Manylion y penderfyniad
Revenue Budget Monitoring 2017/18 (Month 4) and Capital Programme Monitoring (Month 4)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
The purpose of this report is to provide Members with the Revenue Budget Monitoring 2017/18 (Month 4) and the Month 4 (end of July) capital programme information for 2017/18.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad i’r Aelodau a oedd yn cynnwys Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 4) ac Adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2017/18 (Mis 4).
Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at y tanwariant a ragwelwyd mewn Gofal Cartref a gofynnodd beth oedd y gyllideb yn y lle cyntaf gan fod y maes hwn dan bwysau aruthrol. Atebodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol i egluro mai adlinio gorwariant a thanwariant mewn cyllidebau gofal cymdeithasol oedd hyn.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at y diffyg mewn incwm ffioedd cynllunio a ragwelwyd yn yr Adran Gynllunio a'r Amgylchedd. Gofynnodd faint a ragwelid ac a oedd gwybodaeth gefndir ar y rhain. Dywedodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai’n darparu’r wybodaeth i’r Cynghorydd Jones y tu allan i'r cyfarfod.
Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones pam yr oedd y targedau effeithlonrwydd a osodwyd mor uchel ac a fyddai'n well nodi cyllideb ddichonadwy o 90%. Yn ôl Rheolwr Cyllid Corfforaethol, pe bai hynny’n digwydd, yna fe fyddai angen dod o hyd i’r diffyg o 10% o rywle arall.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at Lyfrgelloedd Cyhoeddus a Chelfyddyd, Diwylliant a Digwyddiadau ac at yr amrywiad ar gyfer y gwasanaeth llyfrgelloedd a gofynnodd beth oedd barn y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar hyn. Atebodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol i ddweud ei fod ar y trywydd iawn gydag ychydig iawn o danwariant o £0.006 miliwn.
Cyflwynwyd yr Adroddiad Cyfalaf gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r newidiadau cryno a wnaed i Raglen Gyfalaf 2017/18 ers ei llunio ym mis Chwefror 2018 hyd at ddiwedd mis 4 (Gorffennaf 2017).
PENDERFYNWYD:
(a) Nad oes gan y Pwyllgor, ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 4), unrhyw faterion penodol mae’n dymuno eu nodi a’u hadrodd ar lafar wrth y Cabinet.
(b) Nad oes gan y pwyllgor, ar ôl ystyried Adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2017/18 (Mis 4), unrhyw faterion penodol mae’n dymuno eu nodi a’u hadrodd ar lafar wrth y Cabinet.
Awdur yr adroddiad: Sara Dulson
Dyddiad cyhoeddi: 20/11/2017
Dyddiad y penderfyniad: 21/09/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/09/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Accompanying Documents: