Manylion y penderfyniad
Conduct and Conviction of a licensed Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trwyddedu
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried ymddygiad Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd), ac i benderfynu a oedd yn unigolyn cymwys ac addas i barhau fel deiliad trwydded o’r fath.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd gan y Cadeirydd i wneud sylwadau, gan holi pam ei fod wedi methu â datgelu ei ddedfryd i’r Adain Drwyddedu. Ymddiheurodd yr ymgeisydd, gan egluro ei fod wedi rhoi gwybod i’w gyflogwr ar unwaith, ond mai esgeulustod ar ei ran oedd peidio â rhoi gwybod i’r Adain Drwyddedu.
Cyfeiriodd yr ymgeisydd at ei sylwadau ysgrifenedig a oedd wedi eu cynnwys ar y rhaglen a rhannodd wybodaeth gefndirol ar ei ddedfryd a chwynion a wnaed yn ei erbyn. Ymatebodd i gwestiynau a godwyd gan y panel.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y panel, darparodd yr ymgeisydd eglurhad ynghylch amrywiol agweddau ar ei ddedfrydau ac ar ei gefndir mewn cyflogaeth.
Gofynnodd y Cyfreithiwr i’r ymgeisydd a fyddai’n gwrthwynebu ymgymryd â phrawf seiciatryddol, a chadarnhaodd yr ymgeisydd na fyddai'n wrthwynebus i hyn.
Gofynnwyd i berchennog y cwmni tacsi – oedd yn cyflogi’r ymgeisydd ac a oedd wedi dod gydag o i’r cyfarfod – a oeddent yn ystyried fod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i ddal trwydded. Cafwyd ymateb ganddynt yn nodi eu bod yn credu ei fod.
Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gwnaeth gais i’r ymgeisydd, ei gynrychiolydd, a’r Arweinydd Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra bod y panel yn cyrraedd penderfyniad.
4.1 Penderfyniad ar y Cais
Wrth ddod i benderfyniad ar y cais, ystyriodd y panel ganllawiau’r Cyngor ar ymdriniaeth â dedfrydau a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad. Rhoddwyd ystyriaeth i’r amgylchiadau cysylltiedig, gan ddod i’r canlyniad fod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i fod â Thrwydded Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).
Cytunodd y panel y byddai’n briodol i’r Adain Drwyddedu dderbyn adroddiadau chwarterol â’r wybodaeth ddiweddaraf gan feddyg teulu’r ymgeisydd, ac y dylid gofyn i’r meddyg teulu atgyfeirio’r ymgeisydd am brawf seiciatryddol.
Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu, yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd yn ôl er mwyn ailymgynnull y cyfarfod.
4.2 Penderfyniad
Hysbysodd y Cadeirydd fod y panel wedi cytuno, wedi ystyried y sylwadau a wnaeth, y gallai’r ymgeisydd barhau i ddal trwydded i yrru Cerbydau Hurio Preifat / Cerbyd Hacni.
PENDERFYNWYD:
(a) Fod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i fod â Thrwydded Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 ac y dylid caniatáu iddo’r drwydded; ar yr amod llym fod yr ymgeisydd yn derbyn adroddiadau chwarterol gan ei feddyg teulu, a’i fod yn gwneud cais i’w feddyg teulu am atgyfeiriad i dderbyn prawf seiciatryddol.
Awdur yr adroddiad: Gemma Potter
Dyddiad cyhoeddi: 09/10/2018
Dyddiad y penderfyniad: 11/12/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/12/2017 - Is-bwyllgor Trwyddedu