Manylion y penderfyniad
Governance Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Tynnodd Mr Hughes sylw at adran 1.01 lle’r oedd yn ofynnol i’r Pwyllgor fynegi dewis ar gyfer ei batrwm cyfarfod, ac a ddylent gael eu cynnal yn y bore neu’r prynhawn.
Awgrymodd y Cynghorydd Bateman y dylid dechrau am 9:30am yn hytrach na 10am. Cytunodd yr aelodau Pwyllgor a oedd yn weddill gyda’r cynnig.
Tynnodd Mrs McWilliam sylw at y dadansoddiad anghenion hyfforddi y cyfeiriwyd atynt yn y papurau, a nododd y byddai'r rhain yn cael eu rhoi i Aelodau yn ystod yr wythnos ganlynol. Holwyd pob Aelod i amlygu ar y dadansoddiad anghenion hyfforddi, lle'r oeddent yn teimlo bod angen unrhyw hyfforddiant ychwanegol. Bydd hwn yn ofyniad rheolaidd i gynorthwyo gyda threfnu sesiynau hyfforddi.
Esboniodd Mrs Burnham sut y caiff y toriadau amod eu diweddaru'n rheolaidd, ac ar hyn o bryd, na fydd unrhyw rai yn cael eu hadrodd i’r Rheolydd Pensiynau, ond fe fydd y sefyllfa hon yn cael ei hadolygu yn Ionawr 2018.
PENDERFYNWYD
1. Ystyriodd yr Aelodau’r diweddariad.
2. Mynegodd y Pwyllgor ddewis i gynnal cyfarfodydd am 9:30am, a bydd y dewis hwn yn cael ei roi i’r Gwasanaethau Democrataidd a’r Cyfansoddiad wrth drefnu cyfarfodydd yn y dyfodol.
Awdur yr adroddiad: Janet Kelly
Dyddiad cyhoeddi: 28/02/2018
Dyddiad y penderfyniad: 29/11/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 29/11/2017 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Accompanying Documents: