Manylion y penderfyniad
Appointment of Independent Member
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad i gytuno ar benodi aelod annibynnol i’r Pwyllgor, yn dilyn y gweithgaredd recriwtio a wnaethpwyd ar y cyd ag Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (a oedd hefyd eisiau llenwi dwy swydd wag).
Rhoddodd ddiweddariad ar ganlyniad y cyfweliadau a gynhaliwyd ar ôl cyhoeddi’r agenda hon. Cyflwynwyd wyth cais ac o’r wyth hynny, cafodd pump ohonynt eu rhoi ar y rhestr fer am gyfweliad ac wedi hynny argymhellwyd y dylid penodi Julia Hughes i’r Pwyllgor. Dosbarthwyd disgrifiad cryno o Julia, yn cynnwys gwybodaeth am ei chefndir a’i phrofiadau, o amgylch y Pwyllgor.
Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at gyfansoddiad y cyd-banel ac eglurodd fod cynnwys y Cynghorydd Wolley (yn ei rôl fel Cynghorydd Tref), yn lle Jonathan Duggan-Keen gan nad oedd ar gael, wedi cwrdd â’r gofynion deddfwriaethol. Byddai’r tymor swydd a argymhellir ar gyfer yr aelod newydd yn cyd-fynd â thymor swydd aelod annibynnol arall ac felly’n lleihau costau recriwtio.
Mewn ymateb i’r ymholiadau, darparodd y Prif Swyddog wybodaeth am y broses recriwtio. Penderfynwyd bod y gofyniad statudol ar gyfer hysbysebion ym mhapurau lleol ardal yr Awdurdod yn rhy ddrud, er y byddai’r gost hon wedi’i rhannu gyda’r Awdurdod Tân ac Achub ar yr achlysur hwn. Yn ogystal, y dull hwn oedd y lleiaf llwyddiannus o ran denu ceisiadau, o’i gymharu â hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol a gwefan y Cyngor. Ni lwyddodd ein hymdrechion i archwilio cyfleoedd hysbysebu ar y cyd â chynghorau eraill i ennyn diddordeb.
Cymeradwywyd penodiad Julia Hughes gan y Pwyllgor ac awgrymwyd y dylid anfon llythyr i ddiolch i Noelle Jones, yr 'unigolyn lleyg’ ar y panel.
PENDERFYNWYD:
(a) Y dylid argymell y Cyngor i benodi Julia Hughes i’r Pwyllgor Safonau hyd at ddiwedd Mai 2022; ac
(b) Y dylid diolch i Noelle Jones am ei chyfranogiad.
Awdur yr adroddiad: Chief Officer (Education and Youth) (Rachel Padfield)
Dyddiad cyhoeddi: 09/01/2018
Dyddiad y penderfyniad: 04/12/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/12/2017 - Pwyllgor Safonau
Accompanying Documents: