Manylion y penderfyniad
Cofnodion
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynwyd cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Medi 2017.
Cywirdeb
Tudalen 7: Cynghorydd Patrick Heesom – cyfeiriodd at gais 056694 a dywedodd fod pedwar rheswm wedi’u rhoi dros wrthod y cais. Gofynnodd bod y cofnodion yn cael eu diwygio i gynnwys y rhesymau ychwanegol pam mae’r cynnig yn cynrychioli niwed sylweddol, gan danseilio polisïau lleol a chenedlaethol sydd wedi’u dylunio i ddiogelu cefn gwlad agored a chymunedau gydag agweddau gwledig a’r effaith wrth ddynesu at yr anheddiad. Byddai’r cynnig hefyd yn erydu’r cymeriad gwledig a golwg y safle a’r ardal leol gyda’r niwed o ganlyniad i gymeriad a golwg y rhan hon o’r anheddiad.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y diwygiad a gynigiwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod gwir a chywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.
Dyddiad cyhoeddi: 16/04/2018
Dyddiad y penderfyniad: 04/10/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/10/2017 - Pwyllgor Cynllunio
Accompanying Documents: