Manylion y penderfyniad

Council Plan 2017/18 - Mid Year Monitoring

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To review the levels of progress in the achievement of activities, performance levels and current risk levels as identified in the Council Plan 2017/18.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Prif Weithredwr yr adroddiad cynnydd canol blwyddyn ar Gynllun y Cyngor 2017-23 a oedd wedi’i adolygu a’i adfywio i adlewyrchu blaenoriaethau allweddol y Cyngor ar gyfer tymor pum mlynedd y weinyddiaeth newydd.

 

Rhoddodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol drosolwg o’r tri dangosydd perfformiad gyda statws risg coch.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y ffigur ar gyfer cwblhau arfarniadau yn un dros dro a disgwyliwyd iddo wella pan fyddai addasiadau wedi’u gwneud i system iTrent.  Byddai diweddariad llawn yn cael ei ddarparu yn yr adroddiad blynyddol a drefnwyd ar gyfer mis Rhagfyr neu fis Ionawr.

 

Dywedodd y Cynghorydd Woolley fod cwblhau arfarniadau yn faes pryder hirsefydlog a dylai rheolwyr/goruchwylwyr gael eu dal i gyfrif am fethu â rhoi cyfle i’w gweithwyr gael deialog ddwyffordd ystyrlon.  Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd am yr ymrwymiad i weithio tuag at y targed o 100% gan nodi bod rhai eithriadau fel unigolion mewn perygl o golli swydd neu ar absenoldeb mamolaeth.  Dywedodd fod arfarniadau yn seiliedig ar fodel da a bod rheolwyr yn cael eu hannog i hyfforddi gweithwyr drwy gydol y flwyddyn, gan leihau pa mor arwyddocaol fyddai arfarniad blynyddol.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cadeirydd, dywedodd y  Prif Weithredwr y byddai eithriadau ar gyfer arfarniadau yn cael eu dangos yn yr adroddiad blynyddol fel canrannau a ffigurau.

 

 O ran canran y nwyddau a gafaelwyd drwy’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod amrywiaeth o fframweithiau’n cael eu hasesu i sefydlu gwerth am arian a byddai hyn yn cael ei gyflawni drwy’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol mewn nifer isel o gontractau yn unig.

 

Roedd canran y gweithwyr a oedd yn cwblhau rhaglenni sy’n ymwneud â straen yn is nag a ragwelwyd ond roedd disgwyl iddo wella drwy’r flwyddyn.  Dim ond yn ddiweddar y cafodd y rhaglen ei chyflwyno ac er bod cyfraddau salwch yn gwella, roedd absenoldeb oherwydd straen yn dal i fod yn faes canolbwynt.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones, fel rhan o rôl y Pwyllgor o ran goruchwylio Cynllun y Cyngor yn ei gyfanrwydd, dylai gael eithriadau a adroddir i’r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar y camau canol blwyddyn a diwedd blwyddyn.  Rhoddodd sylwadau hefyd ar eiriad ar goll yn yr adroddiad a chyfeiriad at yr hen Gynllun Gwella.

 

Cynigiodd Cynghorydd Johnson fod swyddogion yn edrych ar y dull a gymerwyd gan y Ganolfan Strategaeth Economaidd Leol yn Preston a oedd wedi bod yn llwyddiannus o ran cefnogi busnesau bach i helpu i wella’r economi leol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod nodi darpariaeth leol yn rhan allweddol o drefniadau contract a bod amrywiaeth o gefnogaeth ar gael i helpu busnesau lleol i gynyddu cyfleoedd tendro.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones fod ymdrechion i roi hwb i fusnesau lleol wedi’u rhwystro gan gyflwyno taliadau parcio, tâl cofrestru ar gyfer rhwydwaith cyflenwyr y Cyngor a chostau uchel casglu gwastraff busnes gan gwmnïau preifat.

 

O ran y system rhwydwaith cyflenwyr, soniodd y Prif Swyddog am fanteision symleiddio prosesau a’r amrywiaeth o eithriadau sydd ar gael i sicrhau nad oedd busnesau bach yn cael eu heffeithio.

 

Cafodd y pwyntiau a godwyd gan Aelodau eu crynhoi gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd a’u cytuno gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Ar ôl ystyried adroddiad monitro canol blwyddyn 2017/18 Cynllun y Cyngor, hoffai’r Pwyllgor bwyso ar y Cabinet yr angen am ganran uwch o weithwyr i gael arfarniadau (er gwaethaf yr adroddiad diweddaru Arfarniadau y bydd y Pwyllgor yn ei gael maes o law);

 

(b)       Gan gydnabod cylch gorchwyl eang y Pwyllgor, y dylai gael adroddiadau monitro perfformiad llawn Cynllun y Cyngor bob chwech a deuddeg mis; a

 

(c)       Gofyn i’r tîm Caffael edrych ar y gwaith a wneir ar wario lleol yn Preston gan y Ganolfan Strategaeth Economaidd Leol.

Awdur yr adroddiad: Robert Robins

Dyddiad cyhoeddi: 20/12/2017

Dyddiad y penderfyniad: 16/11/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/11/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: