Manylion y penderfyniad

Budget Stage 2: Review of Car Parking Charges

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To seek Environment Overview and Scrutiny Committee recommendation on the proposed car parking charges in all Council owned car parks.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad yn gofym am argymhelliad gan y Pwyllgor ar y ffioedd meysydd parcio arfaethedig ym mhob maes parcio sy’n eiddo i’r Cyngor.    Rhoddodd wybodaeth gefndirol a dywedodd nad oedd y ffioedd meysydd parcio wedi eu hadolygu ers eu cyflwyno ac nad oedd yr incwm a gynhyrchwyd yn diwallu cost llawn rheoli a gweithredu’r meysydd parcio.  Roedd y sefyllfa hon yn groes i bolisi corfforaethol y Cyngor sydd newydd ei fabwysiadu ar gyfer ffioedd a thaliadau, sy'n disgwyl bod swyddogaethau nad ydynt yn orfodol ond y gellir codi tâl amdanynt, yn cael eu rhoi ar sail adennill costau llawn, lle bynnag y bo'n bosibl. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog bod y trefniadau ffioedd diwygiedig arfaethedig wedi eu dangos yn Atodiad 1 yr adroddiad.  Roedd yna 2 ddewis ar gyfer y ffioedd diwygiedig a gofynnwyd i’r Pwyllgor fynegi pa un o’r dewisiadau a ffefrir.   Roedd y ffioedd arfaethedig wedi eu hystyried yn rhesymol a byddent yn parhau’n isel wrth gymharu costau parcio yn Sir y Fflint gyda siroedd eraill yng Nghymru.  Eglurodd y Prif Swyddog y byddai adolygiad ac asesiad o effaith pellach yn cael eu cynnal chwe mis ar ôl cyflwyno’r ffioedd newydd ac adroddir yn ôl i’r Pwyllgor ym mis Hydref 2018. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Dolphin at y ffioedd arfaethedig ac eglurodd ei farn na ddylid safoni’r ffioedd ar draws pob maes parcio yn Sir y Fflint.    Soniodd am y cyfleusterau, siopau a gwasanaethau a ddarparwyd o fewn pob tref a dywedodd bod angen cymryd hyn i ystyriaeth wrth gynnig newidiadau i’r trefniadau ffioedd presennol   Gofynnodd y Cynghorydd Dolphin i’r tariff presennol barhau yn Nhreffynnon.  Hefyd eglurodd bod yna ddau faes parcio wedi eu lleoli yn agos at ei gilydd yn Nhreffynnon a gofynnodd i’r rhain gael eu huno o dan yr un enw gyda’r un ffioedd parcio i gynorthwyo trigolion sy’n defnyddio’r cyfleusterau lleol; gan ystyried Canolfan Hamdden Treffynnon fel enghraifft.

 

Cytunodd y Cynghorwyr Haydn Bateman ac Owen Thomas gyda’r farn a fynegwyd gan y Cynghorydd Dolphin y dylai ffioedd maes parcio yn Sir y Fflint gael eu safoni.Teimlodd y Cynghorwyr Haydn Bateman a Dave Hughes y dylai ffioedd gael eu safoni yn unol â’r ffioedd presennol yn yr Wyddgrug.   

 

Roedd y Cynghorydd Sean Bibby yn cynnig newid i’r ddau opsiwn ar gyfer meysydd parcio Bwcle, Cei Connah, Treffynnon, Queensferry a Shotton a chynigiodd dariff ychwanegol o 20c ar gyfer y 30 munud cyntaf.  Roedd y Cynghorydd Ian Dunbar yn eilio hyn.    

 

Ailbwysleisiodd y Cynghorydd Richard Jones nad oedd pob tref yn darparu’r un cyfleusterau a dywedodd bod parcio am ddim yn cynyddu’r ymwelwyr â chanol y dref gan fod pobl yn gyfarwydd â siopa yn yr ardal honno.  Hefyd soniodd am gost darparu a chynnal a chadw meysydd parcio a dywedodd y dylai’r wybodaeth ar wariant ac incwm a dderbyniwyd o bob un o’r meysydd parcio yn Sir y Fflint fod ar gael ar gyfer cymharu ac i bennu lefelau incwm yn y dyfodol.    Mynegodd y farn nad oedd rhai meysydd parcio yn cael eu defnyddio’n llawn.  Nid oedd y Cynghorydd Jones yn cefnogi unrhyw gynnydd mewn ffioedd meysydd parcio ym Mwcle gan ei fod yn teimlo na fyddai hyn yn denu busnes masnachol newydd i’r ardal nac yn cefnogi manwerthwyr a thrigolion lleol presennol.  Roedd y Cynghorydd Jones yn cynnig nad oedd newid mewn ffioedd meysydd parcio yn Sir y Fflint ac y dylid dod o hyd i’r incwm oedd ei angen ar gyfer y diffyg yn y bwlch yn y gyllideb o wasanaethau eraill.    

 

Roedd y Cynghorydd Aaron Shotton yn cydnabod bod y mater o godi ffioedd yn un dadleuol a bod bywiogrwydd canol y drefn yn ystyriaeth bwysig.   Dywedodd fod y camau yn unol â Pholisi Ffioedd a Thaliadau a Strategaeth Parcio’r Cyngor a dywedodd am yr angen i gynhyrchu mwy o refeniw gan adfer cost llawn lle bo'n bosibl.  Cyfeiriodd at yr angen i gydbwyso’r gyllideb flynyddol a dywedodd am y diffyg presennol a dywedodd fod yn rhaid codi lefelau incwm ar draws yr holl wasanaethau i fynd i’r afael â’r ‘bwlch’ yn y gyllideb.  Pwysleisiodd y Prif Weithredwr yr angen am sicrwydd incwm wrth gynllunio cyllideb flynyddol. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Veronica Gay y farn y dylai’r cynnydd arfaethedig mewn ffioedd ar gyfer Gorsaf Rheilffordd y Fflint fod yn uwch.   Fodd bynnag, roedd y Cynghorydd Vicky Perfect yn teimlo bod y ffioedd arfaethedig yn dderbyniol.   

 

Dywedodd y Cynghorydd Mike Peers am Strategaeth Maes Parcio’r Cyngor a’r Polisi Ffioedd a Thaliadau a dywedodd y dylid ei adolygu i edrych ar yr ardaloedd hynny nad oedd wedi eu cyfrif yn wreiddiol.  Ychwanegodd bod gan y meysydd parcio llai hefyd y potensial i gynyddu incwm i’r Awdurdod.  Gan gyfeirio at ardal y Fflint, gofynnodd y Cynghorydd Peers a oedd yn bosibl ailgodi tâl am gost colli incwm yn yr ardal honno.    Mynegodd y farn nad oedd y sefyllfa yr un fath ym mhob man a bod yna ddefnydd mawr a bach o feysydd parcio yng nghanol trefi Sir y Fflint.    Hefyd soniodd am effaith dadloeli ac argaeledd parcio “oddi ar y stryd” a’r gwahaniaeth mewn ardaloedd.    Roedd y Cynghorydd Peers yn cynnig na ddylid codi tâl am barcio am hyd at 30 munud mewn maes parcio arhosiad byr ac y dylid codi tâl o 20c am hyd at 1 awr mewn meysydd parcio eraill. 

 

Roedd y Cadeirydd yn cytuno na ddylid cynnig parcio am ddim a soniodd am gost cynnal a chadw pob maes parcio.   

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin y dylai’r ymgynghoriad gael ei gynnal gyda Chynghorau Tref lleol yn ymwneud â chynigion i gynyddu ffioedd maes parcio i gael eu barn ar beth sy’n rhesymol ac yn fforddiadwy yn eu hardaloedd. 

 

Roedd y Cynghorydd Richard Jones yn cynnig trydydd dewis i gadw'r ffioedd presennol ac i ddadansoddi cost rhedeg pob maes parcio.   

 

Oherwydd y nifer o sylwadau a phryderon a gyflwynwyd roedd yr Arweinydd yn cynnig yn hytrach na phleidleisio ar y dewisiadau o fewn yr adroddiad, y dylid gofyn i’r Cabinet ystyried yr holl gynigion a gyflwynwyd.   Yn dilyn trafodaeth cytunwyd bod y cynigion ychwanegol a godwyd gan y Pwyllgor yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet i’w hystyried.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y sylwadau a’r pryderon a godwyd gan y Pwyllgor yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet i'w hystyried.

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 04/04/2018

Dyddiad y penderfyniad: 16/01/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/01/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Accompanying Documents: