Manylion y penderfyniad

Potholes and Resurfacing Programmes

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To clarify the process involved to confirm the Council’s highway resurfacing programme

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd adroddiad i roi diweddariad ar y prosesau a ddefnyddir i nodi rhaglenni ail-wynebu a'r dulliau gorau o atgyweirio a chynnal a chadw’r rhwydwaith priffyrdd.  Dywedodd fod yr adroddiad yn amlinellu'r dull o adnabod ffyrdd, gan gynnwys y drefn arolygu a'r lefelau ymyrraeth a weithredir gan y Cyngor. Hefyd, rhoddodd yr adroddiad fanylion am wariant cyfalaf a lefelau buddsoddi ar yr amrywiol asedau priffyrdd, yr opsiwn triniaeth a ffafrir ar gyfer ffyrdd cerbydau megis trwsio tyllau, gwisgo’r wyneb neu ail-wynebu a budd cost trwsio ceudyllau dros dro.

 

Mewn ymateb i'r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Chris Dolphin ynghylch cyflwr rhai ffyrdd, dywedodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd fod archwiliadau diogelwch rheolaidd yn digwydd a bod unrhyw ddiffygion wedi'u nodi a bod y gwaith atgyweirio angenrheidiol wedi'i drefnu. Cywirwyd diffygion a oedd angen sylw brys neu eu gwneud yn ddiogel adeg yr arolygiad. Mae diffygion nad ydynt yn berygl neu risg dybryd yn cael eu rhaglennu i'w hatgyweirio o fewn yr amser a ddiffinnir yn y polisi fel y nodir yn yr adroddiad. Cydnabu’r Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd y pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Dolphin a chytunodd i'w gyfarfod yn dilyn y cyfarfod i drafod y problemau penodol yn ei Ward yngl?n â chynnal a chadw ffyrdd a goleuadau stryd.  Dywedodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd fod y Cyngor yn adolygu ei bolisi arolygu bob 2 flynedd a byddai 'Polisi ar gyfer Arolygon Diogelwch Priffyrdd a Meysydd Parcio, Meini Prawf Ymyrryd ac Amseroedd Ymateb' yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet i'w gymeradwyo erbyn Gorffennaf 2018.

 

Mewn ymateb i sylwadau ac awgrymiadau gan Aelodau ynghylch yr angen i archwilio defnyddio mathau eraill o ddeunyddiau ar gyfer gwisgo arwyneb ffyrdd, dywedodd y Prif Swyddog bod nifer o gynhyrchion amgen wedi cael eu defnyddio yn y gorffennol a byddai'n parhau i wneud ymholiadau ar yr awgrymiadau a gyflwynir ac adrodd yn ôl ar ei ganfyddiadau i gyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Yn ystod y drafodaeth, cytunwyd y byddai'r Aelodau'n cael gwybodaeth ynghylch pryd y cynhelir arolygiadau diogelwch priffyrdd yn eu Wardiau a byddai adborth yn cael ei ddarparu ar y sgoriau cyflwr.   

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad. 

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 04/04/2018

Dyddiad y penderfyniad: 17/10/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/10/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Accompanying Documents: