Manylion y penderfyniad
Review of the Winter Maintenance Policy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
To approve the revised Winter Maintenance Policy which includes details of the Council’s response during other emergency or inclement weather events.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad Polisi Cynnal yn y Gaeaf a oedd yn ddiweddariad o'r Polisi Cynnal yn y Gaeaf presennol. Roedd hefyd yn cadarnhau y gofynion deddfwriaethol i ddarparu gwasanaeth tebyg, dyraniad cyllidebol a gwir wariant y Cyngor wrth gydymffurfio â’r polisi presennol a darparu’r gwasanaeth yn ystod y 4 blynedd ddiwethaf.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) mai arfer da oedd adolygu’r Polisi yn rheolaidd a bod yr adroddiad yn amlinellu’r newidiadau a gynhwysir yn y fersiwn mwyaf diweddar o’r Polisi Cynnal yn y Gaeaf. Hefyd, amlinellodd yr adroddiad ymateb y Sir i achosion eraill o dywydd gwael, fel llifogydd a gwyntoedd cryfion, a gofynnwyd am gymeradwyaeth i’r Polisi Dosbarthu Bagiau Tywod rhanbarthol a fyddai’n cael ei weithredu yn ystod cyfnodau o law trwm neu achosion eraill o lifogydd.
Croesawodd y Cynghorydd Roberts y meini prawf ar gyfer cyfyngiadau traffig ar gyfer A548 Pont Sir y Fflint a gofynnodd pa arwyddion a fyddai’n cael eu defnyddio. Esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) bod adolygiad yn cael ei gynnal o holl arwyddion Sir y Fflint ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i Aelodau'r Cabinet faes o law.
Roedd y Cynghorydd Shotton yn falch o nodi manylion y cerbydau graeanu newydd ar gyfer 2017/18 a oedd yn cynnwys meddalwedd Schmidt Autologic. Byddai hyn yn cynorthwyo’r gyrwyr i weithredu gan sicrhau fod y swm cywir o halen yn cael ei wasgaru ar y rhwydwaith. Roedd hefyd yn croesawu’r Polisi Dosbarthu Bagiau Tywod newydd.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Polisi Cynnal yn y Gaeaf diwygiedig (2017-19) a’r gweithdrefnau a gynhwysir ar gyfer darparu'r gwasanaeth cynnal yn y gaeaf; a
(b) Cymeradwyo manylion ymateb y Sir i achosion o dywydd anffafriol a'r Polisi Dosbarthu Bagiau Tywod newydd.
Awdur yr adroddiad: Steve Jones
Dyddiad cyhoeddi: 16/04/2018
Dyddiad y penderfyniad: 26/09/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 26/09/2017 - Cabinet
Yn effeithiol o: 05/10/2017
Accompanying Documents: