Manylion y penderfyniad

Council Plan 2017-23

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider and endorse specific targets set within the Council Plan 2017-23, plus national performance indicators

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad i ystyried y ddogfen targedau a cherrig milltir, Cynllun (Gwella) y Cyngor 2017-23, ac i roi adborth i’r Cabinet cyn iddi gael ei mabwysiadu gan y Cyngor Sir i’w chyhoeddi’n derfynol.

 

            Rhoddodd y Prif Swyddog Dros Dro wybodaeth gefndir ac adroddiad ar Gynllun (Gwella) y Cyngor 2017-23, a’r ddogfen arfaethedig “Sut Rydyn ni’n Mesur” a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad. Dywedodd fod prif strwythur y Cynllun yr un fath â’r cynlluniau blaenorol a’i fod yn cynnwys chwe blaenoriaeth ac is-flaenoriaethau perthnasol. Roedd y chwe blaenoriaeth yn edrych ar brosiectau ac uchelgeisiau’r Awdurdod yn y tymor hir, dros y pum mlynedd nesaf.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd David Mackie at dudalen 49 o’r adroddiad a mynegodd bryder yngl?n â’r targedau oedd wedi’u gosod. Mewn ymateb eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro y fethodoleg gosod targedau a’r anawsterau a brofwyd gan Benaethiaid wrth osod targedau perfformiad. Dywedodd fod y cynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn gadarnhaol at ei gilydd a bod perfformiad disgyblion wedi gwella ar ôl y Cyfnod Sylfaen. Eglurodd fod ysgolion yn gosod eu targedau eu hunain a soniodd am yr anhawster o ragweld perfformiad plant bach pan fyddant yn ifanc iawn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts ei bod yn glod i’r ysgolion eu bod wedi cyflawni uwchlaw’r targedau, oedd yn rhai i ymgyrraedd atynt.

 

Gan gyfeirio at dudalennau 48 a 49 o’r adroddiad, cyfeiriodd y Cynghorydd Tudor Jones at yr angen i gefnogi athrawon sy’n wynebu ymddygiad anodd a heriol yn y dosbarth a dywedodd nad oedd y Cynllun yn ôl pob golwg yn cyfeirio at gyrff allanol; enwodd wasanaethau teulu seicolegol Barnardo’s a’r Gwasanaeth Iechyd fel enghraifft. Dywedodd hefyd fod angen annog plant i fanteisio ar Brydau Ysgol am Ddim. Mewn ymateb, eglurodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Dilyniant) y cynllun cynhwysiant a’r cymorth sydd ar waith er mwyn i ddisgyblion ac athrawon weithio’n effeithiol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Hughes sut yr oeddid yn ymdrin ag absenoldeb o’r ysgol pan nad yw’r disgyblion wedi cael caniatâd. Dywedodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Dilyniant) fod y lefelau absenoldeb heb ganiatâd yn isel yn Sir y Fflint. Fodd bynnag, roedd lefel uchel o absenoldeb gyda chaniatâd ac roedd Gr?p Gorchwyl a Gorffen, gyda phenaethiaid ac asiantaethau perthnasol, wedi’i sefydlu i edrych ar y mater. Dywedodd y gallai penaethiaid awdurdodi 10 diwrnod o absenoldeb gwyliau i ddisgyblion.

 

PENDERFYNWYD

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r targedau a’r cerrig milltir yn y ddogfen Mesurau a Cherrig Milltir (atodiad 2) a Chynllun (Gwella) y Cyngor 2017-23 ac yn hysbysu’r cabinet, cyn iddynt gael eu mabwysiadu gan y Cyngor Sir i’w cyhoeddi’n derfynol.

Awdur yr adroddiad: Christopher X Phillips

Dyddiad cyhoeddi: 03/04/2018

Dyddiad y penderfyniad: 28/07/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/07/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid

Accompanying Documents: