Manylion y penderfyniad

Sheltered Accommodation Review

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To share the outcomes of the Sheltered Housing Review

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Asedau Tai adroddiad o ganlyniadau’r adolygiad a gynhaliwyd o letyau gwarchod ar draws y sir, a oedd yn cynnwys cyfanswm o 2,637 eiddo.  Cynhaliwyd yr adolygiad gan fod canfyddiad bod gan y Cyngor her o ran gosod llety gwarchod a bod cyfraddau gwacter yn bryder.

 

Ymhlith y canfyddiadau, nodwyd nad oedd colli rhent o eiddo gwag yn fater a’i fod yn fras yn unol â thai anghenion cyffredinol.    Roedd llawer o gynlluniau tai gwarchod mewn galw uchel, a’r prif resymau dros ddod â thenantiaethau i ben oedd oherwydd marwolaeth neu denantiaid yn symud i gyfleusterau gofal preswyl.  Roedd fflatiau un ystafell wely yn llai poblogaidd a gallai rhai cynlluniau mewn ardaloedd gwledig fod yn anoddach eu gosod.  Yn olaf, roedd nifer fach o gynlluniau lle gallai mynediad fod yn her i’r rhai sydd â materion symudedd.  Gellid rhoi sylw i’r rhain drwy gynlluniau buddsoddi mewn cynlluniau.

 

Ar achlysuron, roedd tai gwarchod yn cael eu gosod i ymgeiswyr gydag anghenion cefnogaeth ac anableddau corfforol a oedd dan oedran dynodi tai gwarchod oherwydd mai hwn oedd y llety mwyaf priodol a oedd ar gael i ddiwallu eu hanghenion.  Byddai newid disgrifydd tai gwarchod i lety ‘gwarchod a gyda chefnogaeth’ yn adlewyrchu’r arfer hwn yn iawn.

 

Siaradodd y Cynghorydd Shotton o blaid yr argymhellion a chanmolodd y gwaith ailwampio a wnaethpwyd yng nghynllun Glan-y-Morfa yng Nghei Connah.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cymunedau a Menter) fod yr adroddiad yn dangos fod llawer o alw am letyau yn ogystal ag opsiynau ar gyfer gwella, er enghraifft, i fynd i’r afael â phroblemau hygyrchedd a chynyddu nifer y rheiny sy'n dewis fflatiau un ystafell ac eiddo mewn ardaloedd anghysbell.

 

Siaradodd y Cynghorydd Attridge am opsiynau i annog tenantiaethau mewn fflatiau un ystafell a’r posibilrwydd o ail-ddosbarthu rhai lletyau er mwyn ateb y galw gan grwpiau eraill o gwsmeriaid.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Johnson a oedd yn bosibl i breswylwyr h?n sy’n aros am ystafelloedd gwlyb i gael mynediad at gyfleusterau ymolchi eraill.  Dywedodd y Prif Swyddog y dylid cyfeirio achosion at swyddogion a'i fod yn ymwybodol o drefniadau gyda rhai cynlluniau gofal ychwanegol.  Dywedodd fod tenantiaid y Cyngor yn gallu gwneud cais am asesiad Iechyd Galwedigaethol i weld a ydynt yn gymwys am Grant Cyfleusterau i’r Anabl.

 

Fel y nodwyd yn yr adroddiad, cyfeiriodd y Cynghorydd Dolphin at y diffyg cyfleusterau lleol i’r rheiny sy’n byw mewn llety gwarchod mewn ardaloedd mwy anghysbell.  Pwysleisiodd hefyd bod angen i gartrefi sydd wedi cael eu haddasu i safon uchel ar gyfer tenantiaid anabl gael eu cadw at y diben hwnnw.  O ran problemau sy’n codi oherwydd tenantiaid trafferthus, siaradodd y Cynghorydd Attridge am y dull gorau o fynd i’r afael â hyn a’r nod o geisio cael y gymysgedd gywir o unigolion sydd â gwahanol anghenion o fewn cynlluniau unigol.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Shotton, roedd y Prif Swyddog yn ymwybodol o gynlluniau gan Groundwork i sefydlu’r potensial ar gyfer gwasanaeth siopa symudol i gymunedau anghysbell a byddai’n ceisio cael diweddariad.

 

Siaradodd y Cynghorydd Cox am ymgysylltiad positif gan aelodau etholedig i helpu preswylwyr i ymdrin â phroblemau megis unigrwydd.  Dywedodd y Prif Swyddog fod cyfraniad wardeiniaid yn bwysig er mwyn annog tenantiaid i gynnwys eu hunain yn eu cymunedau lleol.

 

Holodd y Cynghorydd Hughes yngl?n â chanran y lletyau a wrthodwyd ar sail diffyg gwasanaethau trafnidiaeth leol.  Dywedodd yr Uwch Swyddog Tai Gwarchod mai’r prif reswm dros wrthod oedd y math o lety.  Awgrymodd y Cynghorydd Attridge fod y Pwyllgor yn derbyn adborth ar gamau gweithredu sy’n codi o’r adolygiad ar ôl cyfnod o 12 mis.  Cytunodd y Prif Swyddog y byddai hyn yn cynnwys dadansoddiad manwl o’r rhestr aros a rhesymau dros wrthod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi canlyniadau'r adolygiad a’r camau nesaf, ac yn cefnogi'r egwyddor o alw llety gwarchod yn ‘lety gwarchod a llety â chymorth’ er mwyn adlewyrchu’r gr?p cwsmeriaid y maent yn eu gwasanaethu.

Awdur yr adroddiad: Steve Agger

Dyddiad cyhoeddi: 24/01/2018

Dyddiad y penderfyniad: 20/12/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/12/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Accompanying Documents: