Manylion y penderfyniad
Wales Audit Office Study Reports
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To be assured by the reports of the Wales Audit Office and support the executive response.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiadau adolygu Swyddfa Archwilio Cymru ar gamau dilynol yr Asesiad Corfforaethol, Llywodraethu Da wrth benderfynu ar newidiadau gwasanaeth, ac effeithiolrwydd rhaglen arbedion effeithlonrwydd y Cyngor. Cyflwynwyd yr adroddiadau, oedd yn bwydo i’r Adroddiad Gwella Blynyddol (yr eitem nesaf ar y rhaglen) er mwyn rhoi sicrwydd ar y meysydd hynny ac i ystyried os oedd ymatebion gweithrediaeth y Cyngor yn gymesur.
Cyflwynwyd yr adborth canlynol gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, yn ogystal ag ymatebion swyddogion, i’r Cabinet:
· Gwytnwch ariannol – pryderon fod y targed o 95% ar gyfer arbedion effeithlonrwydd yn rhy uchel ac y dylid ei ostwng gan mai dim ond 85% o arbedion effeithlonrwydd oedd yn cael eu cyflawni ar hyn o bryd. Wrth gydnabod yr her hwn, eglurodd y Prif Weithredwr i’r Pwyllgor fod angen cadw pwysau sefydliadol er mwyn cyflawni mor agos i 100% o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd â phosib; a
· Trosolwg a Chraffu – roedd barn wedi ei mynegi y gellid gwneud mwy i graffu ar ganlyniadau materion oedd yn cael eu harwain gan gyllideb wedi eu rhoi ar waith. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y dull gweithredu hwn eisoes yn cael ei ddatblygu yn ogystal â chyn-ymgynghori ar opsiynau cyllideb.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad yn gyffredinol bositif a sicrhaodd y Pwyllgor fod gwaith wedi cychwyn ar y cynigion i wella, nad oeddynt yn argymhellion nac yn faterion newydd.
Eglurodd Mr. Paul Goodlad o Swyddfa Archwilio Cymru fod rhannu’r canfyddiadau gyda’r Cyngor yn gynnar yn y broses yn golygu y gellid rhoi cychwyn ar y camau gweithredu cyn i’r adroddiad gael ei gyhoeddi; dull gweithredu effeithiol. Dywedodd y gellid bob amser nodi meysydd gwelliant a chadarnhaodd nad oedd pryderon sylweddol.
Gofynnodd Sally Ellis am y cynnydd gyda Strategaethau Digidol a Phobl gan i hynny gael ei amlygu yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraeth) am ddatblygiad cynllun gweithredu er mwyn nodi canlyniadau uchelgeisiol ar gyfer y Strategaeth Ddigidol.
Gofynnodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin os oedd y Cyngor yn bwriadu ymgysylltu gyda chynghorau eraill ar y Strategaeth Ddigidol oherwydd maint a natur y gwaith hwn.
Rhoddodd y Prif Weithredwr esiamplau o wasanaethau oedd eisoes yn cael eu darparu yn rhanbarthol ac eraill lle'r oedd cyfleoedd cydweithredol i ddisodli meddalwedd gyfredol TG yn cael eu harchwilio yn rhanbarthol neu’n genedlaethol.
Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Paul Johnson ar y cynnig gwelliant ar gyfer adroddiad arbedion effeithlonrwydd, eglurodd Mr Goodlad y byddai Swyddfa Archwilio Cymru yn ail ymweld â rhai o'r materion mwy strategol er mwyn asesu os yw effaith heb fod yn ariannol y mentrau effeithlonrwydd yn cael eu gwerthuso.
PENDERFYNWYD:
Bod y pwyllgor wedi’i sicrhau gan adroddiadau adolygu Swyddfa Archwilio Cymru a’i fod yn cefnogi ymateb gweithredol y Cyngor.
Awdur yr adroddiad: Karen Armstrong
Dyddiad cyhoeddi: 24/11/2017
Dyddiad y penderfyniad: 27/09/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/09/2017 - Pwyllgor Archwilio
Accompanying Documents: