Manylion y penderfyniad
North Wales Standards Forum
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Mr Robert Dewey ei adroddiad ar gyfarfod diweddar Fforwm Safonau Gogledd Cymru, y bu ynddo ar ran y Pwyllgor.
Wrth grynhoi pwyntiau allweddol ei adroddiad, awgrymodd y gellid dangos y fideo newydd, i’w gynhyrchu gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, mewn cyfarfod Pwyllgor Safonau yn y dyfodol. Roedd yn teimlo ei fod yn bwysig i annog mwy o Gynghorau Tref a Chymuned i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi a chyfeiriodd at ddull Pwyllgor Safonau Ynys Môn o ymgysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned yn ystod eu cyfarfodydd.
Gan mai tro Sir y Fflint fydd cynnal y cyfarfod Fforwm nesaf ym mis Mai 2018, bydd y Swyddog Monitro yn dechrau ar baratoadau ym mis Mawrth / Ebrill i nodi dyddiad ac eitemau ar gyfer yr agenda. O ran presenoldeb mewn cyfarfodydd diweddar, nodwyd mai prif nod y Fforwm oedd cefnogi aelodau annibynnol, er roedd croeso i gynghorwyr fynychu hefyd.
Diolchwyd i Mr Dewey am ei adroddiad a’i adborth.
Darparodd y Swyddog Monitro’r ymatebion canlynol i'r materion a godwyd:
· Sesiynau Hyfforddi Aelodau – fel y cytunwyd yn flaenorol, cofnodwyd presenoldeb ond nid oedd y wybodaeth hon ar gael ar wefan y Cyngor.
· Delio â chwynion yn erbyn Aelodau – roedd proses statudol yn caniatáu ar gyfer gwrandawiad gyda thribiwnlys achos, yn amodol ar fodloni meini prawf penodol. Roedd posibilrwydd i Aelod gael ei wahardd nes gwneud y penderfyniad terfynol, fodd bynnag roedd rhaid ymdrin â hyn yn ofalus, roedd rhaid ystyried ystod eang o ffactorau gan gynnwys rhagdybiaeth dieuogrwydd. Roedd modd i Gynghorau gymryd camau anffurfiol i ddiogelu llywodraethu pan fo cyhuddiad wedi’i wneud yn erbyn Aelod. Roedd cynlluniau ar waith i Swyddfa Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gyhoeddi, at ddibenion ymgynghori, rhai meini prawf y byddai’n ystyried er mwyn dangos tryloywder.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.
Awdur yr adroddiad: Amanda Davidson
Dyddiad cyhoeddi: 09/01/2018
Dyddiad y penderfyniad: 04/12/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/12/2017 - Pwyllgor Safonau
Accompanying Documents: