Manylion y penderfyniad

Decision of Case Tribunal

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad ar benderfyniad y tribiwnlys achos yn ymwneud â’r Cyn Gynghorydd Alison Halford, a gafodd ei gwahardd am 14 mis (er iddi ymddeol yn ystod Etholiadau mis Mai 2017). Adroddwyd y penderfyniadau i’r Pwyllgor i ystyried a oedd unrhyw wers y gellid ei dysgu a’i rhannu ag Aelodau eraill, i’w cynorthwyo â dilyn y Cod Ymddygiad.

 

Cafwyd crynodeb cryno o ganfyddiadau’r tribiwnlys achos a benderfynodd fod y Cynghorydd Halford wedi torri’r Cod Ymddygiad drwy (i) ddefnyddio iaith anweddus, (ii) defnyddio sianelau anghywir i godi pryderon a (iii) dewis y gynulleidfa anghywir.

 

Yn ystod trafodaeth, darparodd y Swyddog Monitro fanylion am y cynllun yswiriant indemniad a oedd ar gael i Aelodau a oedd yn dewis ymuno.

 

Roedd Ms. Phillipa Earlam o’r farn bod gan y Pwyllgor ddyletswydd i wneud sylw ar y penderfyniad wedi i'r cyfnod ar gyfer apelio ddod i ben. Cadarnhawyd gan y Swyddogion bod y cyfnod bellach wedi dod i ben.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Paul Johnson am lefelau presenoldeb y sesiynau cynefino Aelodau a oedd yn cynnwys gwybodaeth am y Cod Ymddygiad. Cyfeiriodd y Swyddog Monitro yn ôl at yr ystadegau a oedd wedi’u hadrodd i’r Pwyllgor yn flaenorol, a oedd yn adlewyrchu presenoldeb uchel o Aelodau newydd y Cyngor. Roedd yr hyfforddiant hefyd ar gael i Aelodau a oedd yn dychwelyd, a oedd efallai wedi mynychu sesiynau yn y gorffennol.

 

Codwyd pryderon gan Mr Robert Dewey bod rhai Aelodau efallai yn ‘disgyn trwy’r rhwyd’ o safbwynt hyfforddiant, yn benodol hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad. Dywedodd y Swyddog Monitro mai cyfrifoldeb yr unigolyn oedd sicrhau ei fod yn gwybod y diweddaraf o ran yr hyfforddiant oedd ar gael iddo.

 

Cytunodd y Swyddog Monitro i rannu drafft o’r pwyntiau a godwyd cyn eu dosbarthu i Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Y dylid nodi dyfarniad y tribiwnlys achos; ac

 

 (b)      Y dylai’r Swyddog Monitro baratoi crynodeb drafft o’r pwyntiau a godwyd yn y Pwyllgor i’w rhannu gydag Aelodau.

Awdur yr adroddiad: Amanda Davidson

Dyddiad cyhoeddi: 09/01/2018

Dyddiad y penderfyniad: 04/12/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/12/2017 - Pwyllgor Safonau

Accompanying Documents: