Manylion y penderfyniad

Universal Credit Roll Out

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

To provide an update on the implementation of Universal Credit Full Service.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad hwn oedd yn rhoi diweddariad ar effaith ‘Gwasanaeth Llawn’ y Credyd Cynhwysol ar breswylwyr yn Sir y Fflint a sut y byddai’n cael effaith bellach wrth ei gyflwyno’n ehangach.

 

Eglurodd y Rheolwr Budd-daliadau fod y ‘Gwasanaeth Llawn’ yn disodli chwe budd-dal blaenorol i hawlwyr oed gweithio, sef:

 

·         Budd-dâl Tai;

·         Cymhorthdal Incwm;

·         Lwfans Ceisio Gwaith;

·         Cymorth Cyflogaeth;

·         Credyd Treth Plant; a’r

·         Credyd Treth Gwaith

 

Rhwng Ebrill a Mehefin 2017 roedd 362 o gwsmeriaid yn derbyn ‘Gwasanaeth Llawn’ y Credyd Cynhwysol, 65 ohonynt wedi eu hadnabod i fod angen Cymorth gyda Chyllidebu Personol oedd wedi’i ddarparu gan Dîm Ymateb i Ddiwygiadau Lles y Sir.  Roedd swyddogion wedi rhoi cymorth digidol i 352 o gwsmeriaid gyda rheoli eu hawliadau ar-lein.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am yr effaith ar ôl-ddyledion rhent, ôl-ddyledion treth cyngor, gwasanaethau eraill a phartneriaid gan nodi’r cymorth a gynigiwyd i gwsmeriaid.

 

Roedd yr achosion Cymorth a Chyllidebu Personol eisoes wedi codi materion gan gynnwys bod gan fenthycwyr ‘diwrnod cyflog’ fynediad uniongyrchol at gyfrif banc y cwsmer ac felly, pan oedd eu Credyd Cynhwysol misol yn cael ei dalu, roeddent yn mynd i mewn i’w cyfrif gan adael y cwsmer heb ddigon o arian i fyw arno bob mis. 

 

Roedd hyfforddiant a chyfathrebu’n cael ei ddarparu i’r holl staff rheng flaen i roi cyngor ac arweiniad ar sut orau i helpu cwsmeriaid oedd yn derbyn Credyd Cynhwysol.

 

Talodd y Cynghorydd Mullin deyrnged i’r Rheolwr Budd-daliadau a’i staff oedd yn gwneud gwaith da’n cefnogi cwsmeriaid ers cyflwyno’r Credyd Cynhwysol.

 

PENDERFYNWYD:

           

Nodi’r adroddiad a chefnogi’r gwaith oedd yn cael ei wneud i reoli’r effaith y mae ‘Gwasanaeth Llawn’ y Credyd Cynhwysol eisoes yn ei gael, ac y bydd yn ei gael, ar gartrefi a theuluoedd mwyaf bregus Sir y Fflint.

Awdur yr adroddiad: Jen Griffiths

Dyddiad cyhoeddi: 27/09/2017

Dyddiad y penderfyniad: 18/07/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/07/2017 - Cabinet

Yn effeithiol o: 27/07/2017

Dogfennau Atodol: