Manylion y penderfyniad

Member survey on meeting times

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar ymgynghori ag Aelodau ar amseroedd cyfarfod pwyllgorau, ynghyd â’r ffurflen arolwg arfaethedig.  Amlinellodd yr ymagwedd arfaethedig i wahodd Aelodau etholedig ac wedi eu cyfethol i roi eu barn ar amseroedd a dyddiau a ffafriwyd, gan gynnwys y dewis o gyfarfodydd gyda'r nos.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at y goblygiadau posibl o ran cost o gynnal cyfarfodydd gyda’r nos ac awgrymodd y byddai cyfarfodydd gyda'r hwyr rhwng 5-7pm yn ddewis arall mwy cost effeithiol.  Cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd gynnwys y dewis hwn ar yr arolwg gan y gallai helpu osgoi gwrthdaro gyda chyfarfodydd Cynghorau Tref/ Cymuned.  Cytunodd hefyd y dylid dangos y slot amser 9am a 10am fel dewisiadau ar wahân, ar gais y Cynghorydd Clive Carver.

 

O ran cyfarfodydd gyda’r hwyr, codwyd pwyntiau gan y Cynghorydd Marion Bateman a Neville Phillips ar y goblygiadau o ran trefniadau gwaith staff a’r posibilrwydd o wrthdaro gyda chyfarfodydd Llywodraethwr Ysgol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mike Peers mai dim ond aelodau pwyllgorau unigol ddylai gael pleidleisio ar amseroedd y cyfarfodydd hynny.  Eglurodd y Prif Swyddog y byddai unrhyw drefniadau newydd yn berthnasol i gyfarfodydd drwy gydol tymor cyfan y Cyngor presennol , ond yn ystod y cyfnod hwnnw gallai aelodau newid.  Nododd hefyd y gallai Aelod sy’n dymuno bod ar bwyllgor penodol fethu a gwneud hynny oherwydd y trefniadau presennol.

 

Gan gefnogi’r ymgynghoriad ehangach, nododd y Cynghorydd Bithell fod Aelodau eraill yn aml yn mynd i gyfarfodydd Trosolwg a Chraffu i arsylwi.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Peers y dylid gofyn i Aelodau bleidleisio ar y pwyllgorau roeddynt yn gwasanaethu arnynt yn unig, gan gynnwys dirprwyon lle’r oedd rhai.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Arnold Woolley.  O'i roi i bleidlais, cytunwyd ar y gwelliant.

 

Fel dewis arall yn hytrach na’r arolwg, cynigiodd y Cynghorydd David Williams y dylai Aelodau o bob pwyllgor bleidleisio ar y trefniadau roeddynt yn eu ffafrio ar gyfer y pwyllgor hwnnw ar ddechrau bob blwyddyn.  Cafodd wybod fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd wedi defnyddio’r dull hwn o’r blaen drwy gytuno ar gymysgedd o gyfarfodydd bore a phnawn i annog presenoldeb.

 

Yna rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gynnig y Cynghorydd Williams i ymgynghori â phwyllgorau unigol ar eu dewisiadau.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Woolley a chafodd ei gefnogi gan y Pwyllgor.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog eglurhad y byddai eitem yn cael ei threfnu ar gyfer pob pwyllgor i ystyried patrwm cyfarfodydd a holi a oedd yr aelodau (gan gynnwys dirprwyon) yn dymuno pleidleisio ar bapur neu’n electronig.  Yn ogystal, byddai pob Aelod yn cymryd rhan mewn arolwg ar batrwm cyfarfod y Cyngor llawn.

 

Eglurwyd y byddai canlyniadau’r arolwg yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor a bod angen amser i ymgorffori unrhyw newidiadau i Amserlen y Cyfarfodydd ar gyfer 2018/19 cyn i'r Cyngor llawn eu hystyried ar 1 Mai 2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Dylid gofyn i Aelodau bleidleisio ar y trefniadau ar gyfer y pwyllgorau roeddynt yn gwasanaethu arnynt yn unig, gan gynnwys dirprwyon lle’r oedd rhai; a

 

 (b)      Dylid trefnu eitem ar gyfer pob pwyllgor i ystyried sut roeddynt yn dymuno pleidleisio ar y patrwm cyfarfodydd roeddynt yn ei ffafrio.

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 14/02/2018

Dyddiad y penderfyniad: 25/10/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/10/2017 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Accompanying Documents: