Manylion y penderfyniad

Regional School Effectiveness and Improvement Service (GwE)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To receive an update on progress with the development of the regional school effectiveness and improvement service, and update on how the new model is being received and embedded.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) y diweddariad gan GwE yn cynnwys adroddiad blynyddol 2017/18 yn nodi cryfderau’r safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth yn ogystal â meysydd i wella a datblygu.

 

Croesawodd y Pwyllgor gynrychiolwyr GwE, Arwyn Thomas, y Rheolwr Gyfarwyddwr ac Alwyn Jones, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol, a draddododd gyflwyniad yn trafod y canlynol:

 

·         Taith Diwygiadau Cymru

·         Atebolrwydd

·         Tuag at system addysg sy’n hunan-wella

·         Llwyddiannau

·         Heriau

 

Yn ystod y cyflwyniad, rhannwyd gwybodaeth am waith paratoi ar gyfer y diwygiad addysg o ran datblygu cwricwlwm newydd gyda ffocws lleol yn hytrach na chenedlaethol a newid yn y diwylliant er mwyn cynorthwyo yn hytrach na herio ysgolion. Gwnaed cynnig i gyflwyno gweithdy i Aelodau yn yr hydref i egluro’r camau nesaf er mwyn eu helpu i ddeall y newidiadau sydd ar y gorwel.

 

Yn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Cunningham ynghylch trefniadau llywodraethu, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod atebolrwydd rhanbarthol a lleol ar ffurf cydbwyllgor GwE (yn cynnwys cynrychiolwyr gan y chwe awdurdod lleol) a chyfarfodydd rheolaidd rhwng cynrychiolwyr GwE a’r chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu. Amlygodd bwysigrwydd sianelau cyfathrebu effeithiol er mwyn sicrhau bod yr ysgolion yn derbyn cymorth priodol a chyfeiriodd at gynlluniau busnes yn gosod manylion y cynnig ar gyfer pob awdurdod lleol yn y rhanbarth.

 

Holodd Rebecca Stark am amserlenni i ddangos sut y deuai wyth elfen y diwygiad addysg ynghyd. Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod y cerrig milltir wedi eu pennu ar gyfer y ddwy flynedd gyntaf ac y defnyddid dull graddol i baratoi ar gyfer y diwygiadau, mewn trafodaeth â Llywodraeth Cymru (LlC). Byddai’r amserlenni’n cael eu rhannu fesul clwstwr gyda’r bwriad bod pob partner yn cyrraedd yr un cam yr un pryd. Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro y gellid rhoi’r amserlenni wedi eu cyhoeddi gan LlC ar gael i Aelodau a rhoddodd eglurdeb ynghylch amserlenni eraill ym maes gwaith yr awdurdodau lleol. Yn ymateb i bryderon ynghylch adnoddau ar gael yn fuan, cydnabu’r Rheolwr Gyfarwyddwr fod rhai deunyddiau’n araf deg yn dod ar gael ac y byddai’r paratoadau’n helpu i wneud y system rywfaint yn fwy cyson. Dywedodd Rebecca Stark am yr angen am arian i helpu ysgolion i weithredu’r newidiadau, yn arbennig yn y sector uwchradd. Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod sylwadau’n cael eu cyflwyno i LlC yn gofyn am arian i gefnogi ysgolion i ddod yn barod am y diwygiad a chyfeiriodd at y cynnydd posibl yn nifer y dyddiau hyfforddi ar gyfer athrawon er mwyn helpu ysgolion. Roedd y Prif Swyddog Dros Dro o blaid y dull hwn oherwydd bod ysgolion eisoes wedi ymdopi â, a thrin pwysau ariannol a dywedodd bod rhywfaint o obaith y ceid arian gan Lywodraeth y DU. 

 

Bu i Lynn Bartlett groesawu’r ffocws ar gymorth i ysgolion ond dywedodd fod angen arian i gynorthwyo cydweithio rhwng ysgolion. Siaradodd y Rheolwr Gyfarwyddwr am bwysigrwydd cyfeirio arian at glystyrau i roi’r gallu i’r ysgolion hynny wneud eu penderfyniadau allweddol eu hunain. Yn ymateb i sylwadau eraill, siaradodd am ragor o ffocws ar les fel rhan o’r elfen Datblygu Cwricwlwm.

 

Yn dilyn canmoliaeth gan y Cynghorydd Heesom i’r weledigaeth y tu cefn i’r diwygiadau, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr mai’r craidd oedd ysgolion yn cynorthwyo disgyblion i wasanaethu eu cymunedau a dod yn arweinwyr gweithredol.

 

Galwodd David Hÿtch am gymorth trwy’r cwricwlwm ehangach gyda mecanweithiau adrodd yn amlygu llwyddiant disgyblion yn yr holl feysydd yn hytrach na chanolbwyntio ar y pynciau craidd. Cydnabuwyd y farn hon a’i rhannu â chynrychiolwyr GwE. Yn ymateb i’r pryderon ynghylch lles Penaethiaid, yn arbennig yn y sector uwchradd, ac effaith ymweliadau ‘trochi’n ddwfn’ GwE (deep dive), amlygwyd y ffocws mwy ar gymorth, ynghyd â gwella iaith mewn ffordd gadarnhaol ac annog gonestrwydd a rhannu problemau.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro wrth Aelodau nad oedd problemau sylweddol wrth recriwtio penaethiaid yn Sir y Fflint oherwydd bod swyddi uwch yn llawn ac yn cael eu cefnogi’n dda a bod trosiant yn y sector uwchradd yn digwydd yn naturiol e.e. oherwydd ymddeoliadau. Er bod nifer yr ymgeiswyr wedi gostwng, canfyddir carfan o benaethiaid posibl ar gyfer y dyfodol yn llwyddiannus.

 

Siaradodd y Cynghorydd Roberts am bwysigrwydd y Gr?p Monitro Safonau Ysgol o ran herio ysgolion ar feysydd lle mae tanberfformio.

 

Holwyd David Hÿtch am gymorth amgen i gyflenwi’r cymorth a roddai Llywodraethwyr Cymru a dywedwyd y byddai GwE yn gweithio’n agos â chydweithwyr yn yr awdurdod lleol i sicrhau y rhoddir hyfforddiant i bob Llywodraethwr.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mackie fod rhagor o amser yn astudio’r pynciau craidd a llai o ddewisiadau ar gael i bobl ifanc yn gwrthdaro â’r nod o wella’n ehangach. Ategodd ei bryderon y gellid gwneud mwy i sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn y cymorth gorau bosibl a fyddai’n gwella sefyllfa Sir y Fflint. Amlygodd hefyd y ffaith y bu gostyngiad yn lefelau perfformiad pob awdurdod lleol dan GwE ers i’r gwasanaeth gychwyn na welwyd yn rhanbarthau eraill Cymru.

 

Eglurodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod trefniadau ariannu wedi eu gosod i sefydlu GwE pan oedd dull cenedlaethol o drafod her. Dywedodd fod yr atebolrwydd yn uwch nag erioed o’r blaen a bod athrawon sy’n rhannu arfer gorau yn cynorthwyo gwelliant. Cyfeiriodd at y newid yn y ddemograffeg dros y cyfnod a bod GwE wedi cael pedwar arolwg eleni ac wedi cydnabod y gwasanaeth cadarnhaol ac o safon i ysgolion ac awdurdodau lleol y rhanbarth.

 

Cytunodd y Prif Swyddog Dros Dro bod safle Sir y Fflint yn annerbyniol ac mai’r amcan oedd rhagori ar y meincnod. O ran GwE, roedd y gwasanaeth wedi datblygu ac mae’r ffocws bellach ar gynyddu adnoddau a thargedu cymorth yn y sector uwchradd yn rhanbarthol yn helpu’r daith tuag at wella; roedd adborth gan ysgolion yn ategu’r dull hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Mackie ei bod yn bwysig y derbynia’r Pwyllgor wybodaeth am yr hyn sy’n mynd rhagddo i geisio gwella yn Sir y Fflint. Rhoddodd y Rheolwr Gyfarwyddwr sicrwydd fod y cynllun manwl ar gyfer Sir y Fflint yn cael ei fonitro bob tri mis ac yn cael ei rannu trwy adrodd ar berfformiad. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Axworthy a fyddai modd rhannu adroddiad Estyn ar GwE a dywedodd fod angen i’r Pwyllgor fod yn glir ynghylch y data a roddwyd ar ysgolion. Atgoffodd y Prif Swyddog Dros Dro fod y wybodaeth yn cael ei rhannu â’r  Pwyllgor ar ffurfiau amrywiol, er enghraifft yr adroddiad hunanwerthuso yn y cyfarfod blaenorol a grynhodd ddata perfformiad a gwelliannau. Gellid gwneud ceisiadau am ddata penodol wrth swyddogion y tu allan i’r cyfarfod.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r cynrychiolwyr GwE am ddod i’r cyfarfod, a chroesawodd y cymorth i ysgolion a staff. Cynigiodd fod y Pwyllgor yn derbyn y cynnig i gynnal gweithdy’r hydref, a chytunwyd ar hynny. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cyflwyniad ar gynorthwyo’r daith ddiwygio; ac

 

(b)       Y byddai’r Pwyllgor yn derbyn y cynnig am weithdy yn yr hydref.

Awdur yr adroddiad: Claire Homard

Dyddiad cyhoeddi: 10/10/2018

Dyddiad y penderfyniad: 28/06/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid

Accompanying Documents: