Manylion y penderfyniad

Care Sector update to include top up fees and Invest to Save Care Sector Support

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide Members with an update on the current position.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad ar newidiadau a oedd yn digwydd yn y sector gofal yng Nghymru a Lloegr a'r heriau a wynebai’r Cyngor, gan gynnwys y cynnydd mewn ffioedd ychwanegol gan drydydd partïon wedi'u codi gan ddarparwyr y sector annibynnol.  Roedd yr adroddiad yn cyfleu pwysigrwydd cydweithio a dylanwadu ar Lywodraeth Cymru i ddod o hyd i atebion i sefydlogi’r sector gofal bregus.

 

Darparodd yr Uwch-reolwr (Diogelu a Chomisiynu) gefndir i'r cynnydd mewn ffioedd ychwanegol gan drydydd partïon o ganlyniad i lawer o bwysau ariannol o'r sector cartrefi gofal annibynnol.  Er nad oedd y tri chartref gofal a oedd yn eiddo i’r Cyngor yn codi ffioedd ychwanegol, amcangyfrifwyd bod y rhan fwyaf o ddarparwyr cartrefi gofal annibynnol yn Sir y Fflint yn codi tâl wythnosol o tua £16.50-£60.  Roedd nifer o amcanion tymor byr, canolig a mwy hirdymor wedi’u nodi i ddatblygu atebion a sicrhau cymaint â phosib' o gyfleoedd cyllid i gefnogi'r sector gofal.  Rhannwyd canfyddiadau adolygiad cynaliadwyedd o 18 o gartrefi gofal annibynnol y sir hefyd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill yngl?n â’r cyfraniad gan GIG Cymru tuag at gostau gofal unigol a dywedwyd wrthi bod hon yn gyfradd y cytunwyd arni ymlaen llaw o £147.50. Cynigodd y dylai’r Pwyllgor anfon sylwadau ysgrifenedig at yr Aelodau Cynulliad, a chytunodd y Cadeirydd.

 

Yn dilyn cwestiynau gan y Cynghorwyr Ian Smith a Gladys Healey, eglurodd yr Uwch-reolwr y broses ymgeisio ar gyfer achosion lle gallai teuluoedd a oedd yn dangos nad oeddent yn gallu cwrdd â chostau gofal gael cymorth gan y Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cynnydd disgwyliedig yn niffyg y gwelyau preswyl ar gyfer henoed bregus eu meddwl a gofynnodd faint o unigolion oedd ar y rhestr aros ar hyn o bryd, gan gynnwys y rhai y tu allan i’r sir, a faint o bobl oedd yn aros am leoliadau gofal preswyl.  Eglurodd yr Uwch-reolwr (Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion) bod y data hwn yn newid o ddydd i ddydd a bod ymarfer mapio gwelyau wythnosol yn helpu i nodi'r wybodaeth ar yr adeg honno.  Fel yr oedd hi y diwrnod cynt, roedd lleoedd ar gael ym mhob categori gofal (tua 3-4- lle ym mhob un) ond heb unrhyw hyblygrwydd o ran lleoliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)         Bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad ac yn cydnabod yr heriau ar hyn o bryd a rhai mwy hirdymor a wynebid yn Sir y Fflint;

 

 (b)         Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r mentrau tymor byr, canolig a hir i gefnogi’r sector gofal yn Sir y Fflint;

 

 (c)         Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r angen am ddiwygiad cenedlaethol i drefniadau ariannu’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn cymeradwyo'r safbwynt i barhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i ddatblygu atebion ar frys; a

 

 (d)         Bod yr Hwylusydd yn paratoi llythyr i’w lofnodi gan y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor i wneud sylwadau i Aelodau’r Cynulliad am gyfraniad tecach gan GIG Cymru tuag at gostau gofal.

Awdur yr adroddiad: Jane Davies

Dyddiad cyhoeddi: 24/11/2017

Dyddiad y penderfyniad: 05/10/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/10/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: