Manylion y penderfyniad
Workforce Information Report Q1 2017/18
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To consider the Workforce Information Report
for Quarter 1 of 2017/18.
Penderfyniadau:
Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan yr Ymgynghorydd Gwybodaeth Fusnes a Chydymffurfio a ddarparodd grynodeb ar y perfformiad cyffredinol mewn perthynas â nifer o ddangosyddion. Roedd eglurhad manylach wedi’i ddarparu ar sail eithriadol lle’r oedd perfformiad yn disgyn yn is na dangosyddion perfformiad sefydliadol neu lle'r oedd newid sylweddol, un ai ar i fyny neu ar i lawr, yn y tueddiadau a adroddwyd. Roedd y crynodeb yn cynnwys o’r newid yn y duedd a manylion unrhyw gamau gweithredu arfaethedig er mwyn gwella perfformiad neu sicrhau ei fod yn aros yr un fath.
Gofynnodd y Cynghorydd Heesom a fyddai’r adolygiad o weithwyr asiantaethau’n dod yn ei ôl ger bron y pwyllgor. Cadarnhaodd y swyddog y byddai.
Dywedodd y Cadeirydd bod y fformat dangosfwrdd a ddefnyddiwyd o fewn yr adroddiad yn ddefnyddiol iawn. Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones ei fod wedi’i greu gan ymgynghori gydag aelodau'r pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
Derbyn Adroddiad Chwarter Un ar y gweithlu.
Awdur yr adroddiad: Sharon Carney
Dyddiad cyhoeddi: 20/11/2017
Dyddiad y penderfyniad: 21/09/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/09/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Accompanying Documents: