Manylion y penderfyniad

Revised Environmental Enforcement and Car Parking Arrangements

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To seek Scrutiny approval on the direction of the Environmental and Car Parking Enforcement service

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaeth Gwastraff a Gwasanaethau Ategol adroddiad i ystyried cysylltu â phartner preifat arbenigol i gynnal gweithgareddau gorfodi amgylcheddol ar drosedd lefel isel megis baw c?n, taflu sbwriel a pharcio ceir ar ran y Cyngor o dan gontract dwy flynedd.

 

Roedd casgliadau treial 12 mis y cytundeb ffurfiol gyda Kingdom yn gadarnhaol o ran y cynnydd sylweddol yn y nifer o rybuddion cosb benodedig a roddwyd yn ystod yr amser hwnnw a’r effaith ar ganol trefi a mannau agored.  Dangosodd dadansoddiad o fathau o sbwriel rhwng mis Gorffennaf 2016 a mis Ebrill 2017 mai sbwriel sigaréts oedd hyn yn bennaf.     Roedd telerau’r cytundeb yn golygu bod y gyfran o incwm a gynhyrchir gan y Cyngor yn cael ei defnyddio i ariannu gweithgarwch gorfodi ychwanegol i dargedu ardaloedd penodol lle mae baw c?n yn broblem.  Byddai estyn y peilot tan fis Rhagfyr 2017 yn galluogi ystyriaeth o ddatrysiad tymor hwy.

 

I fynd i’r afael â phroblem gwastraff ochr, roedd y Cyngor yn bwriadu cymryd ymgynghoriad 3 cham i weithio gyda thrigolion a fethodd i gyflwyno eu gwastraff yn y ffordd gywir ac i ddefnyddio pwerau penodol i gyhoeddi rhybuddion cosb benodedig fel opsiwn olaf.  Byddai tîm bach o swyddogion y Cyngor yn gyfrifol am y dull gorfodi hwn, ochr yn ochr â throsedd amgylcheddol tebyg megis tipio anghyfreithlon, yn ogystal â rhoi cefnogaeth achlysurol i'r darparwr contract ar droseddau amgylcheddol lefel isel.

 

Croesawodd y Cynghorydd Paul Shotton ganfyddiadau’r adroddiad a siaradodd o blaid yr holl argymhellion.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd David Evans sylwadau ar safle’r Cyngor ar orfodaeth amgylcheddol.  Teimlai bod dadansoddi rhybuddion cosb benodedig yn dangos yr angen am fwy o ffocws ar droseddau baw c?n yn hytrach na thaflu sbwriel ac y byddai dod â'r gwasanaeth yn fewnol yn helpu i flaenoriaethu a mynd i’r afael â’r troseddau mwyaf pryderus.    Pwysleisiodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y canlyniadau mwy llwyddiannus o drefnu'r gwasanaeth drwy gontract allanol a sicrhaodd fod camau gorfodi baw c?n (er ei fod yn fwy heriol i’w orfodi) yn flaenoriaeth allweddol.  Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod sbwriel sigaréts yn broblem eang a bod effaith y peilot yn amlwg ar draws y sir.  Anogodd Aelodau i rannu cudd-wybodaeth ar faw c?n, gan ddarparu manylion swydd yr uwch swyddog i reoli'r contract allanol a delio gyda’r apeliadau.

 

Cytunodd Rheolwr y Gwasanaeth Gwastraff a Gwasanaethau Ategol i ddosbarthu’r adroddiad ‘Cadwch Gymru'n Daclus’, ynghyd â manylion ar y nifer o achosion gorfodi yr aeth y Cyngor â hwy i'r llys.

 

O ran gorfodi gwastraff ochr, ar gyfer y ddau opsiwn ar gam 1 y broses, esboniwyd y byddai'r bin yn cael ei labelu i gynghori'r trigolion pam bod gwastraff wedi cael ei dynnu oddi yno neu bod un bag ar ôl yn y bin gwag.  Pwysleisiwyd na fyddai gwastraff ochr yn cael ei adael y tu allan i eiddo.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Haydn Bateman Opsiwn 1 cam 1 y broses, sef cael gwared ar bob gwastraff ochr yn y lle cyntaf.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai biniau cyhoeddus gyda lle i roi bonion sigaréts yn helpu i leihau sbwriel.  Fe’i cynghorwyd bod tafarndai a chaffis yn cael eu hannog i ddarparu cyfleusterau i leihau'r math hwn o sbwriel ac y dylid rhannu cudd-wybodaeth am ardaloedd problemus er mwyn nodi lle mae angen gosod bin.

 

Croesawodd y Cynghorydd Chris Bithell lwyddiant y peilot a chyfeirio at yr agwedd gryfach a fabwysiadwyd gan rai gwledydd eraill.

 

Dywedodd y Cynghorydd Owen Thomas nad oedd digon o ddarpariaeth parcio i’r anabl mewn canol trefi ac y dylid marcio llefydd parcio nad ydynt yn llefydd anabl yn glir er mwyn nodi'r glir nad ydynt yn rhad ac am ddim i ddefnyddwyr anabl.  Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Gwastraff a Gwasanaethau Ategol fod y pwynt olaf wedi’i gytuno fel rhan o bolisi’r Cyngor a bod rhwymedigaethau statudol yn cael eu bodloni.    O ran maint y sbwriel a gynhyrchir gan siopau bwyd cyflym, siaradodd am weithio gyda’r sefydliadau hynny ar ymgyrchoedd cenedlaethol a rhannu cudd-wybodaeth ar yr ardaloedd sy’n broblem.  Yn dilyn pryderon tebyg gan Aelodau eraill, nododd y Prif Swyddog ei barodrwydd i ysgrifennu at y Gweinidog am y broblem barhaus hon pe bai’r Pwyllgor yn dymuno hynny.

 

Teimlai'r Cynghorydd Andy Dunbobbin hefyd y gellid cynnal y gwasanaethau gorfodi yn fewnol, gan ddysgu o fentrau diweddar megis Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol.  Esboniwyd bod rhoi i sefydliad allanol yn caniatáu mynediad at arbenigedd ac adnoddau ychwanegol.

 

Wrth gwestiynu cysondeb gorfodi ar draws y sir, dywedodd y Cynghorydd Veronica Gay y dylid gosod targedau penodol ar gyfer pob ardal ac y dylid rhoi adborth i Aelodau lleol mewn ymateb i gudd-wybodaeth a rennir.  Yn unol â'r cais, cytunodd y swyddogion i gynnal ymarfer mapio i ddangos lleoliadau’r rhybuddion cosb benodedig a gyhoeddir.

 

Ar ôl pleidleisio, cafodd Opsiwn 1, cam 1 y broses orfodi gwastraff ochr ei gynnal.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi proses gaffael un Partner Busnes ar gytundeb tymor byr o 2 flynedd (gyda dewis i ymestyn ar sail perfformiad) i gyflawni gorfodaeth o drosedd amgylcheddol lefel isel, rheoli c?n a throseddau parcio ceir ar ran y Cyngor; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn argymell Opsiwn 1 i’r Cabinet ar gyfer gorfodi gwastraff ochr.

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 30/10/2017

Dyddiad y penderfyniad: 19/09/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/09/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Accompanying Documents: