Manylion y penderfyniad

Council Plan 2017 – 23

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To adopt the Council Plan 2017-23 prior to publication by the end of September.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar Gynllun y Cyngor 2017-23. Roedd y Cynllun wedi’i adolygu a’i ddiweddaru i adlewyrchu blaenoriaethau allweddol y Cyngor am y tymor o 5 mlynedd o dan y weinyddiaeth a oedd newydd ei hethol.

 

Roedd gan y Cynllun chwe blaenoriaeth gydag is-flaenoriaethau, gyda’r chwe blaenoriaeth â golwg tymor hir ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Roedd y Cynllun wedi’i gyflwyno i'r chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu, gyda phedwar ohonynt yn cefnogi heb sylwadau, a dau yn cefnogi’r Cynllun ond gyda sylwadau penodol a gyflwynwyd i’r Cabinet. Roedd copi o’r gwelliannau i’r Cynllun, a argymhellwyd i’r Cabinet, wedi’u cylchredeg i’r holl Aelodau cyn dechrau’r cyfarfod. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i bob Aelod a gyfrannodd at y Cynllun, gan gynnwys y sylwadau a wnaed yn y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Roedd sylwadau adeiladol gan y Pwyllgorau hynny wedi’u derbyn gan y Cabinet yn gynharach yn y dydd a bellach wedi’u hargymell i’r Cyngor. Dywedodd mai’r chwe blaenoriaeth allweddol oedd y blaenoriaethau allweddol yn seiliedig ar faterion cymdeithasol a oedd yn uchel ar raglen y weinyddiaeth. Ar adeg o galedi ariannol, roedd yn bwysig canolbwyntio ar y blaenoriaethau.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Richard Jones sylw ar y gwelliant cyntaf o amgylch ‘Cyngor Uchelgeisiol’ a dywedodd, yn ystod cyfarfod Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, nad oedd wedi sôn am unrhyw dref benodol ac wedi gofyn bod "yn arbennig ar gyfer defnydd preswyl" yn cael ei dynnu oddi yno, a gefnogwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Teimlai y byddai datblygwyr yn defnyddio'r ddogfen lefel uchel hon i wneud canol trefi'n dameidiog er mwyn darparu ardaloedd preswyl, a gofynnodd am dynnu'r geiriau hyn oddi yno.

 

            Rhoddodd y Cynghorydd Jones sylw hefyd ar ddatblygu strategaethau cludiant rhanbarthol a lleol a cheisiodd sicrhau gwariant teg ar draws trefi ac nid Glannau Dyfrdwy yn unig. Roedd eisiau cynllun a oedd yn anfon datblygiad economaidd pob tref ymlaen, a holodd pam nad oedd yr argymhellion o amgylch hyn a gyflwynwyd o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi'u cyflwyno. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y geiriad wedi ei wella, ar y pwynt cyntaf, i ddadbwysleisio tai; yn ysbryd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol roedd y geiriad yn awgrymu datblygiad aml-ddefnydd o ganol trefi i gefnogi eu hyfywedd.  Ar yr ail bwynt, bu trafodaeth ar ddyrannu adnoddau'n deg ar draws canol trefi, ac fel y nodwyd yn ystod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, nid oedd yn bosibl bod yn gydradd gan fod llawer o'r cyllid a dderbynnir yn aml yn dod o ffynonellau’r llywodraeth ac wedi eu targedu tuag at ardaloedd gyda nodweddion penodol fel amddifadedd. 

 

Eglurodd y Cynghorydd Attridge bod y flaenoriaeth i ddatblygu dull wedi’i adnewyddu i gefnogi canol trefi a’r geiriad penodol o amgylch ‘defnydd preswyl’ yn ymwneud â gwelliannau i eiddo uwchben siopau yng nghanol trefi.  Ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddai polisi cynllunio a’r Cynllun Datblygu Lleol yn darparu’r dulliau diogelu.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Peers sylw ar dudalen 34 ar ddatblygu anghenion twf tai'r Cyngor, a holodd sut y daethpwyd i’r ffigur o 50 cartref a sut roedd yn ymwneud â'r galw. Ar y ddogfen mesurau a cherrig milltir, ni allai weld y garreg filltir o lwyddiant yn gysylltiedig â’r cynllun gweithredu ar gyfer datblygu tai cyngor a gofynnodd a oedd modd edrych ar hyn. Ar dudalen 38, gofal preswyl a chynlluniau ar gyfer 2017/18 a sicrhau darpariaeth gofal cartref, holodd a oedd modd ychwanegu’r gair ‘fforddiadwy’ neu a oedd hyn y tu hwnt i reolaeth y Cyngor. Ar dudalen 39, rhoddodd sylw ar y risgiau i’w rheoli yn y Cynllun, yn enwedig y risgiau i ddarparu gofal cymdeithasol a oedd yn annigonol, a holodd a oedd cynllun gweithredu lliniaru, pe bai cyflenwad yn rhagori ar y galw.  Ar dudalen 40, Gwasanaethau Iechyd Cymdeithasol Cymunedol Integredig a gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a holodd a oedd modd cynnwys Ysbyty Iarlles Caer yn y cynllun 5 mlynedd.

 

Ymatebodd y Prif Weithredwr y gallai’r Cynllun gynnwys dim ond dyheadau lle roedd gan y Cyngor level uchel o reolaeth drosto yn unig, ac felly nid oedd modd ychwanegu blaenoriaethau o amgylch gofal eilaidd ac ysbytai at y Cynllun, ac roedd hyn hefyd yn gymwys i’r awgrym o amgylch cynnwys y gair ‘fforddiadwy’ o fewn darparu cartrefi gofal. Gallai trafodaeth bellach ar sut roedd risgiau o amgylch gofal cymdeithasol yn cael eu rheoli ddigwydd y tu allan i’r cyfarfod.  

 

Esboniodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) fod y ffigur o 50 cartref wedi’i argymell yn dilyn yr asesiad marchnad dai leol a nododd y lefel ofynnol o dai cymdeithasol, fforddiadwy. Roedd y ffigurau’n seiliedig ar waith manwl o amgylch beth y gellid ei ddarparu dros y 12 mis nesaf, yn cynnwys, y cap ar fenthyca a oedd ar gael drwy’r Cyfrif Refeniw Tai, ceisiadau cynlluniau hysbys y cytunwyd arnynt, a chyllid cyfalaf ar gael drwy Lywodraeth Cymru. Roedd bwlch rhwng anghenion tai a beth allai'r Cyngor ei ddarparu, felly roedd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno dadl gref dros godi cap ar fenthyca'r Cyfrif Refeniw Tai.

 

            O’i roi i’r bleidlais, derbyniwyd y cynllun, yn cynnwys y sylwadau y’i diwygiwyd gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a'r Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Cynllun y Cyngor 2017-23 yn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir i'w gyhoeddi'n derfynol erbyn diwedd Medi.

Awdur yr adroddiad: Christopher X Phillips

Dyddiad cyhoeddi: 26/10/2017

Dyddiad y penderfyniad: 27/09/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/09/2017 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: