Manylion y penderfyniad

Provision for Gypsy & Traveller Transit Sites and the Riverside Management Agreement

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide the Committee with information on the Council’s new process and procedures

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Swyddog Cyswllt Sipsiwn a Theithwyr adroddiad i geisio cefnogaeth ar gyfer cynnal arfarniad opsiynau â chostau er mwyn datblygu safle tramwy 6 llain yn Sir y Fflint, a diweddaru’r cytundeb rheoli ar gyfer unig safle parhaol y Cyngor ar hyn o bryd sef Parc Glan yr Afon.

 

Tynnodd yr adroddiad sylw at ddyletswyddau statudol sy’n berthnasol i gynghorau o ran sipsiwn a theithwyr, a manteision darparu safle tramwy i’w ddefnyddio dros dro gan sipsiwn a theithwyr sy’n teithio drwy'r ardal.

 

Roedd angen adnewyddu’r cytundeb rheoli ar gyfer y safle parhaol yng Nglan yr Afon er mwyn cyflawni’r newidiadau yn y gofynion cyfreithiol ac yn dilyn hynny gellid gwneud cais am gyllid grant gan Lywodraeth Cymru i ailwampio’r safle.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, esboniodd y Swyddog nad oedd y Cyngor yn gyfrifol am unrhyw wersylloedd diawdurdod ar dir preifat ond eu bod yn cofnodi achosion a gyflwynir i’w sylw.

 

 Cyfeiriodd y Cynghorydd Dolphin at enghraifft benodol yn ei ward hi lle mae gwersyll diawdurdod hirdymor yn bodoli.  Gofynnodd y Cynghorydd Attridge i unrhyw faterion penodol gael eu codi â swyddogion y tu allan i’r cyfarfod er mwyn trin gwybodaeth yn gyfrinachol.  Er ei fod yn deall y pryderon, esboniodd fod cynnydd sylweddol wedi’i wneud yn y broses i ymdrin â materion yn fwy effeithlon.  Cafodd y cyfarfod ei atgoffa gan y Prif Swyddog am gyfrifoldeb y Cyngor i asesu amgylchiadau pob achos cyn dod i benderfyniad priodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Attridge y dylid anfon pryderon am drefniadau diogelwch yn Noc Maes Glas at gydweithwyr yn y Gwasanaethau Cefn Gwlad.  Yn ystod trafodaeth am leoliad y safle tramwy arfaethedig, esboniwyd fod opsiynau tir sy’n perthyn i’r Cyngor yn cael eu harchwilio i ddechrau cyn edrych ar argaeledd tir preifat.  Anogwyd aelodau i anfon awgrymiadau o leoliadau at swyddogion a chyflwynodd y Cynghorydd Reece wybodaeth ar ran tirfeddiannwr preifat.

 

Darparodd y swyddog eglurhad i’r Cynghorydd Shotton ynghylch cyllid grant a dywedodd fod hyn yn amodol ar gael caniatâd cynllunio ar gyfer y tir a nodwyd.

 

Holodd y Cynghorydd Johnson yngl?n â'r dull o godi tâl am y safle tramwy.  Esboniwyd y byddai gwersi’n cael eu dysgu o enghreifftiau tebyg ar draws y DU, er mai hwn fyddai’r safle tramwy cyntaf yng Nghymru.

 

Tynnodd y Cynghorydd Wisinger sylw at y ffaith nad oedd unrhyw broblemau mawr wedi bod, er gwaethaf y pryderon dechreuol ynghylch Glan yr Afon.  Mewn ymateb i ymholiadau, dywedodd y Cynghorydd Attridge nad oedd unrhyw gynlluniau i ymestyn y safle.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi:

 

(a)       Cynnal arfarniad o opsiynau â chostau ar gyfer datblygu safle tramwy 6 llain yn Sir y Fflint;

 

(b)       Adolygu a gweithredu trefniadau rheoli newydd yng Nglan yr Afon; a

 

(c)       Gwneud cais i Lywodraeth Cymru am gyllid cyfalaf yn haf 2018 er mwyn ailwampio safle’r Awdurdod Lleol yng Nglan yr Afon.

Awdur yr adroddiad: Melville Evans

Dyddiad cyhoeddi: 24/01/2018

Dyddiad y penderfyniad: 20/12/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/12/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Accompanying Documents: