Manylion y penderfyniad

Welfare Reform Update – Including Universal Credit

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To provide an update on Welfare Reform including an update on Universal Credit.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad Diweddariad ar Ddiwygio’r Gyfundrefn Les – Cynnwys Credyd Cynhwysol. 

 

Eglurodd fod Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithredu ei raglen o Ddiwygiadau Lles dros y 5 mlynedd ddiwethaf ac erbyn 2020 byddai'r diwygiadau hynny wedi lleihau gwariant ar y budd-daliadau sydd ar gael i aelwydydd incwm isel yn y DU o tua £31 biliwn y flwyddyn.

 

Er mwyn ymateb i’r diwygiadau hyn, roedd Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid mewn ymdrech i leddfu’r effeithiau llawn ar y preswylwyr mwyaf bregus yn y Sir.  Roedd ymateb y Cyngor i weithredu’r Credyd Cynhwysol yn cael ei ystyried yn fodel o arfer da gan Awdurdodau Lleol eraill Cymru a Llywodraeth Cymru.  Rhoddodd glod i swyddogion ac yn arbennig i staff Sir y Fflint yn Cysylltu oedd wedi darparu cymorth digidol rheng flaen i dros 1000 o gwsmeriaid, gan eu helpu i wneud ceisiadau newydd a hefyd rheoli eu ceisiadau ar-lein.

 

Eglurodd y Rheolwr Budd-daliadau mai’r tri maes mwyaf arwyddocaol a oedd yn cael effaith ar breswylwyr Sir y Fflint oedd y Cymhorthdal Ystafell Sbâr (y dreth ystafell wely), Cap Budd-daliadau a’r Credyd Cynhwysol.

 

Roedd nifer o heriau’n cael eu hwynebu a oedd yn bennaf o ganlyniad i’r newid mawr a'r gwahaniaethau sylfaenol rhwng Credyd Cynhwysol a’r budd-daliadau a etifeddwyd.  Roedd hyn am ei fod yn wasanaeth digidol llawn, a dalwyd i'r sawl oedd yn ei hawlio mewn ôl-daliadau, gan reoli'r cyfan o gyllid aelwydydd a’r cyfrifoldeb dros dalu rhent yn uniongyrchol i landlordiaid.

 

Croesawodd y Cynghorydd Shotton y datganiadau personol a gynhyrchwyd gan Gyngor ar Bopeth a oedd wedi eu hatodi i’r adroddiad ac a oedd yn rhoi manylion yngl?n â’r heriau a gâi eu hwynebu gan bobl.  Roedd yna nifer o Gynghorau a oedd yn galw ar Lywodraeth y DU i fod yn dosturiol ac atal cyflwyno’r cynllun gan nad oedd yn gweithio.  Roedd yr effaith yn amlwg mewn ardaloedd eraill a thrwy’r gymuned a gofynnodd a oedd yna barodrwydd i Lywodraeth y DU ddysgu o’u  profiadau.  Eglurodd y Rheolwr Budd-daliadau fod Llywodraeth y DU wedi mabwysiadu ymagwedd ‘profi a dysgu’ i weithredu'r cynllun a rhoddodd fanylion am y materion oedd wedi codi, gan gynnwys dryswch yngl?n â pha fudd-daliadau i ymgeisio amdanynt, oedi o ran taliadau a thalu ymlaen llaw. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Thomas enghraifft o sefyllfa yn ei ward lle nad oedd gan breswylydd fynediad i wasanaethau digidol a oedd wedi golygu fod y Llywodraeth wedi cau ei hachos gan nad oeddent yn gallu cael mynediad i'r gwasanaeth.

 

Eglurodd y Rheolwr Budd-daliadau fod y Cyngor wedi cymryd y cam cyntaf o weithio i ddarparu cefnogaeth a datrysiadau i helpu’r preswylwyr mwyaf bregus.  Roedd tua 90% o’r bobl oedd wedi eu cefnogi wedi nodi fod ganddynt broblemau gyda dyledion a hefyd roedd cynnydd mewn cwsmeriaid oedd yn troi at fenthyciadau diwrnod cyflog a benthycwyr stepen y drws i’w helpu i gael dau ben llinyn ynghyd hyd nes y byddai eu taliad Credyd Cynhwysol cyntaf yn cael ei dderbyn. 

 

Roedd y Cyngor yn rhoi cynllun gweithredu ynghyd er mwyn targedu cymorth i'r aelwydydd hynny er mwyn lleddfu'r effeithiau a byddai gwaith hefyd yn cael eu wneud gyda Chyngor ar Bopeth er mwyn darparu ymateb i Lywodraeth y DU.  Roedd gwaith hefyd yn cael ei wneud i helpu teuluoedd gael mynediad i’r cynnig gofal plant am ddim a fyddai o gymorth i dychwelyd i'r gweithle.

 

O ran y ‘Cymhorthdal Ystafell Sbâr’ gwnaeth y Cynghorydd Roberts sylw ar y symudiad cadarnhaol a ddylid ei weld yn Sir y Fflint gyda chyflwyno'r cynllun adeiladu tai cyngor lle roedd eiddo dwy ystafell wely yn cael eu hadeiladu, a fyddai'n galluogi teuluoedd mwy i symud i dai mwy a fyddai'n helpu i leihau’r angen ar rai teuluoedd i dalu'r 'dreth ystafell wely'.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad a pharhau i gefnogi'r gwaith parhaus i reoli effeithiau Diwygio'r Gyfundrefn Les a'r effeithiau y bydd yn ei gael ar aelwydydd mwyaf bregus Sir y Fflint.

Awdur yr adroddiad: Jen Griffiths

Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2017

Dyddiad y penderfyniad: 21/11/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/11/2017 - Cabinet

Yn effeithiol o: 30/11/2017

Accompanying Documents: