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) mai’r ysgolion allai gael eu hadolygu, dan y Strategaeth Moderneiddio Ysgolion, oedd y rhai hynny â lleoedd gwag a bod gofyn i Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) leihau’r rhain.  Mae lleoedd gwag mewn ysgolion yn aneffeithlon o ran cynaliadwyedd ysgolion bychain oherwydd y gost, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o gyni. Pwysleisiodd bwysigrwydd symud y broses ymlaen yn gyflym er mwyn rhoi sicrwydd i’r ysgolion dan sylw o ran y ffordd ymlaen cyn gynted ag y bo modd.

 

                        Gwnaeth y Cynghorydd Shotton sylwadau ar nifer y llythyrau a negeseuon e-bost a dderbyniwyd gan y gymuned, oedd yn fuddiol er mwyn gallu rhoi ystyriaeth i bob barn. Pwysleisiodd nad oedd y cynnig i symud ymlaen at ymgynghoriad statudol wedi’i gysylltu mewn unrhyw ffordd â gofyn ar y Cyngor i fantoli cyllideb.

 

                        Nododd y Prif Swyddog mai barn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg oedd y dylai awdurdodau lleol ystyried pob llwybr sydd ar gael i ysgolion, ac y dylid cefnogi ffedereiddio lle bynnag y bo hynny’n bosib. Byddai unrhyw gynigion pellach i ffedereiddio yn dod i’r amlwg yn ystod y cyfnod ymgynghori ac yn cael eu hystyried.

 

                        Atodwyd amserlen ar gyfer y broses i’r adroddiad, ond eglurodd y Prif Swyddog pe byddai cynnig ymarferol ar gyfer ffedereiddio’n dod i law, y gellid symud ymlaen â hwnnw yn gynt os byddai’n bosib. Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Attridge, cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai’r ymarfer ymgynghori cyhoeddus yn gorffen cyn cychwyn gwyliau haf yr ysgolion.

 

                        Ychwanegodd y Prif Weithredwr bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn dilyn her yn LlC, wedi ysgrifennu at Gyngor Sir y Fflint i ddweud bod y prosesau a ddilynwyd ar drefniadaeth ysgolion yn Sir y Fflint yn gywir ac y gallai’r trigolion roi eu ffydd yn y broses.

 

            PENDERFYNWYD:

 

 Y bydd y Cyngor yn symud ymlaen at ymgynghoriad statudol ar newid trefniadaethol ysgolion, gyda'r cynnig i uno ysgolion cynradd Brynffordd a Licswm i greu un ysgol ardal.

Awdur yr adroddiad: Damian Hughes

Dyddiad cyhoeddi: 01/03/2018

Dyddiad y penderfyniad: 23/01/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/01/2018 - Cabinet

Yn effeithiol o: 01/02/2018

Accompanying Documents: