Manylion y penderfyniad
Committee Membership – Vacancy on the Committee
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau,
Statws y Penderfyniad: For Determination
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro yr adroddiad a siaradodd am y lle gwag sydd ar y Pwyllgor Safonau ar gyfer aelod lleyg. Rhoddodd wybod iddynt fod yr Awdurdod Tân hefyd yn ceisio penodi aelod lleyg i’w Bwyllgor Safonau ac o ganlyniad roedd yna gyfle i ystyried hysbysebu ar y cyd am y penodiad a’r posibilrwydd o benodiad ar y cyd i leihau costau a rhoi proffil uwch i'r ymgyrch hysbysebu.
Mewn ymateb i’r cwestiynau a godwyd, esboniodd y Swyddog Monitro nad yw’r cyfnod yn y swydd i aelod lleyg o’r Pwyllgor yn llai na phedair nac yn fwy na chwe blynedd. Roedd rheoliadau’n gofyn i banel penodi gael ei sefydlu a meini prawf penodol gael eu pennu ar gyfer unrhyw aelod lleyg a benodir i’r Pwyllgor. Yn ystod y trafodaethau awgrymwyd y gellid sefydlu panel cyfweld ar y cyd gyda’r Awdurdod Tân yn cynnwys Cadeirydd Pwyllgor Safonau'r Cyngor a’r Awdurdod Tân, Cynghorydd Cymunedol, aelod lleyg, a Chadeirydd yr Awdurdod Tân. Byddai hyn yn golygu cyfanswm o ddau gynrychiolydd o’r Cyngor, dau gynrychiolydd o’r Awdurdod Tân, ac unigolyn lleyg.
Yn ystod trafodaeth cymeradwywyd yr argymhelliad i geisio cydsyniad yr Awdurdod Tân i hysbysebu ar y cyd gyda’r Cyngor am aelod lleyg i Bwyllgorau Safonau’r ddau awdurdod, a dylid archwilio'r posibilrwydd o benodi ar y cyd gyda'r Awdurdod Tân. Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at y panel cyfweld ar y cyd a awgrymwyd a chynnig bod hyn hefyd yn cael ei gymeradwyo a gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Arnold Woollet.
Mewn ymateb i’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Johnson ynghylch cydbwysedd y rhywiau ac aelodaeth ar y Pwyllgor, cydnabu'r Swyddog Monitro y pwyntiau a godwyd a dywedodd y byddai’n siarad gyda’r tîm cyfathrebu i geisio ystod eang o ymgeiswyr i’w hystyried. Awgrymodd ei fod yn dosbarthu copïau o’r meini prawf a gymeradwywyd gan y Cyngor ar gyfer recriwtio aelodau annibynnol i’r Pwyllgor, er gwybodaeth.
PENDERFYNWYD:
(a) Dylid ceisio cydsyniad yr Awdurdod Tân i hysbysebu ar y cyd gyda’r Cyngor am aelod lleyg i Bwyllgorau Safonau’r ddau awdurdod, a dylid archwilio'r posibilrwydd o benodi ar y cyd gyda'r Awdurdod Tân; a
(b) Y dylid sefydlu panel cyfweld ar y cyd a fyddai’n cynnwys Cadeiryddion Pwyllgor Safonau'r Cyngor a’r Awdurdod Tân, Cynghorydd Cymunedol, aelod lleyg, a Chadeirydd yr Awdurdod Tân.
Awdur yr adroddiad: Gareth Owens
Dyddiad cyhoeddi: 27/07/2018
Dyddiad y penderfyniad: 04/09/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/09/2017 - Pwyllgor Safonau
Accompanying Documents: