Manylion y penderfyniad

Mandatory safeguarding awareness training for all licenses Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Drivers and Operators

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trwyddedu

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Diogelu’r Gymuned adroddiad ar gyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth diogelu gorfodol ar gyfer Gyrwyr a Gweithredwyr Cerbydau Hurio Preifat/Cerbydau Hacni (ar y Cyd)

 

Rhoddodd yr Arweinydd Tîm wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at ymchwiliad annibynnol i gam-fanteisio’n rhywiol ar blant yn Rotherham (1997-2013), a thynnodd yr ymchwiliad hwnnw sylw at bryderon sylweddol ynghylch rheoli diogelu ar gyfer trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat a Thacsis yn Rotherham.  Dywedodd bod Cerbydau Hurio Preifat a Cherbydau Hacni yn Sir y Fflint yn gyfrifol am gludo pobl bob dydd a bod rhai siwrneiau yn gyfrifol am gludo plant ac unigolion diamddiffyn a fyddai yn achlysurol yn rhan o gontract gyda’r Awdurdod.  

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm bod yr Adain Drwyddedu eisiau cryfhau arferion diogelu a chodi ymwybyddiaeth a safonau trwy ddarparu gwybodaeth a sgiliau i'r diwydiant Cerbydau Hurio Preifat a Cerbyd Hacni i ddeall ei gyfrifoldebau a pha weithred i'w gymryd os oes ganddynt bryder ynghylch diogelwch neu les unigolion.  Fe eglurodd y byddai hyfforddiant diogelu gorfodol yn codi ymwybyddiaeth am ddiogelu plant a phobl diamddiffyn, yn lleihau risg, ac yn darparu dull i yrwyr a gweithredwyr adrodd am ymddygiad amheus.  Petai’r Pwyllgor yn cefnogi’r cynllun yna cynigiwyd cynnal ymgynghoriad gyda Gyrwyr a Gweithredwyr a chyflwyno’r ymatebion i’r Pwyllgor eu hystyried ac i ddod i benderfyniad terfynol.

 

Wrth ymateb i’r cwestiynau dywedodd yr Arweinydd Tîm y byddai Heddlu Gogledd Cymru yn darparu’r hyfforddiant ond byddai gwahoddiadau a lluniaeth yn cael ei ddarparu gan yr Awdurdod.  Fe esboniodd bod trwydded yrru safonol ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd) yn cael ei roi am dair blynedd, serch hynny, byddai’r Awdurdod yn annog gyrwyr i fynychu hyfforddiant diogelu o fewn y 12 mis cyntaf.  Dywedodd y byddai’n amodol bod deiliaid trwydded newydd yn cwblhau’r cwrs diogelu yn y dyfodol.

 

Siaradodd Aelodau i gefnogi’r cynnig a chymeradwyo cyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth i bob Gyrrwr a Gweithredwr Cerbydau Hurio Preifat/Cerbyd Hacni trwyddedig yn Sir y Fflint.

 

Wrth ymateb i awgrym gan y Cynghorydd Glyn Banks y dylai hyfforddiant ar ymwybyddiaeth diogelu fod ar gael i Aelodau, fe eglurodd y Rheolwr Gwarchod y Gymuned a Busnes bod trafodaethau ynghylch hyfforddiant diogelu wedi cael eu cynnal ym Mwrdd Diogelu Corfforaethol Sir y Fflint, ac y byddai hi’n gwneud ymholiadau ac yn rhoi adborth i’r Pwyllgor am hyn.

                  

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cefnogi cyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth diogelu gorfodol i bob Gyrrwr a Gweithredwr Cerbydau Hurio Preifat/Cerbyd Hacni trwyddedig yn Sir y Fflint;

 

 (b)      Cefnogi diwygio amodau Gyrrwr a Gweithredwr Hurio Preifat i gynnwys yr amod canlynol:-

 

Mae’n rhaid i Yrrwr/Gweithredwr gwblhau cwrs hyfforddiant Ymwybyddiaeth Diogelu  pan fydd yr Adain Drwyddedu yn gofyn iddynt fynychu.

 

 (c)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnig y bydd Gyrwyr Cerbydau Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd) a Gweithredwyr Cerbydau Hurio Preifat sydd yn methu’r hyfforddiant diogelu gorfodol yn cael eu riporito i’r Is-bwyllgor Trwyddedu; a

 

 (ch)    Chynnal ymgynghoriad gyda Gyrwyr Cerbydau Hurio Preifat/Cerbydau     Hacni (ar y cyd) a Gweithredwyr Cerbydau Hurio Preifat a bod yr ymatebion yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor i roi penderfyniad terfynol.

Awdur yr adroddiad: Gemma Potter

Dyddiad cyhoeddi: 20/11/2018

Dyddiad y penderfyniad: 12/10/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/10/2017 - Pwyllgor Trwyddedu

Accompanying Documents: