Manylion y penderfyniad
Review of the Council's Residents Parking Policy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
To review the Council’s existing
Residents Parking Policy.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad am Adolygiad o Bolisi Parcio Preswylwyr y Cyngor. Os oes angen i breswylwyr barcio ar y stryd gan nad oes lleoedd ar gael i barcio oddi ar y stryd, esboniodd y gellid gweithredu Cynllun Parcio i Breswylwyr er mwyn caniatáu i breswylwyr barcio mewn lleoedd wedi'u marcio y tu allan i'w cartrefi trwy arddangos hawlen ddilys.
Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor Arolygu a Chraffu'r Amgylchedd ym mis Mehefin ac argymhellwyd y dylid cynyddu lefel y gefnogaeth leol sy’n ofynnol i ddod â chynllun i rym o 50% i 75%. Nid oedd y ffigwr uwch wedi’i gynnwys yn y polisi diwygiedig oherwydd credwyd y byddai'n eithriadol o annhebygol y byddai unrhyw gynnig yn derbyn y lefel honno o ymateb a byddai hynny'n arwain at rwystro unrhyw gynlluniau rhag symud ymlaen yn y dyfodol. Mewn Cynghorau eraill, 50% oedd y lefel gymeradwyo ble roedd opsiynau Parcio i Breswylwyr yn cael eu cynnig i’r gymuned.
Esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) bod Matrics Asesu Cynllun Parcio i Breswylwyr yn cael ei gynnig ac y byddai’n blaenoriaethu cynlluniau a geisiwyd ar gyfer ystyriaeth. Byddai hwn yn sgorio agweddau perthnasol o’r polisi yn erbyn yr angen am y cynllun ac roedd yn gydnaws â Matrics Asesu’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar gyfer blaenoriaethu cyfyngiadau traffig. Oherwydd y cynnydd mewn ceisiadau am Gynlluniau Parcio i Breswylwyr a chostau adnoddau staff, argymhellwyd y dylid dilyn y matrics ac y dylai'r tri Cynllun Parcio i Breswylwyr sy'n cael y sgoriau uchaf gael eu gweithredu ym mhob blwyddyn ariannol. Roedd hynny’n fforddiadwy o fewn y gyllideb bresennol.
Gofynnodd y Cynghorydd Attridge a fyddai cynlluniau ond yn cael eu gweithredu os ydynt yn cael cefnogaeth y Cyngor Tref neu Gymuned. Esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) y byddai angen cefnogaeth y Cyngor Tref neu Gymuned ar unrhyw gynllun ac na fyddai cynlluniau yn cael eu gweithredu heb y gefnogaeth honno.
Dywedodd y Cynghorwyr Bithell a Roberts eu bod yn cefnogi'r syniad o gadw canran o 50% gan y byddai ei chodi i 75% yn anghyraeddadwy.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r newidiadau i’r Polisi Parcio i Breswylwyr presennol; a
(b) Cymeradwyo Matrics Asesu’r Cynllun Parcio i Breswylwyr a ddefnyddir i flaenoriaethu ceisiadau yn y dyfodol am gymeradwyo cynlluniau Parcio i Breswylwyr.
Awdur yr adroddiad: Steve Jones
Dyddiad cyhoeddi: 16/04/2018
Dyddiad y penderfyniad: 26/09/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 26/09/2017 - Cabinet
Yn effeithiol o: 05/10/2017
Accompanying Documents: