Manylion y penderfyniad

Introduction of a Wheelchair Accessible Vehicle list under the Equality Act 2010

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trwyddedu

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Arweinydd Tîm Gwarchod y Cyhoedd adroddiad i hysbysu aelodau am y newidiadau a gyflwynwyd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac i gael cymeradwyaeth ar gyfer rhestr o gerbydau penodol sydd yn hygyrch i gadeiriau olwyn.

 

Rhoddodd yr Arweinydd Tîm wybodaeth gefndir a dywedodd bod y Llywodraeth wedi mynegi ei bod yn disgwyl i Gynghorau gyflwyno a chadw rhestr o gerbydau penodol, a fyddai yn ei dro, yn achosi troseddau am dorri'r dyletswyddau a gyflwynwyd. Roedd yr Adran Drafnidiaeth wedi cyflwyno canllawiau statudol ffurfiol yn gofyn i awdurdodau lleol gyflwyno’r rhannau hynny o’r Ddeddf Cydraddoldeb a oedd yn darparu amddiffyniad i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn.

 

Rhoddodd yr Arweinydd Tîm adroddiad am y prif ystyriaethau y manylir arnynt yn yr adroddiad ynghylch y dyletswyddau a gyflwynwyd o dan Adran 165 Deddf Cydraddoldeb 2010, cymorth symudedd, ac eithriad ar gyfer gyrwyr gyda chyflwr penodol.   Fe eglurodd na ddylai cerbydau sydd ar y rhestr orfod cario pob cadair olwyn, ond mae’n rhaid iddynt allu cario rhai ohonynt. Cynigiodd yr Adain Drwyddedu i gysylltu â pherchnogion cerbydau a fyddai’n cael eu cynnwys ar y rhestr. Cynigiodd yr Arweinydd Tîm petai’r Pwyllgor yn cymeradwyo cyflwyno rhestr a fyddai’n cael ei chyhoeddi o gerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, byddai’r rhestr honno’n cael ei chyhoeddi o fewn chwe mis. Ar ôl y dyddiad hwnnw, byddai’n drosedd i yrrwr beidio â rhoi cymorth rhesymol i deithwyr mewn cadair olwyn.

 

Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd yr Arweinydd Tîm i’r sylwadau ac eglurodd tra bod y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan gerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn yn hysbys o fewn cymunedau lleol, byddai’r rhestr yn ei gwneud yn haws i unigolion weld pa weithredwyr oedd yn darparu’r gwasanaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo cyflwyno rhestr o gerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn, a chyhoeddi’r rhestr honno; a

 

 (a)      Bod yr Arweinydd Tîm Trwyddedu mewn ymgynghoriad gyda’r Rheolwr Gwrachod y Gymuned a Busnes, yn gosod dyddiad gweithredu i gyhoeddi rhestr o gerbydau penodol sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn. 

Awdur yr adroddiad: Gemma Potter

Dyddiad cyhoeddi: 20/11/2018

Dyddiad y penderfyniad: 12/10/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/10/2017 - Pwyllgor Trwyddedu

Accompanying Documents: