Manylion y penderfyniad

Flintshire Public Services Board Review and Well-being Plan Development

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To provide a review of the work of the Public Services Board and the development of the Well-being Plan.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Adolygiad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a Datblygiad y Cynllun Lles, a roddodd drosolwg o waith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint hyd yn hyn, a datblygiad y Cynllun Lles.  Rhoddodd yr adroddiad drosolwg cryno hefyd o'r partneriaethau strategol a oedd yn adrodd i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

            Nod lefel uchel y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus oedd “gwarchod, cynnal a gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir y Fflint drwy gydweithio fel un gwasanaeth cyhoeddus.”   Roedd Asesiad Lles ar gyfer Sir y Fflint wedi’i lunio a’i gyhoeddi’n unol â gofynion statudol ac yn cyflwyno darlun cyfoes o fywyd a lles yn Sir y Fflint.  Amlinellwyd diweddariadau cynnydd yn yr adroddiad.

 

            Roedd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint wedi dewis a chefnogi pum thema a oedd â nifer o flaenoriaethau:

 

1.    Thema: Lles a Byw’n Annibynnol;

2.    Thema: Diogelwch Cymunedol;

3.    Thema: Cymunedau Gwydn;

4.    Economi a Sgiliau; ac

5.    Amgylchedd.

 

Dechreuodd cyfnod ymgynghori 12 wythnos yn Hydref 2017 a byddai’n dod i ben yn Ionawr 2018. Byddai digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd yn ffurfio rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus statudol.  Byddai’r Cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol i geisio cefnogaeth, ac i'r Cabinet gefnogi'r strwythur a'r cynnwys.   Byddai’r Cynllun hefyd yn cael ei gyflwyno i gyrff statudol eraill y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn ei gefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Aelodau'n cael sicrwydd ar lefel y cynnydd y mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint wedi'i wneud hyd yn hyn;

 

(b)       Bod themâu/blaenoriaethau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael eu cefnogi;

 

(c)        Bod lefel cynnydd y partneriaethau strategol amrywiol yn cael eu cefnogi; a

 

(d)       Bod y camau nesaf a amlinellir yn yr adroddiad a’r amserlen o ran darparu’n cael ei nodi.

Awdur yr adroddiad: Karen Armstrong

Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2017

Dyddiad y penderfyniad: 24/10/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/10/2017 - Cabinet

Yn effeithiol o: 02/11/2017

Accompanying Documents: