Manylion y penderfyniad

Revenue Budget Monitoring 2017/18 (Month 6) and Capital Programme Monitoring (Month 6)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide the latest revenue budget monitoring position for 2017/18 for the Council Fund and Housing Revenue Account (based on actual income and expenditure as at Month 6 projected forward to year end).  To provide information on Month 6 of the Capital Programme 2017/18.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Rheolwr Cyllid adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer 2017/18 fel yr oedd ar Fis 6 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf, cyn cael ystyriaeth gan y Cabinet.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

O ran Cronfa’r Cyngor, rhagwelwyd y byddai sefyllfa net yn ystod y flwyddyn yn £1.147m uwch na’r gyllideb, a oedd yn gynnydd o £0.201m o Fis 5. O ran amrywiadau a ragwelwyd ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, roedd symudiad cadarnhaol oherwydd cynnydd o ran cyfraniadau cleientiaid ar gyfer lleoliadau preswyl a chynnydd o ran cyllid Gofal Iechyd Parhaus.  Roedd cynnydd o ran costau ar gyfer lleoliadau y Tu Allan i’r Sir wedi codi yn bennaf oherwydd dau achos penodol.  Amcangyfrifwyd y byddai 93% o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd wedi’u sicrhau erbyn diwedd y flwyddyn, a oedd ychydig yn is na tharged y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.  O ran monitro risg, byddai angen asesu rhai o’r risgiau a oedd yn dod i’r amlwg yn ystod y flwyddyn ar gyfer effaith gylchol ar gyllideb 2018/19.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, rhagwelwyd mai gwariant yn ystod y flwyddyn oedd £0.035m yn is na’r gyllideb, gan adael balans diwedd blwyddyn o £1.081m a oedd yn uwch na’r lefel isaf a argymhellwyd.

 

Gan ymateb i’r ymholiadau a godwyd gan y Cynghorydd Jones, cynghorodd swyddogion fod cau’r toiled cyhoeddus yn yr Wyddgrug wedi’i drafod gan y cyngor tref ac ni fyddai’r gost yn parhau y tu hwnt i eleni.  O ran cyllidebau dirprwyedig ysgolion, eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol nad oedd amrywiadau oherwydd bod y rhain yn symiau sefydlog a drosglwyddwyd i ysgolion drwy’r fformiwla.  Nododd y cais am ragor o eglurder ar danwariant a gorwariant yn yr eglurhad am amrywiadau a ragwelwyd, a dywedodd fod dadansoddiad ar symudiad wedi’i nodi yn yr atodiadau.  Ychwanegodd y dylai unrhyw ymholiadau penodol ar y ffigurau hyn gael eu cyfeirio i swyddogion edrych arnynt.  Rhoddwyd eglurhad am amrywiadau ar gyfer cyfran y Cyngor o gyllid gofal cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru a’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref.  Cyfeiriwyd at y tanwariant a ragwelwyd ar gyfer Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor ac roedd hyn oherwydd llai o alw gan gleientiaid.  Cytunwyd y byddai hyn yn destun trafodaeth bellach gan gynnwys y gweithdy Aelodau a oedd i ddod.

 

O ran fformat yr adroddiad, gofynnodd y Cynghorydd Jones fod swyddogion yn edrych ar a ellid dangos bod lleoliad atodiadau’n gyson yn yr adroddiadau.

 

Rhaglen Gyfalaf

 

Roedd tabl yn dangos newidiadau i’r rhaglen yn ystod 2017/18 yn dangos cyllideb ddiwygiedig o £58.674m.  Cafwyd crynodeb o newidiadau yn ystod y cyfnod, y mwyaf sylweddol oedd dechrau’r rhaglen goleuadau stryd a ariannwyd drwy fenthyciad Salix di-log.  Cafwyd crynodeb o gyfanswm o £0.497m a argymhellwyd i’w gario drosodd i 2018/19 yn Nhabl 4.

 

Roedd Paragraff 1.20 yn adrodd sefyllfa gyffredinol o ran argaeledd cyllid gan gynnwys lefel y derbyniadau cyfalaf ac effaith y Setliad Dros Dro.  Gan roi ystyriaeth i bob maes, roedd diffyg o £0.567m o ran y rhaglen gyfan, er bod cyllideb 2017/18 wedi’i hariannu’n llawn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 6) a chadarnhau mai’r materion mae’n dymuno eu dwyn i sylw’r Cabinet y tro hwn yw:

·         yr angen am eglurder o ran iaith ar danwariant a gorwariant fel bod materion o’r fath yn cael eu deall yn rhwydd;

·         bod y tanwariant ar y cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor yn cael ei archwilio a bod dyraniad y gyllideb yn cael ei ailfodelu os oes angen.

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2017/18 Mis 6 a chadarnhau nad oes materion mae’n dymuno eu dwyn i sylw’r Cabinet y tro hwn.

Awdur yr adroddiad: Sara Dulson

Dyddiad cyhoeddi: 20/12/2017

Dyddiad y penderfyniad: 16/11/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/11/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: