Manylion y penderfyniad

Induction Report

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar ddatblygiad y rhaglen sefydlu Aelodau yn dilyn yr etholiadau.

 

Yn dilyn adborth cadarnhaol ar y sesiynau sefydlu generig ar gyfer Aelodau newydd a rhai sy’n dychwelyd, roedd rhaglen ddrafft o friffiau Datblygu Aelodau wedi eu paratoi i ddarparu sgiliau a gwybodaeth benodol i Aelodau a oedd eu hangen i gyflawni eu swyddi.  Roedd y rhaglen yn destun adolygiad parhaus, er enghraifft, roedd gweithdai ychwanegol ar y Polisi Cludiant a Chytundeb Twf Gogledd Cymru wedi eu trefnu ar gyfer mis Tachwedd mewn ymateb i geisiadau Aelodau.  Roedd hefyd cyfle i Aelodau newydd fynd i ddigwyddiad rhanbarthol a gynhaliwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

Croesawodd y Cynghorydd Chris Bithell yr ymagwedd tuag at y rhaglen sefydlu a oedd yn ceisio cynnwys cymaint o Aelodau a phosibl.  Gofynnodd am fanylion ar y nifer a oedd yn bresennol yn y sesiynau sefydlu a sawl unigolyn nad oedd yn bresennol o gwbl, yn arbennig Aelodau newydd.  Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod Aelodau newydd wedi bod yn bresennol mewn o leiaf un sesiwn sefydlu.  Cytunodd i ddarparu gwybodaeth mewn adroddiad i’r cyfarfod nesaf gan gynnwys manylion fesul slot amser, fel y gofynnwyd gan y Cynghorydd Glyn Banks.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Arnold Woolley, eglurwyd fod hyfforddiant Trosolwg a Chraffu wedi ei roi i bob un o’r pwyllgorau unigol hynny ac roedd hefyd wedi’i gynnwys yn y sesiwn gyflwyno Materion Cyfansoddiadol.

 

Holodd y Cynghorydd Mike Peers a ddylid dwyn ymlaen y sesiynau datblygu ar Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan fod y testun wedi’i godi gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) fel maes i ganolbwyntio’n benodol arno yn ystod grwpiau trafod diweddar.  Byddai’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn gofyn am eglurhad gan nad oedd hyn wedi ei nodi’n flaenoriaeth gan SAC.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Bithell bwysigrwydd sicrhau fod pob Aelod a swyddog yn deall eu cyfrifoldebau ar ddiogelu a chyfeiriodd at y sesiynau i’w darparu cyn cyfarfodydd y pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac Archwilio.  Eglurwyd fod y sesiynau’n agored i bob Aelod ac y byddai’r rhai nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn cael cyfle i gymryd rhan mewn sesiwn ar y diwedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

a)        Bod y Pwyllgor yn nodi’r rhaglen sefydlu Aelodau a gynhaliwyd ar ôl yr etholiadau; a

 

b)        Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r ymagwedd tuag at Ddatblygu Aelodau am weddill blwyddyn y cyngor, fel y nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad.

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 14/02/2018

Dyddiad y penderfyniad: 25/10/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/10/2017 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Accompanying Documents: