Manylion y penderfyniad

Workforce Information Report – Quarter 2

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider the Workforce Information Report for Quarter 2 of 2017/18

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad gwybodaeth am y gweithlu ar gyfer ail chwarter 2017/18. Bu gwelliant parhaus o ran presenoldeb ers cyflwyno'r polisi newydd ac aethpwyd i’r afael â’r cynnydd mewn absenoldebau, oherwydd straen ac iselder, gyda mentrau amrywiol. Croesawyd cynnydd o ran nifer y gwerthusiadau perfformiad a oedd yn cael eu cwblhau, yn ogystal ag adrodd yn gywir. Nodwyd tuedd gadarnhaol mewn perthynas â gwariant ar weithwyr asiantaeth, a oedd yn cynrychioli llai na 1% o’r bil cyflogau, ac atgoffwyd pawb am yr adolygiad o'r contract hwnnw yn y dyfodol.

 

Wrth ddiolch i’r Uwch Reolwr ac ei thîm am yr adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Mullin fod y gwelliant mewn presenoldeb yn adlewyrchu’r lefelau uwch o reolaeth a pherchnogaeth sy’n cael eu harddangos gan reolwyr.

 

Croesawodd y Cynghorydd Jones y canfyddiadau hyn ac atgoffodd bawb o’r targed cyffredinol i gwblhau 100% o werthusiadau perfformiad ar gyfer gweithwyr cymwys.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Woolley y gwahaniaeth rhwng dyddiau absennol gweithwyr ysgolion a gweithwyr nad ydynt mewn ysgolion a’r rhesymau dros absenoldebau yn gysylltiedig â straen.Cytunodd yr Uwch Reolwr i ymchwilio i’r mater hwn, er mae’n debyg fod hyn oherwydd i ysgolion weithio yn ystod cyfnodau tymor ysgol yn unig. Mewn perthynas â’r pwynt olaf, anogwyd gweithwyr i fanteisio ar y cymorth oedd ar gael, gan gynnwys ‘Care First’ a oedd yn cynnig cymorth ag ymdopi ag ystod eang o broblemau personol. Gofynnodd y Cynghorydd Woolley am fwy o wybodaeth am hyn.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai’r ‘dyddiau a gollwyd drwy bortffolio’ yn gallu nodi meintiau’r portffolios i ddarparu gwell cyd-destun ac fyddai’r ‘Pedwar Rheswm Uchaf’ yn gallu nodi’r amrywiant rhwng bob categori. Cytunodd yr Uwch Reolwr ymchwilio i weld a fyddai’n bosibl i ddarparu adroddiad mwy manwl ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol, gan nodi’r angen am gyfrinachedd i sicrhau nad oedd modd adnabod unrhyw unigolyn.

 

Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Holgate, cytunodd yr Uwch Reolwr i ddarparu ymateb ar wahân ar gostau yn deillio o ffigwr trosiant y gweithlu, a oedd yn uwch na’r arfer, yn bennaf oherwydd trosglwyddiad Arlwyo a Glanhau Newydd. Siaradodd y Prif Swyddog am gael gwared ar swyddi drwy eu dileu a thrwy ymddeoliad cynnar a oedd yn ystyried yr effaith ar wasanaeth a’r disgwyliad i adennill costau gadael o fewn dwy flynedd.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Hughes, am y dangosfwrdd proffil oedran, eglurodd yr Uwch Reolwr fod y data wedi’i adolygu gan reolwyr i ddeall tueddiadau a rhoi gwybod i gynllunio gweithlu.

 

Mewn perthynas â’r graffiau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, gofynnodd y Cynghorydd Johnson a fyddai’n bosibl i gynnwys ffigyrau ar gyfer unigolion ag anableddau.Dywedodd yr Uwch Reolwr bod cofnodion yn cael eu cadw ar gyfer gweithwyr a oedd wedi datgelu anabledd a bod consesiynau ar gael, er enghraifft wrth fynychu apwyntiadau. Gofynnodd y Cynghorydd Johnson a fyddai modd i’r proffil oedran ar gyfer athrawon gynnwys dadansoddiad o’r holl swyddi rhan amser a llawn amser. Cytunodd yr Uwch Reolwr i edrych ar sut y gellid cyflwyno’r wybodaeth hon ar gyfer cyfarfod penodol yn y dyfodol yn unig.

 

Soniodd y Cadeirydd yn benodol am y categorïau proffil oedran ar gyfer athrawon a chafodd wybod fod rhain yn safonol ar draws y system. Mewn perthynas â phresenoldeb hwyr, cyfrifoldeb y rheolwyr oedd monitro eu timau yn unol â’r polisi gweithio'n hyblyg.

 

Crynhowyd y pwyntiau a godwyd gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd a chytunwyd arnynt gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Ar ôl ystyried Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu ar gyfer Chwarter 2, mae’r Pwyllgor yn gwerthfawrogi’r gwaith a wnaed, yn enwedig i leihau absenoldebau salwch;

 

 (b)      Bod yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol am gynhyrchu dadansoddiad manylach ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol, gan gydnabod y byddai manylder o’r fath yn anymarferol ar gyfer bob chwarter; a

 

 (c)      Bod yr Uwch Reolwr a Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd am gysylltu i bennu cyfarfod addas er mwyn cyflwyno’r adroddiad manwl.

Awdur yr adroddiad: Andrew Adams

Dyddiad cyhoeddi: 22/01/2018

Dyddiad y penderfyniad: 14/12/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/12/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: