Manylion y penderfyniad

North East Wales (NEW) Homes Business Plan

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

To seek approval of the North East Wales (NEW) Homes Business Plan.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyo Cynllun Busnes (NEW) Homes Gogledd-Ddwyrain Cymru 2017/22.

 

                        Roedd y cynllun yn cyflwyno elfennau allweddol cynllun twf arfaethedig y cwmni i gynyddu nifer yr eiddo a reolir ac a berchenogir fel tai fforddiadwy dros y pum mlynedd nesaf.

 

                        Cafodd y Cynllun Busnes ei gymeradwyo gan Fwrdd NEW Homes ar 28 Mawrth 2017 gan gynnwys The Walks, Y Fflint a fyddai’n gweld darparu 62 o dai a rhandai fforddiadwy.  Cafodd y saith eiddo cyntaf gan NEW Homes ar The Walks, Y Fflint eu gosod ym Mehefin 2017 gyda threfniadau i raddol drosglwyddo holl eiddo’r cynllun yn y dyfodol.  Byddai’r holl gynlluniau arfaethedig gan SHARP yn y dyfodol yn cael eu cymeradwyo gan gwmni NEW Homes a’r Cabinet, fesul cynllun.

 

                        Roedd NEW Homes yn rheoli a gosod eiddo ar ran y landlordiaid oedd yn berchen arnynt, drwy gytundeb rheoli.  Ar hyn o bryd roedd 29 eiddo yn y portffolio rheoli.

 

                        Croesawodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad gan ganmol ansawdd y datblygiad yn The Walks, Y Fflint.  Cyfeiriodd at y berthynas gadarnhaol rhwng y Cyngor a’r datblygwr gan longyfarch pawb a fu’n rhan o’r cynllun.  Croesawyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Bithell hefyd a’i fod yn galondid i bobl leol mewn angen.

 

                        Diolchodd y Cynghorydd Attridge i’r Aelodau am eu sylwadau a dywedodd ei fod yn falch iawn o gyhoeddi fod Cyngor Sir y Fflint wedi ennill gwobr yr wythnos cynt drwy “Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru”.  Cafwyd cystadlu chwyrn gan brosiectau mawr eraill o Gymru a byddai’r Cyngor, yn dilyn y llwyddiant hwn, yn mynd ymlaen i gystadlu yn rownd derfynol y DU ym mis Tachwedd.  Diolchodd i’r holl staff a dywedodd y byddai’r wobr yn cael ei chyflwyno yn y Cyngor Sir ym mis Medi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Cynllun Busnes NEW Homes 2017/22 gan nodi y byddai unrhyw ddatblygiadau arfaethedig lle’r oedd angen arian cyfalaf yn dod o flaen y Cabinet i’w cymeradwyo fesul cynllun ar ôl eu cymeradwyo gan Fwrdd NEW Homes.

Awdur yr adroddiad: Melville Evans

Dyddiad cyhoeddi: 27/09/2017

Dyddiad y penderfyniad: 18/07/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/07/2017 - Cabinet

Yn effeithiol o: 27/07/2017

Dogfennau Atodol: