Manylion y penderfyniad

Public Services Ombudsman for Wales Annual Report for the Year 2016/17

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau,

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Is-swyddog Monitro yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r prif faterion yn yr Adroddiad Blynyddol gyda ffocws arbennig ar safonau cynghorwyr Sir a Thref a Chymuned.  Rhoddodd wybod mai pwrpas yr Adroddiad Blynyddol oedd adrodd ar berfformiad swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW) dros y flwyddyn ac i gyflwyno unrhyw negeseuon allweddol sy’n codi o’r gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn.

 

                        Cyfeiriodd yr Is-swyddog Monitro at y prif ystyriaethau oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ynghylch cwynion Cod Ymddygiad ac achosion cod ymddygiad.

 

                        Yn ystod y drafodaeth cytunwyd y byddai’r Swyddog Monitro yn dosbarthu copi lliw o’r Adroddiad Blynyddol i’r Pwyllgor.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

 

Awdur yr adroddiad: Gareth Owens

Dyddiad cyhoeddi: 27/07/2018

Dyddiad y penderfyniad: 04/09/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/09/2017 - Pwyllgor Safonau

Accompanying Documents: