Manylion y penderfyniad
NEWydd Catering and Cleaning Alternative Delivery Model
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide the Committee with an
update
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) yr adroddiad diweddariad ar ddatblygiad Model Cyflawni Amgen ar gyfer Rheoli Cyfleusterau oedd yn arwain at drosglwyddo Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau NEWydd i Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol gyda Teckal Exemption.
Rhoddwyd trosolwg o weithgareddau oedd yn arwain at sefydlu’r cwmni ar 1 Mai 2017. Drwy ddefnyddio Teckal Exemption, roedd y cwmni yn eiddo i’r Cyngor ond roedd yn elwa o allu gweithio i raddau cyfyngedig gydag asiantaethau eraill. Roedd diwydrwydd ar gynllunio busnes cadarn yn rhan o’r broses ac roedd Bwrdd aml-fedrus wedi’i sefydlu gyda chynrychiolwyr yn y gymuned leol. Roedd system ariannol newydd wedi’i fabwysiadu i adlewyrchu’r gwahanol ffordd yr oedd y cwmni’n gweithio.
Gwahoddwyd Mr Steve Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau NEWydd a Mr Darren Jones, Cadeirydd y Bwrdd i rannu eu barn ar gynnydd ers trosglwyddo’r cwmni.
Yn ystod eu cyflwyniad, cyfeiriwyd at fudd set sgiliau cyfunol y Bwrdd i helpu i gefnogi datblygiad y cwmni. Roedd yr oedi byr cyn y dyddiad lansio o ganlyniad i’r angen i fynd i’r afael â materion technegol a ddatryswyd drwy gydweithio effeithiol gydag adrannau’r Cyngor. Dywedwyd bod symud y gweithwyr i’r cwmni wedi cynnwys canlyniadau cadarnhaol, ynghyd ag ymatebion gan ddefnyddwyr gwasanaeth y rhan fwyaf wedi eu cadw. Rhoddwyd adroddiad calonogol ar berfformiad ariannol yn erbyn targedau wrth gydnabod yr amcanion tymor hir i ddatblygu busnes a lleihau cymhorthdal. Byddai cynnwys ymgynghorydd i adolygu’r cynllun busnes hefyd yn helpu i nodi cyfleoedd ar gyfer cynnydd a rhoi cyngor ar faterion llywodraethu.
Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Ian Dunbar, cafwyd trafodaeth yngl?n â glanhau eiddo gwag.
Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton am drefniadau gyda phrydau ysgol a dywedwyd am y defnydd o ddulliau marchnata a chefnogaeth ar gyfer dewisiadau iach, tra byddai hyblygrwydd ar fframweithiau caffael yn helpu i fwyhau effeithiolrwydd. Ar effaith posibl y dreth prentisiaeth, roedd y cwmni wedi cael gwybod bod hyn yn rhan o drefniadau’r Cyngor. Ymatebwyd i ymholiadau’r Cynghorydd David Wisinger hefyd yngl?n ag effeithiau posibl Brexit.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ar ffigurau a ddangoswyd yn adroddiad y Cabinet o Chwefror 2016, eglurwyd bod llawer o waith wedi'i wneud ar gyllid ers hynny.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith a wnaed mewn perthynas â throsglwyddo Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau NEWydd i Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol gyda Teckal Exemption.
Awdur yr adroddiad: Neal Cockerton (old)
Dyddiad cyhoeddi: 24/10/2017
Dyddiad y penderfyniad: 17/07/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/07/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol