Manylion y penderfyniad

The Introduction of Garden Waste Charges

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To seek a recommendation to Cabinet to approve the mechanism for introducing charges for the garden waste service

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) yr adroddiad sy’n nodi sut y bydd y cynnig i gyflwyno polisi codi tâl ar wasanaeth gwastraff gardd yn cael ei weithredu ac yn darparu amcangyfrif o’r budd ariannol cysylltiedig i’r Cyngor.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog bod y perfformiad o ran ailgylchu yn dda ond nad oedd y gwasanaeth a ddarperir i breswylwyr yn hollol unol â glasbrint Llywodraeth Cymru ar gyfer casgliadau yng Nghymru, gan fod y glasbrint yn argymell bod Awdurdodau Lleol yn codi tâl ar breswylwyr am y casgliad gwastraff gardd ac yn defnyddio’r arian i gefnogi’r gwasanaeth ailgylchu cyffredinol.

 

            Amlinellodd Reolwr y Gwasanaethau Gwastraff ac Ategol y dewisiadau ar gyfer gweithredu’r system, fel y nodir yn yr adroddiad. Eglurodd y byddai preswylwyr yn derbyn gwybodaeth am y tâl gyda’r wybodaeth am Treth y Cyngor ym mis Mawrth 2018, ac y bydd ganddynt tan 1 Ebrill 2018 i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd. Bydd y gwasanaeth am ddim i bob preswylydd yn ystod mis Mawrth 2018.

 

            Ymddiheurodd y Cyng. Carolyn Thomas am yr angen i godi tâl am y gwasanaeth gwastraff gardd a dywedodd, o ystyried y sefyllfa ariannol heriol sydd ohoni ynghyd â’r gostyngiad i’r Grant Amgylcheddol Sengl gan Lywodraeth Cymru nad yw’n cwrdd â chostau’r gwasanaeth ailgylchu, bod yn rhaid gweithredu cynnig o’r fath.

 

            Diolchodd y Cyng. Paul Shotton i’r swyddogion am yr adroddiad. Gwnaeth sylw ar nifer amcangyfrifedig y bobl fydd yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth a gofynnodd sut y cyfwyd y ffigwr hwn. Eglurodd y Prif Swyddog bod siroedd eraill wedi gweld cyfraddau cofrestru cychwynnol o 40%, ac felly y defnyddiwyd y ffigwr hwnnw fel amcangyfrif.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau am y gostyngiad disgwyliedig mewn perfformiad ailgylchu a’r dreth dirlenwi, eglurodd y Prif Swyddog bod y gostyngiad mewn perfformiad ailgylchu yn debygol o fod yn 2% neu’n 3% a fydd yn gostwng perfformiad presennol y Cyngor i oddeutu 64%. Mae’r dreth dirlenwi yn cael ei chasglu gan y Cyngor ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r cyllid wedyn yn cael ei ailddosbarthu i gynghorau ar draws Cymru drwy’r Grant Amgylcheddol Sengl.

 

            Mynegodd y Cyng. Mike Peers bryderon ynghylch tegwch cyflwyno polisi codi tâl am y gwasanaeth gwastraff gardd a chwestiynodd lasbrint Llywodraeth Cymru sydd wedi’i gynhyrchu gan yr un ymgynghorwyr a argymhellodd y dylai’r Cyngor leihau nifer y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref sydd ganddo yn y sir. Cwestiynodd y sylwadau a wnaed am gyni ariannol ac amlygodd gorwariant cyfredol y Cyngor o £1.1 miliwn, cyllid meddai a fyddai’n cynorthwyo preswylwyr sy’n cael eu heffeithio gan y toriadau i gyllid Llywodraeth Cymru. Cyfeiriodd at y ffioedd a godir gan Awdurdodau Lleol cyfagos, fel y nodir yn yr adroddiad, a mynegodd bryderon ynghylch preswylwyr Sir y Fflint yn derbyn bargen salach o gymharu. Dywedodd y Prif Swyddog bod y gwasanaeth a ddarperir gan y Cyngor ar hyn o bryd yn gweithredu ar gost is o gymharu â chynghorau eraill yng Nghymru. Mae’n aneglur a yw’r ffioedd a godir gan Awdurdodau Lleol cyfagos yn cwrdd â chost lawn y gwasanaeth a ddarperir ganddynt ac felly nid oes modd cymharu. Ni fyddai cost ychwanegol i'r Cyngor wrth weithredu'r ffioedd a darparu'r prosiectau oherwydd y byddai'n ddyletswydd ychwanegol i waith dyddiol y Tîm Gwastraff.

 

            Ymatebodd y Cyng. Carolyn Thomas i’r sylw o ran gorwariant canol blwyddyn y Cyngor ac eglurodd fod hyn yn rhannol oherwydd ei phenderfyniad i ohirio’r adolygiad o’r llwybrau bws â chymhorthdal a’r gwaith ar y gweill i gyflwyno cludiant cymunedol. Dywedodd bod arbedion effeithlonrwydd o 40% wedi’i ganfod yn y Gwasanaeth Ailgylchu Gwastraff a bod y gwasanaeth yn parhau i ganfod ffyrdd i weithio’n fwy effeithlon.

 

            Cefnogodd y Cyng. Veronica Gay sylwadau’r Cyng. Peers a soniodd am yr anawsterau i rai preswylwyr, os ydynt yn penderfynu peidio â thalu’r ffi ac yn gorfod mynd i safle Ailgylchu Gwastraff y Cartref a hwythau heb gar. Dywedodd fod angen trafodaeth bellach gyda’r holl Aelodau cyn y dylid gwneud penderfyniad.

 

            Dywedodd y Cyng. Andy Dunbobbin y dylid ystyried rhoi gostyngiadau i bensiynwyr a phreswylwyr gyda gerddi mawr. Croesawodd yr awgrymiadau bod preswylwyr yn gallu prynu biniau compost a gosod microsglodyn ymhob bin oherwydd y byddai hynny yn fwy cost effeithiol na rhoi sticeri ar y biniau. Dywedodd y Prif Swyddog bod y gwasanaeth wastad yn chwilio am ffyrdd gwell o weithio ac y byddai awgrymiadau ar gyfer dulliau gweithredu yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor eu hystyried.

 

            Gofynnodd y Cyng. Mike Allport a yw’r gwasanaeth wedi ystyried casglu gwastraff gardd 12 mis y flwyddyn yn hytrach na 9 oherwydd, yn ei farn ef, y byddai hynny’n fwy derbyniol gan breswylwyr os ydynt yn gorfod talu am y gwasanaeth. Eglurodd Reolwr y Gwasanaethau Gwastraff ac Ategol nad yw’n cost effeithiol rhedeg cerbydau yn ystod y gaeaf gan mai ychydig iawn o wastraff gwyrdd a gesglir.

 

            Roedd ar y Cyng. Cindy Hinds eisiau sicrwydd y byddai preswylwyr mwyaf diamddiffyn Sir y Fflint yn derbyn cefnogaeth. Roedd ar y Cyng. Haydn Bateman eisiau eglurhad ynghylch y term ‘gwasanaeth anstatudol’. Eglurodd Reolwr y Gwasanaethau Gwastraff ac Ategol bod casglu gwastraff cyffredinol yn wasanaeth statudol y mae’n ddyletswydd ar y Cyngor i’w ddarparu. Mae casglu gwastraff gardd yn wasanaeth anstatudol ac felly nid yw'n ddyletswydd ar y Cyngor i'w ddarparu. Fodd bynnag, dywedodd nad oedd arno eisiau gweld ffigyrau ailgylchu yn lleihau a’i fod yn hyderus y byddai ystyried trefniadau gorfodi mewn perthynas â gwastraff gweddilliol (biniau du) cyn gweithredu’r ffioedd yn cynorthwyo i leihau’r effaith ar gyfraddau ailgylchu.

 

            Eglurodd y Cyng. Chris Bithell nad oedd y Cyngor wedi darparu gwasanaeth gwastraff gwyrdd yn y gorffennol a bod y gwasanaeth wedi’i gyflwyno yn 2003. Dywedodd bod y sefyllfa yn un anffodus ond, oherwydd y mesurau cyni a bod Awdurdodau Lleol cyfagos wedi cyflwyno ffioedd am yr un gwasanaeth, nad oes gan y Cyngor unrhyw ddewis heblaw am godi ffioedd tebyg.

 

            Mewn ymateb i bryderon ynghylch mwy o dipio anghyfreithlon, eglurodd y Prif Swyddog nad yw siroedd eraill wedi gweld cynnydd mewn tipio anghyfreithlon a bod y dirwyon a roddir i’r rheiny sy’n tipio anghyfreithlon yn llawer uwch na’r ffi ar gyfer y casgliadau gwastraff gardd.

 

            Cynigiodd y Cyng. Peers bod y penderfyniad ynghylch gweithredu polisi codi tâl am y gwasanaeth gwastraff gardd yn cael ei adolygu.  Eiliwyd hyn gan y Cyng. Gay a phan gynhaliwyd pleidlais gwrthodwyd y cynnig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi sylwadau'r Pwyllgor ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno polisi codi tâl am y gwasanaeth gwastraff gardd, fel rhan o Gam Un cynigion y gyllideb ar gyfer 2018/19.

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 01/02/2018

Dyddiad y penderfyniad: 20/11/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/11/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Accompanying Documents: