Manylion y penderfyniad

North Wales Economic Growth Deal Bid Progress Report

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To share the current position on the developing Growth Deal Bid with timescales and initial decisions required.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar Gais Cytundeb Twf Economaidd Gogledd Cymru a oedd, ar ôl i'r Cabinet fabwysiadu Gweledigaeth Twf i Economi Gogledd Cymru, yn darparu manylion am y gwaith rhanbarthol a oedd yn cyd-ddigwydd â’r cytundeb datblygu ar gyfer ceisiadau twf mewn rhanbarthau dethol yn Lloegr a de Cymru.

 

            Symudwyd gwaith ar y Strategaeth ymlaen er mwyn ei chynnwys mewn cais ffurfiol o dan y pedwar thema rhyng-gysylltiedig sef safleoedd strategol cyflogaeth a thai; twf busnes ac arloesi; seilwaith trafnidiaeth a gwasanaethau; a sgiliau, bod heb waith a diwygio cymdeithasol.

 

             Cafodd y model llywodraethu rhanbarthol dewisedig ei nodi yn yr adroddiad sef cydbwyllgor statudol. Roedd angen trefniadau pontio ar gyfer rheoli gwleidyddol yn y cam cyntaf wrth aros i’r cydbwyllgor gael ei ffurfio.  Gan hynny, cynigwyd cael cydbwyllgor ‘cysgodol’ heb unrhyw bwerau i wneud penderfyniadau.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a soniodd am y momentwm cynyddol yng nghynghorau gogledd Cymru i wneud y Cais Cytundeb Twf yn llwyddiant.  Ar ôl i’r holl awdurdodau partner gymeradwyo adroddiadau tebyg am gynnwys y Cais Cytundeb Twf, byddai cyfarfodydd yn dechrau o fis Hydref ymlaen. 

 

            Cytunodd y Cynghorydd Attridge a dywedodd fod hyn yn enghraifft dda arall o weithio ar y cyd.

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Pwyllgor Arolygu a Chraffu Cymuned a Menter wedi cael cyfarfod briffio preifat am y pwnc hwn a’i fod wedi cael croeso mawr.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod cynnydd yn natblygiad y Cais Cytundeb Twf cystadleuol ar gyfer y rhanbarth yn cael ei nodi a’i gefnogi;

 

(b)       Bod y model llywodraethu dewisedig sef Cydbwyllgor statudol i ddatblygu ymhellach yn cael ei gefnogi mewn egwyddor gydag adroddiad llawn am gyfansoddiad a chylch gorchwyl a agymhellir, wedi’i ategu gan Gytundeb Rhwng Awdurdodau, yn dilyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn;

 

(c)        Bod Arweinydd y Cyngor yn cael awdurdod i weithredu fel aelod o Gydbwyllgor 'cysgodol' am gyfnod dros dro;

 

(d)       Bod Arweinydd y Cyngor, fel un o Arweinwyr y chwe Chyngor partner a gynrychiolir ar y Cydbwyllgor Cysgodol, yn cael awdurdod i ddechrau trafodaethau cam cyntaf ar y cyd â Llywodraethau yngl?n â maint ac amlinelliad o gynnwys y Cais Cytundeb Twf, gan nodi na fydd unrhyw ymrwymiadau ariannol nac eraill yn cael eu dechrau yn y cyfnod trafod dechreuol hwn; a

 

(e)       Bod y Prif Weithredwr yn cael awdurdod dirprwyedig i ganiatáu cyfraniad refeniw dechreuol o wariant 2017/18 ar gyfer datblygiad manwl y Cais Cytundeb Twf hyd at uchafswm o £50,000.

Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine

Dyddiad cyhoeddi: 16/04/2018

Dyddiad y penderfyniad: 26/09/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 26/09/2017 - Cabinet

Yn effeithiol o: 05/10/2017

Accompanying Documents: