Manylion y penderfyniad
Committee and Board Allowances
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Argymhellodd Mr Everett bod £8,700 yn cael ei dalu bob blwyddyn i Gadeirydd y Pwyllgor am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad. Tynnodd Mr Everett sylw at y ffaith eu bod i gyd â buddiannau’n gwrthdaro yn y maes hwn, ac awgrymodd y dylai’r ddadl gadw hyn mewn cof.
Datganodd y Cadeirydd gysylltiad personol a gadawodd yr ystafell.
Ar ôl trafod y materion, cytunodd yr aelodau Pwyllgor gyda’r cynnig i dalu’r lwfans i’r Cadeirydd. Cytunwyd hefyd y byddai’r lwfans yn weithredol o Fai 2017 ac yn cael ei ôl-ddyddio i’r dyddiad hwnnw.
Yn dilyn trafodaethau, cytunwyd hefyd y byddai Mr Everett yn trafod o fewn y Cyngor y taliad o lwfansau i aelodau eraill
PENDERFYNWYD:
1. Argymhellodd y Pwyllgor i’r Cyngor fod lwfans o £8,700 yn cael eu talu i’r Cadeirydd bob blwyddyn, a bod hyn yn cael ei gynnwys yn yr atodlen o dâl aelodau. Ystyriodd ac argymhellodd y Pwyllgor fod y taliad ychwanegol yn dechrau o fis Mai 2017.
2. Cytunwyd y dylai lwfansau i aelodau eraill gael eu hystyried hefyd.
Awdur yr adroddiad: Janet Kelly
Dyddiad cyhoeddi: 28/02/2018
Dyddiad y penderfyniad: 29/11/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 29/11/2017 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Accompanying Documents: