Manylion y penderfyniad

Conduct of a Private Hire / Hackney carriage (Joint) Driver

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trwyddedu

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried ymddygiad gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y panel, darparodd yr ymgeisydd wybodaeth ar ei euogfarnau goryrru diweddar a chadarnhaodd y rheswm iddo dderbyn gwaharddiad byr rhag gyrru yn hytrach na chael pwyntiau cosb ychwanegol.  Dywedodd nad oedd wedi bod yn goddiweddu ar y pryd ac nid oedd yn ymwybodol bod newid yn y terfyn cyflymder ar hyd y darn penodol hwn o'r ffordd.  Hefyd eglurodd yr amgylchiadau mewn perthynas â’r pwyntiau cosb yn dilyn euogfarnau blaenorol, a oedd yn dod i ben yn fuan.

 

Pan gafodd ei wahodd i ofyn cwestiynau, cododd yr ymgeisydd y pwynt o’r arwyddion cyflymder crwn du, a rhoddwyd eglurhad.  Wrth ddarparu rhagor o wybodaeth ar ei euogfarn mwyaf diweddar, dywedodd bod mynd yn fwy na’r terfyn cyflymder wedi bod yn ddiffyg canolbwyntio a’i fod wedi dysgu yn dilyn y digwyddiad.  Felly nid oedd yn teimlo y byddai bod yn bresennol mewn cwrs ymwybyddiaeth cyflymder yn angenrheidiol, am ei fod yn yrrwr rheolaidd ac roedd ganddo ddyfais wedi’i osod yn ei gar a fyddai’n helpu i fonitro newidiadau mewn terfynau cyflymder.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon y gofynnwyd yr holl gwestiynau perthnasol, gofynnodd i’r ymgeisydd a’r Arweinydd Tîm Trwyddedu i adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn dod i benderfyniad. 

 

5.1       Penderfyniad am yr Ymgeisydd

 

 I bennu’r cais, rhoddodd y panel ystyriaeth i gynrychioliadau llafar ac ysgrifenedig yr ymgeisydd, a chanllaw'r Cyngor ar drin euogfarnau sydd yn arwain at gymhwyster cyfnod byr.  Wrth ystyried yr amgylchiadau ynghlwm yn y gwaharddiad a'r camau rhagofalus a gymerwyd gan yr ymgeisydd, roedd y panel yn teimlo ei fod yn unigolyn cymwys ac addas i gynnal Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni/ Hurio Preifat (ar y cyd).

 

Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailymgynnull y cyfarfod. 

 

5.2       Penderfyniad

 

Dywedodd y Cadeirydd, ar ôl ystyried y cynrychioliadau a wnaethpwyd, cytunodd y panel y bydd yr ymgeisydd yn parhau i gael trwydded yrru cerbyd hacni/ hurio preifat.

 

PENDERFYNWYD:

 

 Bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gynnal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a chaniatáu’r Drwydded iddo.

Awdur yr adroddiad: Gemma Potter

Dyddiad cyhoeddi: 17/10/2017

Dyddiad y penderfyniad: 04/09/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/09/2017 - Is-bwyllgor Trwyddedu

  • Restricted enclosure  
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  •