Manylion y penderfyniad
Consultation Outcomes to the Proposed Conditions of the draft Dog Control Public Spaces Protection Order (PSPO)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
To report on the
findings of the recent consultation and to seek approval of the
conditions of the Dog Control Public Space Protection Order
(PSPO).
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn cynnig dau opsiwn ar gyfer mabwysiadu Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli C?n. Nodwyd yr opsiynau yn yr adroddiad yn ogystal â'r ymatebion yn yr ymgynghoriad.
O ran gwahardd c?n ar gaeau chwaraeon wedi’u marcio, gwnaeth 21 o’r atebwyr sylwadau cefnogol, gwnaeth 24 o atebwyr sylwadau’n cwestiynau’r gwaharddiad a holodd 31 o atebwyr a fyddai darpariaethau eraill yn cael eu gwneud er mwyn ymarfer c?n yn sgîl y bwriad i wneud rhai ardaloedd yn waharddedig. Roedd yr RSPCA a’r Kennel Club yn credu y dylid gadael i g?n fynd ar gaeau chwaraeon wedi’u marcio.
Yn y Pwyllgor Arolygu a Chraffu’r Amgylchedd ar 19 Medi, pleidleisiodd Aelodau o blaid Opsiwn 2 a fyddai’n gweld cyfnod ymgynghori pellach yngl?n â gwahardd c?n ar gaeau chwaraeon wedi’u marcio. Roedd argymhelliad arall wedi’i gyflwyno sef y gellid ymarfer c?n ar dennyn o amgylch perimedr y caeau chwaraeon wedi’u marcio. Roedd yr Aelod Cabinet yn cefnogi Opsiwn 2 ond byddai angen i Gynghorau Tref a Chymuned gynnal unrhyw ymgynghoriad pellach.
Siaradodd y Cynghorydd Attridge o blaid gwahardd c?n o gaeau chwaraeon wedi’u marcio, gan roi enghreifftiau o gemau chwaraeon yn gorfod cael eu gohirio er mwyn glanhau baw c?n. Dywedodd nad oedd caniatáu i g?n fynd ar gaeau chwaraeon wedi’u marcio yn dderbyniol i iechyd a lles preswylwyr Sir y Fflint. Cytunodd y Cynghorydd Mullin â barn y Cynghorydd Attridge a soniodd fod problemau tebyg yn codi ar y cae chwaraeon wedi’i farcio ym Mrychdyn.
Roedd y Cynghorydd Shotton hefyd yn cefnogi barn Cynghorwyr Attridge a Mullin a chefnogodd Opsiwn 1 yr argymhelliad. Fodd bynnag, dywedodd fod angen i’r Cyngor fod yn ystyriol o rai safbwyntiau gan gymunedau yn dilyn yr ymgynghoriad. Yn dilyn cwestiwn, esboniodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) y byddai’r Gorchymyn yn diffinio’r ardaloedd gwaharddedig. Os nad oes unrhyw leoliad arall i ymarfer c?n yn yr ardal, byddai dewisiadau amgen yn cael eu ceisio. Yn dilyn trafodaeth cytunwyd y byddai swyddogion yn gweithio gyda’r cymunedau hynny a nododd mai caeau chwaraeon wedi’u marcio oedd yr unig leoliadau i gerdded c?n er mwyn chwilio am fannau amwynder ychwanegol.
PENDERFYNWYD:
(a) Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bod Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored yn cael ei wneud i gwmpasu rheoli c?n a baw c?n yn Sir y Fflint, gyda'r amodau canlynol:
i. Cael gwared ar wastraff eu ci o’r holl fannau cyhoeddus yn Sir y Fflint;
ii. Peidio â mynd â ch?n neu adael i g?n fynd neu aros ar y tiroedd canlynol:
a. Pob rhan o diroedd ysgolion;
b. Ardaloedd chwarae mewn ardaloedd hamdden ffurfiol gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i lawntiau bowlio a chyrtiau tennis;
c. Ardaloedd chwarae plant caeedig â ffens.
iii. Cadw eu c?n ar dennyn mewn Mynwentydd;
iv. Sicrhau bod ganddynt fodd priodol o godi gwastraff eu ci o bob man cyhoeddus yn Sir y Fflint;
v. Rhoi eu ci ar dennyn, pan fydd swyddog awdurdodedig yn gofyn iddynt wneud hynny, os yw’r ci yn rhydd ac yn niwsans neu'n poeni unrhyw unigolyn, aderyn neu anifail arall; a
vi. Bod swyddogion yn gweithio gyda’r cymunedau hynny a nododd mai caeau chwaraeon wedi’u marcio oedd yr unig leoliadau i gerdded c?n er mwyn chwilio am fannau amwynder ychwanegol.
(b) Cytuno bod y Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored sy'n cwmpasu rheoli c?n a baw c?n yn dechrau ar 20 Hydref, yn dilyn cyfnod rhybudd a chyhoeddusrwydd y Gorchymyn sydd ar ddod.
Awdur yr adroddiad: Gerwyn Davies
Dyddiad cyhoeddi: 16/04/2018
Dyddiad y penderfyniad: 26/09/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 26/09/2017 - Cabinet
Yn effeithiol o: 05/10/2017
Accompanying Documents: