Manylion y penderfyniad

The Introduction of Garden Waste Charges in Flintshire

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To seek approval of the garden waste charging arrangements within the Waste service.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Cynghorydd Thomas adroddiad Cyflwyno’r Ffioedd Gwastraff Gardd yn Sir y Fflint a oedd yn nodi sut byddai’r cynnig yn cael ei weithredu a darparu amcangyfrif ar gyfer y budd ariannol cysylltiedig i’r Cyngor o’r cynnig. 

 

            Nid oedd dyletswydd statudol ar y Cyngor i gasglu gwastraff gardd a gan ystyried y cyfnod presennol o gyni a’r heriau ariannol parhaus a wynebir gan y Cyngor, roedd yn angenrheidiol bellach i gyflwyno ffi o £30 ar gyfer casglu gwastraff gardd a fyddai’n debyg i’r ffi a gyflwynwyd gan nifer o Gynghorau yng Ngogledd Cymru a nifer gynyddol o Gynghorau ar draws Cymru a Lloegr.  Y ffi am ail neu drydydd bin fyddai £30 hefyd.

 

            Byddai preswylwyr yn cael gwybod am y ffi drwy lythyr a thrwy sticeri a fyddai’n cael eu rhoi ar y biniau gwastraff gardd ym mis Ionawr 2018.  Byddai rhagor o ohebiaeth yn cael ei hanfon gyda’r wybodaeth am Dreth y Cyngor ym mis Mawrth 2018, a byddai gan breswylwyr tan 1 Ebrill 2018 i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth.  Byddai’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim i bob preswyliwr ym mis Mawrth 2018. Roedd Rheolwr Prosiect ar waith i sicrhau bod y trefniadau’n cael eu cyflwyno’n llyfn, ac ni fyddai cost ychwanegol i’r Cyngor.

 

            Cyfeiriodd Cynghorydd Thomas at sylw gan Cynghorydd Peers yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd ar 20 Tachwedd 2017 ar y gorwariant yn y gwasanaeth.  Eglurodd fod hyn yn ymwneud ag amgylchiadau na ragwelwyd fel y cynnydd o ran taliadau trydan.  O ran a allai’r gwasanaeth ganfod arbedion effeithlonrwydd pellach yn hytrach na chyflwyno’r tâl hwn, eglurodd fod y gwasanaeth eisoes wedi cael lleihad yn y gyllideb o 40% ac ni ellid dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd pellach.

 

            Ailadroddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) mai gwasanaeth dewisol oedd hwn nad oedd gofyn i’r Cyngor ei ddarparu.  Yn 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru (LlC) ei Glasbrint Casgliadau Gwastraff a oedd yn nodi’r dull darparu dewisol ar gyfer casgliadau gwastraff yng Nghymru, er mwyn darparu lefelau uchel a chynaliadwy o ran ailgylchu.  Roedd gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu presennol Sir y Fflint yn alinio â’r Glasbrint gan mwyaf.  Fodd bynnag, roedd y Glasbrint yn argymell y dylid cynnig y gwasanaeth hwn ar sail taladwy.

 

            Soniodd am safon uchel a nifer y Canolfannau Ailgylchu Cartref yn y Sir a fyddai â digon o gapasiti i gael gwastraff gardd ar gyfer y preswylwyr hynny nad oeddent yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth. 

 

            Yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd, roedd consesiynau wedi’u trafod.  Eglurodd byddai hyn yn gymhleth i’w gyflwyno i sicrhau ei bod yn broses deg; byddai’n heriol i’w weithredu ac roedd yn mynd yn groes i Bolisi Ffioedd a Thaliadau newydd y Cyngor.  Fodd bynnag, byddai blwyddyn gyntaf gweithredu ar gyfer gwrando a dysgu.

 

            Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y cofnodion drafft o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a oedd yn amlinellu’r sylwadau gan Aelodau am y cynnig hwn.  Y penderfyniad oedd “Nodi sylwadau'r Pwyllgor ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno polisi codi tâl am y gwasanaeth gwastraff gardd, fel rhan o Gam Un cynigion y gyllideb ar gyfer 2018/19”.

 

            Dywedodd Cynghorydd Attridge fod e-bost wedi dod i law y noson flaenorol gan y Cynghorydd David Williams i awgrymu y gellid codi £15 am yr ail fin. Gan ymateb, eglurodd Cynghorydd Thomas, pe bai ail fin yn cael ei gynnig ar gyfradd is, byddai hyn yn cael effaith ar y gyllideb o £27,000 a fyddai’n arwain at gynyddu’r tâl am y bin cyntaf i fwy na £30. Ychwanegodd fod Glasbrint LlC yn annog compostio.  Ar sylw am dipio anghyfreithlon, nid oedd tystiolaeth o Siroedd eraill a oedd wedi cyflwyno’r tâl hwn fod tipio anghyfreithlon wedi cynyddu.  Dywedodd y Prif Swyddog fod nifer o wahanol opsiynau a thaliadau wedi’u hystyried ond roeddent yn effeithio ar y targed incwm ac ni ellid adennill cost lawn pe bai ail fin am bris gostyngol.

 

            Dywedodd Cynghorydd Bithell fod y gwasanaeth wedi’i ddarparu i breswylwyr ers 15 mlynedd er nad oedd yn syniad statudol.  Nid oedd yn bosibl yn yr hinsawdd ariannol bresennol i barhau i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw yn rhad ac am ddim.

 

            Dywedodd Cynghorydd Shotton fod y Cabinet wedi gwrthsefyll gweithredu’r tâl hwn am nifer o flynyddoedd ond ni allai hynny barhau.   Roedd dyletswydd ar yr Awdurdod i gasglu gwastraff cyffredinol ond nid gwastraff gardd a gyda’r gostyngiad yn y Grant Amgylchedd Sengl, y dewis oedd gweithredu’r tâl hwn neu ddod o hyd i £1m o rywle arall.  Rhoddodd sylwadau am y drafodaeth am gonsesiynau yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd i bobl ddiamddiffyn a phensiynwyr a dywedodd mai’r unig wybodaeth allai’r Cyngor gael mynediad iddi fyddai’r preswylwyr sydd â hawl i’r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor; fel arall, gellid gofyn i breswylwyr ddarparu gwybodaeth, byddai cost weinyddol gyda’r ddau ddewis gyda gwybodaeth yn newid yn rheolaidd.  Eglurodd Prif Swyddog fod tua 11,000 o eiddo gyda phreswylwyr yn derbyn y Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor a phe bai’r gost yn cael ei lleihau i £20 iddynt, byddai’n arwain at ostyngiad chwe ffigur yn y targed, neu gynnydd yn y gost £30 i bob preswyliwr arall.  Yn dilyn gwrando a dysgu, gellid adolygu hyn. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Shotton a ellid darparu gwybodaeth i’r Cabinet ar daliadau, consesiynau posibl a chyfraddau manteisio, gan gynnwys pobl sy’n derbyn y Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor a oedd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth, ar ôl y flwyddyn gyntaf.  Dywedodd y Prif Weithredwr byddai consesiynau yn cael eu hystyried ar dair egwyddor: (1) a oedd yn deg, rhesymol a fforddiadwy; (2) pa opsiynau gwasanaeth amgen oedd ar gael; a (3) a oedd yn ymarferol i’w weithredu.  Ychwanegodd y gallai’r costau gweinyddu ar gyfer cynnal data ar gyfer gr?p ansefydlog o hawlwyr fod yn uchel, a dyna pam awgrymwyd adolygiad ar ôl blwyddyn.  O ran y sylw am arbedion effeithlonrwydd yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd, eglurodd fod y cynlluniau busnes ar gyfer pob portffolio wedi’u hadrodd i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, gan ychwanegu bod Gwasanaethau Stryd yn darparu un o’r cyfraddau uchaf ar 40%.  Nid oedd cwmpas pellach ar gyfer arbedion effeithlonrwydd mawr yn y gwasanaeth hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

           

            (a)       Cymeradwyo’r polisi codi tâl ar gyfer y Gwasanaeth Gwastraff Gardd a’r

trefniadau a nodir yn yr adroddiad ar gyfer cyflwyno’r tâl mewn ffordd llyfn sy’n llunio rhan o gynigion y gyllideb Cam Un ar gyfer 2018/19; a

 

(b)       Bod adolygiad llawn o daliadau, consesiynau posibl a chyfraddau manteisio yn cael ei gynnal rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2018.

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 23/01/2018

Dyddiad y penderfyniad: 19/12/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/12/2017 - Cabinet

Yn effeithiol o: 06/01/2018

Accompanying Documents: