Manylion y penderfyniad
Self-Evaluation of Local Government Education Services
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To update Members on overall service
performance
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar berfformiad gwasanaeth yn gyffredinol. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r trefniadau archwilio newydd, ac roedd crynodeb o’r hunanwerthusiad drafft a chopi o’r adroddiad drafft ynghlwm i’r adroddiad.
Rhoddodd y Prif Swyddog Interim drosolwg byr o’r hunanwerthusiad o wasanaethau addysg llywodraeth leol a chyfeiriodd at y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Paul Cunningham roedd y Prif Swyddog Interim wedi amlinellu rôl Estyn ac eglurodd ar y cyfan mai'r Awdurdod oedd yn penderfynu yngl?n â’i welliant ei hun. Dywedodd am effaith cyni cyllidol ar ddarpariaeth gwasanaeth.
Awgrymodd Mrs Lynne Bartlett bod y gair ‘effeithiol’ yn cael ei ychwanegu at y disgrifiad o’r gwaith partneriaeth rhwng yr Awdurdod Lleol a’r Esgobaeth.
Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom i farn GwE ar yr Adroddiad Hunanwerthuso drafft 2018 gael ei ddarparu i’r Pwyllgor ar ôl ei dderbyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod fframwaith newydd Estyn ar gyfer arolygu gwasanaethau addysg o fewn Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn cael ei nodi; a
(b) Bod sylwadau’r Pwyllgor mewn perthynas â’r adroddiad hunanwerthuso drafft diweddaraf yn cael ei nodi.
Awdur yr adroddiad: Jeanette Rock
Dyddiad cyhoeddi: 23/08/2018
Dyddiad y penderfyniad: 12/04/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/04/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid
Dogfennau Atodol: