Manylion y penderfyniad
Welsh Language Standards Annual Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To endorse the progress made in complying with the Welsh Language Standards and to note the future work programme.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad hwn oedd yn rhoi trosolwg ar yr Adroddiad Blynyddol ar y Gymraeg ac ar y cynnydd gyda chydymffurfio â’r Safonau ac unrhyw feysydd lle’r oedd angen gwella. Cyfeiriodd at weledigaeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, bod angen i nifer y siaradwyr Cymraeg gynyddu i filiwn erbyn 2050.
Eglurodd y Prif Weithredwr fod y data yn yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am yr Hysbysiad Cydymffurfio a’r camau a gymerwyd i gwrdd â’r Safonau. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi manylion am y cynnydd a wnaed a meysydd i’w gwella.
Cafwyd 16 o gwynion yn ymwneud â’r Gymraeg yn 2016/17, yn ymwneud ag 17 o achosion posib o dorri’r Safonau. O’r rhain, roedd naw cwyn yn cael eu hymchwilio gan Gomisiynydd y Gymraeg a dau arall yn cael eu hymchwilio. Penderfynodd y Comisiynydd fod y Cyngor wedi torri wyth o’r Safonau a dewisodd beidio â dirwyo’r Cyngor ond cyflwynodd rybuddion gorfodi a gwnaeth un argymhelliad.
Cyfeiriodd y Cynghorwyr Shotton a Roberts at ddyhead y Prif Weinidog am weld cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg, gan ofyn a fyddai cyllid ar gael i helpu awdurdodau lleol i gyflawni’r nifer hwn. Ychwanegodd y Cynghorydd Shotton fod Sir y Fflint eisoes yn cyfrannu’n sylweddol at y nifer gydag Ysgol Croes Atti yn y Fflint a’r ysgol loeren yn Shotton. Cyfeiriodd hefyd at y Cylch Meithrin yn Garden City oedd yn wasanaeth Dechrau’n Deg cyfrwng Cymraeg lle’r oedd pobl yn cofleidio’r iaith Gymraeg. Dywedodd y Cynghorydd Jones ei bod yn falch o gael y ddarpariaeth hon yn ei ward a chyfeiriodd hefyd at nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.
PENDERFYNWYD:
(a) Cytuno ar yr Adroddiad Monitro Blynyddol ar y Gymraeg am y cyfnod 2016/17; a
(b) Nodi’r cynnydd sy’n cael ei wneud gyda gweithredu Safonau’r Gymraeg a’r meysydd sydd angen eu gwella.
Awdur yr adroddiad: Fiona Mocko
Dyddiad cyhoeddi: 27/09/2017
Dyddiad y penderfyniad: 18/07/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/07/2017 - Cabinet
Yn effeithiol o: 27/07/2017
Dogfennau Atodol: