Manylion y penderfyniad

Food Service Plan 2017/18

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To approve the Food Service Plan 2017-18

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) Gynllun Gwasanaeth Bwyd 2017-18 a oedd yn amlinellu'r nodau a'r amcanion ar gyfer y Gwasanaeth Bwyd dros y flwyddyn i ddod, gydag adolygiad o'i berfformiad yn 2016-17. Roedd gofyn i'r Cyngor lunio'r cynllun yn flynyddol ac fe geisiwyd barn cyn ceisio cymeradwyaeth gan y Cabinet a'i anfon ymlaen at yr Asiantaeth Safonau Bwyd.  Cafodd yr aelodau wybod am sesiwn wybodaeth ar ddiogelwch bwyd a fyddai’n cael ei gosod yn Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor.

 

Rhoddodd Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd – Cymunedau a Busnesau drosolwg o’r tîm diogelwch bwyd gan nodi’r cyflawniadau allweddol yn ei berfformiad yn 2016/17 yn ogystal â thargedau ar gyfer 2017/18.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Paul Shotton, eglurodd y Rheolwr y broses ar gyfer delio gydag eiddo a oedd wedi methu mewn archwiliadau.  O ran pryderon yngl?n â hel cocos heb drwydded, dywedodd fod gan y tîm gysylltiadau da â Heddlu Gogledd Cymru a thîm Troseddau a Thwyll yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

 

Croesawodd y Cynghorydd Sean Bibby'r dull a gymerwyd i annog gwelliannau i sgoriau hylendid bwyd.  Wrth holi am fesur perfformiad mewn perthynas â diogelwch bwyd, nodwyd bod Sir y Fflint yn y chwartel a oedd yn perfformio orau drwy Gymru.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Owen Thomas yngl?n â safonau ar gyfer sefydliadau bwyd symudol ac fe gafodd wybod am y sgôr risg wahanol a oedd yn berthnasol i sefydliadau a bennwyd yn rhai risg uwch gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.  Mewn perthynas â safleoedd a oedd yn ennill sgôr hylendid o 3, cydnabuwyd bod y sefydliadau hynny wedi bodloni rhai o'r elfennau a oedd yn rhan o'r asesiad trylwyr.

 

Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Haydn Bateman, darparodd y Rheolwr eglurhad ar waith ar sefydliadau bwyd.  Gellid rhannu mwy o fanylion yn y sesiwn wybodaeth ar ddiogelwch bwyd.

 

Canmolodd y Cynghorydd Chris Bithell ganfyddiadau’r adroddiad, a oedd yn adlewyrchu gwaith pwysig y tîm wrth hyrwyddo safonau diogelwch a hylendid.  Dywedodd y byddai gwaith yn parhau i wneud cynnydd ar y cyflawniadau hynny yn 2017/18.  Aeth yn ei flaen i groesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol i arddangos sgoriau hylendid bwyd.

 

Mewn perthynas â chydweithio gyda chynghorau eraill, awgrymodd y Cynghorydd David Evans fod posib’ i Sir y Fflint gymryd rôl arweiniol â gwasanaethau i greu incwm.  Dywedodd y Rheolwr y gallai hwn fod yn bwnc i'w ystyried yn y dyfodol ond y byddai'n gofyn am fuddsoddiadau i ddatblygu'r gwasanaeth a chynyddu'r gallu i gyflawni gwaith.  Aeth yn ei blaen i roi enghreifftiau o waith rhanbarthol cyfredol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2017-18.

Awdur yr adroddiad: Sian Jones (Environment)

Dyddiad cyhoeddi: 10/10/2017

Dyddiad y penderfyniad: 11/07/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/07/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Dogfennau Atodol: