Manylion y penderfyniad
Goddefebau
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Ar ôl dosbarthu'r agenda, cafwyd dau gais am ryddhad gan y Cynghorydd Sir Carol Ellis, a Chynghorydd Tref Bwcle David Ellid
Darparodd yr Is-swyddog Monitro fanylion y ceisiadau a oedd yn gysylltiedig â chais cynllunio (rhif cyfeirnod:057259) a fyddai’n effeithio ar Ganolfan Gymunedol Hawkesbury.
Cynghorydd Tref Bwcle David Ellis
Darparodd y Swyddog Monitro wybodaeth gefndir i’r cais a oedd yn ceisio “siarad a phleidleisio” ar gais cynllunio a fyddai, pe bai’n caniatâd, yn effeithio ar Ganolfan Gymunedol Hawkesbury. Cadarnhaodd mai’r paragraff perthnasol y byddai'r cais am ryddhad yn cael ei wneud oddi dano oedd (d).
Cynghorydd Sir Carol Ellis
Gofynnwyd i’r pwyllgor ystyried cais am ryddhad a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Carol Ellis “i allu siarad ond nid pleidleisio” ar gais cynllunio a fyddai’n effeithio ar bob defnydd yn Ardal Hawkesbury. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro mai’r paragraff perthnasol y byddai'r cais am ryddhad yn cael ei wneud oddi dano oedd (d).
PENDERFYNWYD:
Cynghorydd Tref David Ellis
Caniatáu rhyddhad i’r Cynghorydd Tref David Ellis o dan baragraff (d) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Caniatáu Rhyddhad) (Cymru) 2001 i siarad yng Nghyngor Tref Bwcle am y cais (rhif cyfeirnod:057259), neu unrhyw gais fydd, ym marn y Swyddog Monitro, yn debyg ond i adael yr ystafell cyn i’r cais gael ei ddadlau a chyn pleidleisio arno. Hefyd i wneud sylwadau ysgrifenedig ar y cais (rhif cyfeirnod:057259), neu unrhyw gais sydd, ym marn y Swyddog Monitro, yn debyg i Gyngor Tref Bwcle.Caniateir y rhyddhad am gyfnod o 12 mis.
Cynghorydd Sir Carol Ellis
Caniatáu rhyddhad i’r Cynghorydd Sir Carol Ellis o dan baragraff (d) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Caniatáu Rhyddhad) (Cymru) 2001 i siarad am y cais (rhif cyfeirnod:057259), neu unrhyw gais fydd, ym marn y Swyddog Monitro, yn debyg yng Nghyngor Tref Bwcle ac am 5 munud yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio, ond i adael yr ystafell cyn i’r cais gael ei ddadlau a chyn pleidleisio arno. Hefyd i wneud sylwadau ysgrifenedig ar y cais (rhif cyfeirnod:057259), neu unrhyw gais sydd, ym marn y Swyddog Monitro, yn debyg i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Y Fflint a/neu Gyngor Tref Bwcle.Caniateir y rhyddhad am gyfnod o 12 mis.
Dyddiad cyhoeddi: 27/07/2018
Dyddiad y penderfyniad: 04/09/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/09/2017 - Pwyllgor Safonau