Manylion y penderfyniad

Application for Variation of Premises Licence

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trwyddedu

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) i ystyried a phenderfynu ar gais dan y Ddeddf Trwyddedu 2003 i amrywio trwydded safle cyfredol yn Nant Inn, Padeswood Road, Bwcle i gynnwys bar allanol.   Eglurodd nad oedd y cais yn berthnasol i chwarae cerddoriaeth wedi'i recordio neu gerddoriaeth fyw ar yr eiddo trwyddedig, gan fod hyn wedi’i ganiatáu eisoes dan y ddeddfwriaeth heb fod angen trwydded ar wahân.

 

Yn dilyn sylwadau ysgrifenedig gan Heddlu Gogledd Cymru, roedd yr ymgeisydd wedi derbyn newid arfaethedig i stopio holl weithgareddau trwyddedadwy yn y bar allanol am 9pm (yn hytrach na 11pm), ynghyd ag amodau i gael darpariaeth CCTV fel y nodir yn Atodiad C i’r adroddiad.   Ar y sail hon, nid oedd gan Heddlu Gogledd Cymru unrhyw wrthwynebiad i'r cais.

 

Eglurodd y Swyddog Trwyddedu bod unrhyw amodau dilynol a gytunwyd yn y gwrandawiad yn cael eu gorfodi gan adran Trwyddedu'r Cyngor.

 

 Roedd sylwadau a ddaeth i law gan breswylydd lleol wedi’i dynnu’n ôl ar ôl iddynt gael eu hysbysu na ellir gwneud hyn yn ddienw.

 

Roedd adran Diogelu'r Amgylchedd y Cyngor wedi nodi gwrthwynebiad i’r rhan adloniant y tu allan yn y cais oherwydd nifer sylweddol o gwynion a ddaeth i law mewn ymateb i ddigwyddiad tu allan a gynhaliwyd yn yr eiddo yn gynharach yn y flwyddyn, a’r agosrwydd y lleoliad i dai cyfagos.

 

4.1       Sylwadau gan yr Ymgeisydd

 

Dywedodd Mr Phipps, wrth siarad ar ran yr ymgeisydd,  bod y cais yn ceisio caniatâd am gownter arlwyo bar allanol yng ngardd yr eiddo. Cynigiodd Mr Phipps y byddai’r cownter arlwyo yn cau am 9pm.   Eglurodd gan fod y cynigion gan Heddlu Gogledd Cymru wedi cael eu derbyn gan yr ymgeisydd, yr unig wrthwynebiad oedd gan Mr Foster, a’i wrthwynebiad oedd mewn perthynas â’r ‘rhan adloniant tu allan yn y cais hwn’.  Dywedodd Mr Phipps nad oedd hyn yn nodwedd o’r cais oherwydd esemptiad o fewn y Ddeddf Cerddoriaeth Fyw 2012 a oedd yn caniatáu i amgylchiadau lle byddai'r eiddo trwyddedig yn gallu darparu cerddoriaeth wedi'i recordio/cerddoriaeth fyw.  Er bod yr hawl hwn yn berthnasol ar gyfer drwy gydol y flwyddyn, dywedodd y byddai cerddoriaeth ond yn cael ei chwarae yn y bar allanol am ddim mwy na 12 diwrnod y flwyddyn, ac yn ystod cyfnod yr haf.  Fel sicrwydd pellach, dywedodd bod lefelau s?n yn cael eu monitro a byddai hysbysiad ysgrifenedig yn cael ei roi i’r Awdurdod Trwyddedu pythefnos ymlaen llaw ynghylch achlysuron o’r fath.   Awgrymodd y byddai'r amodau ychwanegol hyn yn cael eu hatodi i'r drwydded, os caniateir.

 

Bu i drafodaeth rhwng Mr Foster a Mr Phipps ar ddehongliad o’r eithriad yn Neddf Cerddoriaeth Fyw 2012 arwain at Mr  Foster yn cytuno na ddylai ei wrthwynebiad fod ar sail hyn gan nad oedd yn berthnasol yn yr achos hwn gan fod y ddeddfwriaeth yn caniatáu adloniant byw gan gynnwys perfformiad byw a cherddoriaeth wedi’i recordio yn yr eiddo tan 11pm mewn unrhyw ddigwyddiad.

 

Roedd pryderon a sylwadau dilynol Mr Foster ar sail niwsans statudol, niwsans cyhoeddus o ran y s?n.   Gwnaethpwyd sylwadau ynghylch cwynion a ddaeth gan Adran Rheoli Llygredd ym mis Ebrill 2017 a sut roedd y Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig (DPS) ar y pryd (bellach yn un gwahanol) a’i ymdriniaeth gyda'r Swyddog Rheoli Llygredd ar yr adeg honno.

 

 Fel yr awgrymwyd gan Mr Phipps, argymhellodd y dylid cytuno ar yr amodau ychwanegol yn dilyn ystyriaeth gan y panel.

 

Er roedd yn cydnabod pryderon y Swyddog Iechyd Yr Amgylchedd ynghylch y cwynion o ddigwyddiad cynharach yn yr eiddo, dywedodd Mr Phipps bod yr amodau arfaethedig yn rhoi sicrwydd ynghyd â  chamau a gymerwyd yn barod gan y Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig newydd, Mr Gilmartin, i ymgysylltu â phreswylwyr cyfagos.  Hefyd, rhoddodd Mr Phipps ymrwymiad y byddai arddangos manylion cyswllt Mr Gilmartin o flaen yr eiddo yn rhoi rhyw gysur i breswylwyr os ydynt yn dymuno codi unrhyw faterion.

 

Mewn ymateb i'r sylwadau ar orfodi unrhyw amodau, rhoddodd Mr Phipps sicrwydd pellach y byddai digwyddiadau yn yr eiddo mewn perthynas â cherddoriaeth byw/ cerddoriaeth wedi'i recordio yn cael ei fonitro’n wirfoddol i sicrhau eu bod mewn trefn.

 

Ceisiodd y Cadeirydd gadarnhad gan Mr Gilmartin ar y dull a gymerwyd i ymgysylltu â’r gymuned, a gofynnodd a oedd yr holl breswylwyr lleol yn ymwybodol o’r cais a’r lefel o gefnogaeth iddo.  Ymholodd Mr Phipps hyn ac eglurodd pan benodwyd ef fis yn ôl, roedd Mr Gilmartin wedi ymweld â phreswylwyr lleol i gyflwyno ei hun ac wedi rhoi ei fanylion cyswllt i’r rhai hynny nad oeddynt ar gael, a oedd wedi gwneud i ddau breswylydd ofyn beth oedd natur yr ymweliad.   Nid oedd yn gallu rhoi sylwadau ar safbwyntiau preswylwyr gan nad oedd yr un wedi’u cynnwys yn y sylwadau o fewn papurau'r agenda.  Yn ystod trafodaeth pellach, rhannwyd manylion ar brofiad gwaith perthnasol Mr Gilmartin a’r cadwyn o atebolrwydd wrth ddelio ag unrhyw faterion posibl o niwsans s?n yn yr eiddo.

 

4.2      Sylwadau gan yr Awdurdod Cyfrifol

 

Mewn ymateb i'r cwestiynau, rhannodd Mr Foster wybodaeth ar y tri cwyn a wnaethpwyd ar lefelau s?n o’r cerddoriaeth a’r mynychwyr yn y digwyddiad a gynhaliwyd yn ardd yr eiddo yn gynharach yn y flwyddyn.   Cadarnhaodd bod y canfyddiadau yn gyfyngedig gan fod y digwyddiad wedi bod, ond bod natur y cwynion yn berthnasol i niwsans statudol posibl.  Pan ofynnwyd am gam gweithredu dilynol, dywedodd Mr Foster nad oedd hyn wedi digwydd gyda Punch Taverns Plc, fodd bynnag roedd y Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig ar y pryd wedi rhoi ymateb diystyriol.  Nid oedd unrhyw dystiolaeth bod unrhyw gwynion wedi dod i law ynghylch yr eiddo ers y digwyddiad hwn.

 

4.3       Penderfyniad am y Cais

 

Cafodd y gwrandawiad ei oedi am ychydig i ganiatáu Mr Phipps, Mr Dillon a Mr Foster gytuno ar eiriad yr amodau arfaethedig.  Ar ôl dychwelyd, ailddechreuodd y gwrandawid, a rhoddodd y Cadeirydd gyfle i bob parti roi crynodeb.

 

Ailadroddodd Mr Phipps dderbyniad yr ymgeisydd o’r cynigion gan Heddlu Gogledd Cymru ynghyd â’r amodau ychwanegol a drafodwyd gyda Mr Foster a’r Adran Rheoli Llygredd, gan gynnwys cownter arlwyo bar allanol yn cael ei oruchwylio drwy'r amser pan fydd yn cael ei ddefnyddio.  Roedd yn gobeithio y byddai'r rhain yn bodloni pawb sydd ynghlwm.

 

Cadarnhaodd Mr Foster y chwe amod ychwanegol:

 

  • Cerddoriaeth wedi'i recordio/ cerddoriaeth fyw i’w ganiatáu yn y man tu allan am 12 diwrnod y flwyddyn yn unig.
  • Adran Diogelu'r Amgylchedd Cyngor Sir Y Fflint yn cael hysbysiad 14 diwrnod o ddigwyddiadau o’r fath.
  • Manylion yr adloniant/ artistiaid i gael eu cofnodi yn llyfr digwyddiadau yr eiddo.
  • Monitro allanol yn ardal y preswylwyr lleol i gael ei gyflawni gan reolaeth (a’i gofnodi yn y llyfr digwyddiadau) yn ystod unrhyw ymarfer s?n neu ar ddechrau’r adloniant.
  • Bydd mesurau adferol yn cael eu cymryd os bydd y rheolaeth yn credu bod y lefelau yn ormodol.
  • Adloniant i’w gyfyngu tan 9pm.

 

Mewn ymateb i gwestiynau pellach, eglurodd Ms Kerr bod gosodiad y cownter arlwyo bar allanol ddim yn cael ei ddefnyddio eto.

 

Dosbarthwyd y geiriad ar gyfer y chwe amod arfaethedig ychwanegol i’r panel eu hystyried.

 

I roi sicrwydd pellach i breswylwyr lleol, gofynnodd y Cadeirydd a fyddai’r ymgeisydd yn fodlon cyfarfod ag Aelodau'r Cyngor lleol a phreswylwyr mewn gr?p cyswllt anffurfiol.  Cytunodd Mr Phipps y byddai cyfarfod yn cael ei drefnu yn yr eiddo bob chwe mis, a chytunwyd i wahodd Aelodau’r Cyngor lleol yn cael eu hanfon drwy’r adran Drwyddedu.  Hefyd dywedodd Mr Phipps y byddai’r Swyddog Iechyd Yr Amgylchedd y Cyngor yn cael ei wahodd hefyd i fynychu’r cyfarfodydd.

 

Bu i bawb a oedd yn bresennol, ar wahân i’r Cadeirydd, Aelodau'r Pwyllgor, Cyfreithiwr a Swyddog Gwasanaethau Democrataidd, adael yr ystafell i alluogi’r panel i ddod i benderfyniad.

 

4.4       Penderfyniad

 

Rhoddodd y panel ystyriaeth i'r holl sylwadau, y rhai ysgrifenedig a llafar,  a'r pwysau i’w atodi i'r holl dystiolaeth a wrandawyd yn ogystal â'r amcanion trwyddedu perthnasol o fewn y cais, sef atal niwsans cyhoeddus.

 

Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno ar yr amodau arfaethedig gan Heddlu Gogledd Cymru, gan gynnwys newid awr terfynell gweithgareddau trwyddedadwy.   Hefyd roedd yn ystyried bod y gwrthwynebiad a godwyd gan y Swyddog Iechyd Yr Amgylchedd ddim yn berthnasol i’r cais hwn, er bod pryderon ynghylch niwsans s?n a’r mater blaenorol ym mis Ebrill yn berthnasol i raddau, gan yr oedd wedi codi pryderon ynghylch yr Amcan Trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus i symud ymlaen. Fodd bynnag, roedd y panel yn credu bod y ffaith bod yr Adran Rheoli Llygredd a’r ymgeisydd wedi cytuno ar amodau ychwanegol yn cynorthwyo i ddiogelu’r amcan trwyddedig a darparu sicrwydd i breswylwyr lleol.  Hefyd nodwyd bod y materion blaenorol yn ymwneud â s?n yn berthnasol ar adeg pan roedd Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig gwahanol. Hefyd nodwyd nad oedd unrhyw sylwadau wedi’u gwneud gan breswylwyr lleol a nid oedd unrhyw gwynion wedi’u gwneud ers y digwyddiad tu allan blaenorol yn yr eiddo ym mis Ebrill 2017.

 

Cytunodd y panel i amrywio’r drwydded i gynnwys bar allanol gyda holl weithgareddau a gwasanaethau trwyddedadwy yn dod i ben am 9pm, fel y cytunwyd yn amodol â’r amodau a gynigwyd gan Heddlu Gogledd Cymru a’r rhai hynny a gynigwyd yn y gwrandawiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cais i amrywio Trwydded Safle presennol Nant Inn, Bwcle, i’w gymeradwyo i gynnwys bar allanol gyda gweithgareddau a gwasanaethau trwyddedadwy yn dod i ben am 9pm fel y cytunwyd, yn amodol ar yr amodau canlynol:

 

·         Mae’n rhaid gosod system CCTV, disg caled, lliw a digidol a’i gynnal i sicrhau ei fod yn gweithio’n dda.  Recordiadau i gael eu cadw am o leiaf 28 diwrnod ar gael i'w harchwilio gan yr Heddlu neu Awdurdod Lleol yn ôl cais, a chael eu prosesu yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

·         Y camera CCTV i gyflenwi ardal cownter arlwyo bar allanol.

·         Mae’n rhaid hyfforddi aelod o staff i ddefnyddio’r system CCTV gyda gwybodaeth a galluedd i lawrlwytho ffilmiau yn ôl cais yr Heddlu neu Awdurdod Lleol yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

·         Bydd y man cownter arlwyo bar allanol, pan fydd yn cael ei ddefnyddio yn cael ei oruchwylio drwy'r amser.

·         Cerddoriaeth wedi'i recordio/ cerddoriaeth fyw i’w ganiatáu yn y man tu allan am 12 diwrnod y flwyddyn yn unig.

·         Adran Diogelu'r Amgylchedd Cyngor Sir Y Fflint yn cael hysbysiad 14 diwrnod o ddigwyddiadau o’r fath.

·         Manylion yr adloniant/ artistiaid i gael eu cofnodi yn llyfr digwyddiadau yr eiddo.

·         Monitro allanol yn ardal y preswylwyr lleol i gael ei gyflawni gan y rheolwyr (a’i gofnodi yn y llyfr digwyddiadau) yn ystod unrhyw ymarfer s?n neu ar ddechrau’r adloniant.

·         Bydd mesurau adferol yn cael eu cymryd os bydd y rheolwyr yn credu bod y lefelau yn ormodol.

·         Adloniant i’w gyfyngu tan 9pm.

  • Preswylwyr lleol, Aelodau’r Ward, Swyddog Rheoli Llygredd Cyngor Sir Y Fflint i’w gwahodd i gyfarfod gyda’r Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig a staff rheoli eraill yn yr eiddo bob chwe mis, i’w gynnal gan yr ymgeisydd yn yr eiddo.  Bydd gwahoddiadau i Aelodau’r Ward yn cael ei drefnu drwy’r adran Drwyddedu Cyngor Sir Y Fflint.

Awdur yr adroddiad: Gemma Potter

Dyddiad cyhoeddi: 17/10/2017

Dyddiad y penderfyniad: 04/09/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/09/2017 - Is-bwyllgor Trwyddedu

Accompanying Documents: